'Cannoedd o swyddi newydd' mewn ffatri - canghellor

Roedd y Canghellor Rachel Reeves yn ymweld â safle adeiladu ar gyrion Caerdydd fore Iau
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Canghellor Rachel Reeves yn ymweld â safle adeiladu ar gyrion Caerdydd fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Bydd cannoedd o swyddi yn cael eu creu gan gynlluniau i fuddsoddi £250m mewn ffatri yn ne Cymru, meddai'r Canghellor Rachel Reeves.

Fe wnaeth y canghellor ymweld â ffatri Vishay yng Nghasnewydd ddydd Iau, ble mae lled-ddargludyddion, neu sglodion, yn cael eu gwneud i'w defnyddio mewn miliynau o gynnyrch electronig, o ffonau clyfar i offer cartref a cheir.

Dywedodd y cwmni fod y buddsoddiad yn "ddechrau ein cynlluniau ar gyfer twf yn y DU".

Cyhoeddodd hefyd fod tir y Weinyddiaeth Amddiffyn "yn y gymysgedd" ar gyfer datblygiadau tai newydd yng Nghymru.

'Siomedig'

Dywedodd Ms Reeves hefyd fod yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Liz Kendall mewn "sgwrs" gydag Eluned Morgan dros alwad y prif weinidog am asesiad effaith penodol i Gymru ar doriadau lles.

Ar ymweliad â safle adeiladu ar gyrion Caerdydd, dywedodd hi fod y ddau yn "siarad" ar ôl i Eluned Morgan ddweud ei bod yn "siomedig" nad oedd asesiad ar gyfer Cymru wedi'i wneud.

Wrth amddiffyn toriadau i'r gyllideb les, dywedodd Ms Reeves fod Llywodraeth y DU eisiau gwneud yn siŵr bod "gwaith yn talu".

Dywedodd fod Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar ddarparu "cymorth personol, wedi'i deilwra i gael pobl yn ôl i waith".

"Dylai pawb sy'n gallu gweithio weithio," ychwanegodd.

Fel rhan o Ddatganiad y Gwanwyn, cyhoeddodd y canghellor newidiadau i fudd-daliadau, gan gynnwys rheolau cymhwyso llymach ar gyfer Taliadau Annibyniaeth Bersonol.

Dyma'r prif fudd-dal anabledd, sy'n cael ei hawlio gan fwy na 250,000 o bobl o oedran gweithio yng Nghymru.

Ysgrifennodd y Prif Weinidog Eluned Morgan at Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau'r DU Liz Kendall ar 11 Mawrth yn gofyn am asesiad effaith penodol i Gymru.

Ond, ddydd Mercher, dywedodd Eluned Morgan wrth y BBC: "Dydyn ni dal ddim wedi clywed pa mor uniongyrchol mae hynny'n mynd i effeithio ar Gymru, sy'n siomedig."

Ar ei hymweliad ddydd Iau, dywedodd Ms Reeves bod Eluned Morgan a Liz Kendall "mewn trafodaethau ar hyn o bryd - rydym yn benderfynol o gydweithio".

Pynciau cysylltiedig