Ydych chi'n siarad gyda'ch plant am yr etholiad?

  • Cyhoeddwyd

Gall siarad am wleidyddiaeth gyda’ch plant fod yn dalcen caled.

Gyda’r ansefydlogrwydd sydd wedi bod yn San Steffan dros y blynyddoedd diwethaf, yw plant wir yn cymryd sylw tu hwnt i memes gwawdlyd a TikTok? Ac ydy drama wleidyddol y DU wir o ddiddordeb iddyn nhw?

Ffynhonnell y llun, ITV/Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Arweinwyr y prif bleidiau ar raglen Leaders Debate ITV a ddarlledwyd ar 13 Mehefin 2024

Gwir, ’sdim angen iddyn nhw wybod glo mân polisïau’r pleidiau na darllen maniffestos ond gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel gallai nawr fod yn amser da i siarad gyda nhw am elfennau sylfaenol democratiaeth fel beth yw pleidlais a pham ei bod hi'n bwysig pleidleisio.

Mae dod ag oed y bleidlais i lawr i 16 yn etholiadau'r DU yn bwnc trafod ers sawl blwyddyn ac yn rhannu barn.

Ydy pobl ifanc yn ddigon aeddfed ac yn deall gwerth eu pleidlais? Onid yw hi felly yn gwneud synnwyr i ddechrau siarad efo plant am ddemocratiaeth o oedran ifanc?

Adnoddau newydd difyr

Eleni, mae BBC Bitesize wedi cyhoeddi cyfres o adnoddau wedi’u hanelu at gynulleidfa wyth i 11 mlwydd oed sy’n trafod a yw gweithredu cymdeithasol yn gwneud gwahaniaeth, pwy sy’n gwneud penderfyniadau dros Gymru, a’r hawl i bleidleiso.

Yn yr animeiddiadau hyn mae tri chymeriad, Efa, Lina a Rhys, yn dysgu am sut i bleidleisio, a'r gwahanol ffyrdd i godi llais a gwthio am newid cymdeithasol.

Disgrifiad,

Mae Efa, Lina a Rhys yn trafod yr hawl i bleidleisio yn etholiad y cyngor yr ysgol

Beth am blant hŷn a phobl ifanc?

Ffynhonnell y llun, Getty
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pobl 16 ac 17 oed yng Nghymru bleidleisio am y tro cyntaf yn Etholiad 2021

Mae pobl 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio yn etholiadau Cymru ond nid yn rhai'r DU. Felly mae'n bosib y gallai pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed ofyn pam nad ydyn nhw'n cael gwneud yn etholiad y DU?

Yng nghyfres 'Gwleidyddiaeth Go Iawn' sy'n adnodd am ddinasyddiaeth i blant 11 i 14 mlwydd oed, mae fideos bywiog yn egluro'r gwahanol lefelau o lywodraethu: lleol, Cymru, a'r DU, mewn ffordd ysgafn ac sy'n hawdd ei drafod.

Mae'n ymhelaethu ar sut mae'r tri pheth yn wahanol a'r hyn y mae ganddyn nhw gyfrifoldeb drosto.

Ceir hefyd eglurhad syml o rai o'r geiriau ac ymadroddion sy'n cael eu taflu o gwmpas ar adeg etholiad fel pôl piniwn, cyntaf i'r felin, deddfwriaeth, datganoli a senedd.

Disgrifiad,

Mirain Iwerydd a Geraint Rhys yn egluro "Be 'di be"

Felly os ydych chi eisiau goglais diddordeb eich plant mewn gwleidyddiaeth, efallai y bydd cipolwg ar ambell un o'r fideos hyn yn sbardun da i chi!

Pynciau cysylltiedig