Sut mae denu ymwelwyr a diogelu harddwch naturiol Cymru?

Emma Marshall yn nofio gwylltFfynhonnell y llun, Emma Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Emma Marshall yn dweud ei bod hi’n ymwybodol o’r angen i gael balans rhwng denu ymwelwyr a pheidio difetha harddwch naturiol

  • Cyhoeddwyd

Does dim byd tebyg i nofio yng nghanol harddwch Eryri er mwyn rhoi "buzz" i Emma Marshall o ardal Bethesda.

O'r teimlad ymlaciol ar ddiwrnod poeth o haf, i'r wefr wrth neidio i ddyfroedd rhewllyd yng nghanol y gaeaf.

Mae Emma wedi bod yn cofnodi llynnoedd neu byllau tawel, anghysbell, hardd i nofio ynddynt ar gyfer llyfr teithio newydd.

Ond a ydy rhannu'r wybodaeth yn peryglu harddwch naturiol ardal sydd eisoes yn gweld degau o filoedd o ymwelwyr y flwyddyn?

Neu ydy sicrhau bod llyfrau o'r fath yn cael eu hysgrifennu gan bobl leol yn sicrhau bod modd annog twristiaeth gyfrifol?

Ffynhonnell y llun, Emma Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Mae Emma Marshall wedi bod yn cofnodi llynnoedd neu byllau tawel, anghysbell, hardd i nofio ynddynt yn Eryri

Mae Emma'n cyfaddef ei bod hi "byth yn arfer hoffi nofio, ac yn arbennig nofio dŵr oer", ond newidiodd popeth adeg y cyfnod clo.

"Ni'n byw cwpl o gaeau uwchben Afon Ogwen, ac ar ein teithiau dyddiol yn ystod y tywydd poeth 'na, roedd y plant a'r gŵr yn mynd i mewn i'r afon i coolio lawr.

"Ro'n i wastad ar yr ochr yn gwylio nhw, ond ar ôl tipyn o 'c'mon Mam, plis', mi fentrais i mewn yn araf bach."

Helpu'r corff a'r meddwl

Ar ôl cael ei pherswadio, doedd dim troi'n ôl, roedd hi wedi gwirioni.

"Mae'n rhoi cymaint o buzz i fi. Nid yn unig mae'n helpu'n gorfforol ond yn feddyliol hefyd.

"Mae'r teimlad yn newid efo'r tymhorau. Pan mae'n boeth, mae'r dŵr yn amlwg yn ryddhad a dwi'n gallu ymlacio, ond yn y gaeaf, pan mae ar ei oeraf, dwi'n mynd i mewn am dip bach byr ac mae'n rhyddhau dopamine, y feel good hormone.

"Dwi'n meddwl bod o'n helpu'r gwaed i symud rownd y corff yn gynt felly mae'n mynd yn syth i dy ymennydd di. Mae fel cael high!

"Y peth positif i fi, fel rhywun sy'n dioddef o glefyd Raynaud efo'r bysedd gwyn, ydi bod o 90% yn well ers i fi ddechrau nofio dŵr oer."

Mae Emma ar fin cyhoeddi cyfrol o deithiau cerdded yn Eryri sy’n arwain at lynnoedd neu byllau i nofio ynddynt.

Ond yn ddiweddar mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn ceisio mynd i'r afael ag effeithiau "ymddygiad gwrthgymdeithasol" gan ymwelwyr.

Mae Awdurdod y Parc, yr heddlu a'r cyngor lleol ymysg yr asiantaethau sydd wedi bod yn tynnu sylw at yr angen i ddiogelu cymuned a thirwedd Nant Gwynant a llwybr Watcyn i fyny’r Wyddfa yn benodol.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae parcio ar hyd y ffyrdd, problemau gyda sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi eu gweld.

Wrth i dymor yr ymwelwyr ddechrau, nod yr asiantaethau ydy hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy a phwysigrwydd parchu’r cymunedau lleol a thirwedd Eryri.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae poblogrwydd llwybr Watcyn i fyny'r Wyddfa wedi cynyddu mewn blynyddoedd diweddar

Mae sicrhau balans rhwng denu ymwelwyr a pharchu'r ardal yn rhywbeth sydd wedi bod ar feddwl Emma.

