Penaethiaid adran mewn cyngor gyflogodd Neil Foden i ffwrdd o'r gwaith

Adeilad Cyngor GwyneddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae "trefniadau tymor byr wedi eu rhoi mewn lle i arwain yr adran blant," meddai Cyngor Gwynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae e-bost cyfrinachol a anfonwyd at holl gynghorwyr Gwynedd yn nodi bod pennaeth a dirprwy bennaeth yr Adran Blant "ar hyn o bryd i ffwrdd o'u gwaith".

Mae'r e-bost a anfonwyd gan brif weithredwr Cyngor Gwynedd, Dafydd Gibbard - ac sydd wedi ei weld gan Newyddion S4C - yn dweud ei bod yn "debygol na fyddwn yn gallu dychwelyd i'n trefniadau arferol am gyfnod".

Ceir hefyd enwau'r ddau uwch swyddog sy'n absennol, eu teitlau a gwybodaeth am y staff sy'n llenwi'r bylchau, ond nid yw'n nodi pam nad ydynt yn eu gwaith ar hyn o bryd.

Mae Cyngor Gwynedd wedi gwrthod datgelu manylion am yr absenoldebau gan ddatgan fod "trefniadau tymor byr wedi eu rhoi mewn lle i arwain yr adran".

Bydd Sharron Carter ac Aled Gibbard yn "rhannu cyfrifoldebau pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teulu," gyda Dylan Owen, cyfarwyddwr corfforaethol y cyngor yn cefnogi'r ddau bennaeth dros dro wrth iddo barhau i roi "arweiniad strategol i'r adran".

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd ryddhau datganiad pellach ddydd Iau am eu hymateb i'r ymchwiliad annibynnol oedd yn edrych ar ddigwyddiadau penodol yn 2019 pan godwyd pryderon gyda'r awdurdod ynghylch ymddygiad Foden gyda "rhai merched ifanc" yn eu harddegau.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 mlynedd, ar ôl i reithgor ei gael yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Cyflwynodd Genevieve Woods, bargyfreithiwr arbenigol mewn diogelu (safeguarding), casgliadau ei hymchwiliad i swyddogion Gwynedd ganol fis Mawrth, gyda Chyngor Gwynedd yn dweud yn Ebrill na fyddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi am y tro oherwydd ei fod yn cynnwys "gwybodaeth sensitif a chyfrinachol".

Mae BBC Cymru yn deall bod pedwar aelod o staff yn rhan o'r penderfyniad i beidio ag ymchwilio ar y pryd, gyda'r rhaglen BBC Wales Investigates yn adrodd fod tri o'r rheiny'n dal i gael eu cyflogi gan y cyngor.

Neil FodenFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024

Yn ystod achos llys Foden, daeth i'r amlwg fod uwch aelod o staff yn bryderus am "berthynas agos" y prifathro â rhai merched yn eu harddegau, er mai pryderon am enw da Foden ei hun oedd wrth wraidd hyn, gan y gallai fod yn rhoi ei hun mewn perygl o gael ei gam-gyhuddo.

Rhannwyd y pryderon gyda Chyngor Gwynedd, ond clywodd y llys fod penderfyniad wedi'i wneud i beidio ag ymchwilio ymhellach.

Wrth roi tystiolaeth, honnodd cyn-bennaeth addysg Cyngor Gwynedd, Garem Jackson, ei fod wedi rhoi gwybod i uwch swyddog diogelu am y pryderon, ond ei fod wedi cael gwybod nad oedd angen ymchwiliad ffurfiol gan nad oedd unrhyw gŵyn swyddogol wedi'i gwneud.

Dywedodd wrth y llys nad oedd ganddo "unrhyw gofnod ysgrifenedig" o unrhyw un pryder, ar wahân i'r e-bost gwreiddiol a dderbyniodd.

Yn achos llys Foden, beirniadodd y barnwr Rhys Rowlands fethiant y cyngor i ymchwilio, gan ei alw'n sefyllfa "bryderus iawn".

Tydi casgliadau'r bargyfreithiwr o Lundain ddim wedi cael eu cyhoeddi, ond mae cynghorwyr wedi derbyn copi o'r holl argymhellion a diweddariad ar sut y bydd y cyngor yn eu rhoi ar waith.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Trefniadau ymchwilio i bryderon diogelu – Bydd y Cyngor yn sefydlu trefniadau ar gyfer delio gyda phryderon sydd ddim yn cyrraedd trothwyon ffurfiol diogelu plant ac yn cymryd y cyfle i greu trefn newydd allai fod o fudd mawr yn y maes pwysig hwn.

  • Cadw cofnodion – Er fod y Bargyfreithiwr wedi adnabod ymarfer da o ran cadw cofnodion cyfarfod, adnabuwyd cyfleoedd i wella'n trefniadau hefyd ac felly mae'r drefn o gadw cofnodion am faterion diogelu ar draws yr Awdurdod wedi ei gryfhau a bellach mae trefn ganolog wedi ei sefydlu ar gyfer eu cadw a'u rheoli. Yn ogystal, mae'r elfen cadw cofnodion o fewn yr hyfforddiant diogelu sy'n cael ei ddarparu i staff wedi ei gryfhau.

  • Canu'r gloch – Mae'r Cyngor wedi cryfhau cyfundrefnau 'canu'r gloch' (whistleblowing) ar gyfer staff ar draws y sefydliad.

  • Hyfforddiant diogelu – Tra bod staff yn Adrannau Plant ac Addysg y Cyngor eisoes yn derbyn lefel uwch o hyfforddiant diogelu, mae trefniadau bellach mewn lle i sicrhau fod pob aelod o staff ym mhob adran yn derbyn hyfforddiant perthnasol.

  • Polisi diogelu ysgolion – Mae camau wedi eu cymryd i gryfhau'r drefn sy'n cynorthwyo staff gyda'r hyn ddylid ei wneud mewn achosion diogelu heriol mewn ysgolion, gan gynnwys pryd i rannu gwybodaeth gyda chyrff Llywodraethol.

Mae'r adroddiad llawn wedi ei anfon at dîm yr Adolygiad Ymarfer Plant statudol sy'n cael ei gynnal gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod wedi derbyn "cyngor cyfreithiol gan arbenigwyr annibynnol ar y camau nesaf".

Mewn ymateb i'r newidiadau yn yr Adran Blant ar hyn o bryd, ychwanegodd Cyngor Gwynedd: "Fel cyflogwr cyfrifol, mae gan Gyngor Gwynedd gyfrifoldeb i barchu cyfrinachedd staff. Oherwydd hyn, ni allwn rannu gwybodaeth sy'n ymwneud â chyflogaeth unigolion."

Mae cais am sylw wedi'i anfon ymlaen at y swyddogion absennol drwy Gyngor Gwynedd.

Pynciau cysylltiedig