“Wnes i bendroni,” meddai, ond penderfynu y byddai'n bwrw 'mlaen.

“Wnes i benderfynu ei sgwennu o fy hun, i wneud job dda, i sôn am bwysigrwydd parchu’r ardaloedd 'ma, parchu’r iaith, ac i sôn, pan ti’n nofio, bod ti’n 'neud o mewn ffordd sy' ddim yn mynd i greu niwed i'r llyn na'r ardal o'i gwmpas."

Roedd Emma eisoes yn postio lluniau o’i theithiau a’r mannau nofio ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae’n dweud bod y llyfr yn estyniad o hynny.

“Ar Instagram, dwi byth yn d'eud ble mae’r llefydd. Mae Instagram yn wahanol, achos os ti’n geo-locatio llefydd - mae pobl yn mynd syth ato fo, mae’n rhy hawdd.”

Ffynhonnell y llun, Emma Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r nofio yn "rhoi cymaint o buzz" i Emma, "nid yn unig mae'n helpu'n gorfforol ond yn feddyliol hefyd"

Llynedd, roedd Parc Cenedlaethol Eryri yn ymgyrchu i annog pobl i beidio â gadael 'ôl troed digidol' wrth ymweld - er enghraifft, peidio postio lluniau neu rannu union leoliadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl y parc, mae llawer yn mwynhau trochi mewn dyfroedd agored ac "mae llawer o leoliadau wedi dod yn hynod boblogaidd wrth i luniau darluniadol o leoliadau prydferth gael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol".

Mewn datganiad, fe ddywedon nhw: "Er bod hawliau tramwy cyhoeddus a thir mynediad agored yn caniatáu mynediad at rai llynnoedd ac afonydd, nid oes gan y cyhoedd hawl cyfreithiol i nofio neu ymgymryd â chwaraeon dŵr ynddynt.

"Mae’r mwyafrif o lynnoedd ac afonydd yn Eryri mewn perchnogaeth breifat, ac felly mae’n rhaid sicrhau caniatâd y perchennog cyn ymgymryd ag unrhyw weithgaredd ynddynt."

Mae'r parc yn gwahardd nofio neu unrhyw chwaraeon dŵr mewn Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol fel Cwm Idwal, Yr Wyddfa a Chader Idris er mwyn diogelu eu hecosystemau bregus.

Ffynhonnell y llun, Wild Swimming Walks
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llyfr yn cynnwys geirfa Gymraeg ac awgrym o gyfarchion Cymraeg

Yn ôl Emma, “mae pobl yn mynd i ddod" i Eryri beth bynnag, ond yr hyn sy’n bwysig ydy "bod nhw’n 'neud hynny mewn ffordd gyfrifol".

"Dwi'n sôn am y ffordd i 'nofio'n ysgafn' ac i 'droedio'n ysgafn', fel bod neb yn difetha ecosystem fregus.

"Dwi'n esbonio sut i fynd i mewn ac allan yn yr un man heb amharu ar y lan.

"Dwi'n rhybuddio hefyd i bobl beidio distyrbio gwaelod y llyn neu'r afon lle mae pysgod yn dodwy eu hwyau o dan y cerrig, peidio gwisgo eli haul ac ati."

Mae hi hefyd yn pwysleisio rhybuddion diogelwch ynghylch nofio mewn dyfroedd sy'n ddieithr.

Ffynhonnell y llun, Emma Marshall

Yr iaith ac enwau brodorol yw'r agwedd arall mae Emma'n awyddus i'w hyrwyddo, gan sicrhau bod enwau Cymraeg yn cael eu defnyddio.

Doedd dim modd ysgrifennu'r llyfr yn ddwyieithog, meddai, ond mae hi wedi "gwneud yn siŵr bod yr enwau Cymraeg cywir yn cael eu defnyddio bob tro ac hefyd cynnwys brawddegau byr er mwyn annog pobl i drio siarad yr iaith".

"Mae'r enwau yn hen iawn ac yn ddisgrifiadol, yn sôn am storïau, chwedlau, yn d'eud stori am y lle, mae'n cyfoethogi'r profiad o ymweld, ac mae'n bwysig bod ni'n eu parchu nhw."