Cyngor Gwynedd ddim am gyhoeddi adroddiad mewn cysylltiad â Neil Foden am y tro

Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Neil Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ym mis Gorffennaf

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddogion Cyngor Gwynedd wedi derbyn un o'r adroddiadau yn ymwneud ag achos y pedoffeil Neil Foden ond dydyn nhw ddim am gyhoeddi'r casgliadau am y tro, mae Newyddion S4C yn deall.

Cafodd y cyn-brifathro ei garcharu y llynedd am gam-drin pedwar o blant yng ngogledd Cymru rhwng 2019 a 2023.

Mae'r adroddiad yn ymateb i benderfyniad swyddogion y cyngor sir i beidio cynnal ymchwiliad ar ôl i bryderon gael eu codi am Foden yn 2019.

Mae e-bost wedi ei anfon at gynghorwyr Gwynedd sy'n egluro bod yr adroddiad yn cynnwys "gwybodaeth sensitif" a bod angen mwy o "gyngor cyfreithiol arbenigol" i "sefydlu'r hyn sy'n gyfreithlon i'w ryddhau ymhellach".

Mae rhai cynghorwyr, sydd ddim am gael eu henwi, yn poeni ei bod hi'n cymryd mwy o amser na'r disgwyl i gyhoeddi'r canfyddiadau ac nad ydy'r cyngor yn gwireddu'r addewid i ymateb yn "gyflym" i "bob casgliad".

Pam fod digwyddiadau 2019 yn allweddol?

Y barnwr Rhys Rowlands ddechreuodd y drafodaeth, drwy ddweud yn ystod yr achos llys ei bod hi'n peri "pryder mawr" iddo nad oedd "ymchwiliad ffurfiol" wedi ei gynnal gan y cyngor i bryderon am ymddygiad Foden.

Awgrymodd bod hynny, o bosib, wedi ei "annog" i barhau i droseddu.

Yn ystod yr achos llys y llynedd fe glywon ni fod uwch-athro wedi rhannu pryder gyda chyfarwyddwr addysg Cyngor Gwynedd ar y pryd, Garem Jackson, am agosatrwydd Foden at rai merched ifanc.

Wrth roi tystiolaeth, fe ddywedodd Mr Jackson fod uwch swyddog amddiffyn diogelu plant wedi dweud wrtho nad oedd angen ymchwiliad, am nad oedd unrhyw gyhuddiad swyddogol wedi ei wneud.

Mae Newyddion S4C yn deall bod pedwar o staff y cyngor yn rhan o'r penderfyniad i beidio ag ymchwilio, a bod tri yn dal i gael eu cyflogi gan Gyngor Gwynedd.

Mae Cyngor Gwynedd wedi dewis Genevieve Woods, bargyfreithiwr o Lundain, i arwain yr ymchwiliad, gan nodi y bydd ei gwaith yn "gwbl annibynnol".

Pwrpas yr ymchwiliad oedd cadarnhau'r ffeithiau a phenderfynu os oedd prosesau wedi eu dilyn pan gafodd pryderon eu codi am ymddygiad Foden.

Y disgwyl yw y bydd yr adroddiad yn cynnwys camau gweithredu posib i'r cyngor eu hystyried, ac unrhyw wersi sydd angen eu dysgu.

Dywedodd y cyngor mewn datganiad yn gynharach eleni eu bod yn disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn mis Chwefror.

Fe ofynnwyd i Gyngor Gwynedd pam nad oedd modd i'w hadran gyfreithiol fewnol ddelio â chasgliadau'r bargyfreithiwr i ddigwyddiadau 2019.

Mewn ymateb drwy ddatganiad, fe ddywedodd y cyngor mai eu blaenoriaeth bob amser ydy'r effaith posib ar y dioddefwyr.

Fe ychwanegon nhw mai barn y bwrdd "Rhaglen Ymateb" ydy cael "barn gyfreithiol gan arbenigwyr annibynnol" am be' sy'n "briodol ac yn gyfreithlon i'w gyhoeddi", gan obeithio derbyn yr arweiniad hwnnw "cyn gynted ag a sy'n bosib".

'Ddim yn broses rad'

Yn gyffredinol, mae rhai sefydliadau cyhoeddus yn dewis troi at gyngor cyfreithiol allanol i ddelio ag ymchwiliadau mewnol sensitif – ac fe allai fod yn gostus.

"Ar y cyfan fe fyddai bargyfreithiwr yn y modd hynny yn delio gyda mater fel hyn fesul yr awr, neu fesul y dydd," meddai Owen John, cyfreithiwr sy'n arbenigo mewn cyflogaeth.

"Felly po fwyaf ydy'r amser sy'n cael ei dreulio ar archwiliad, y mwya' fydda'r gost.

"Os wyt ti'n mynd i fynd at fargyfreithiwr yn Llundain am waith fel hyn... dwyt ti ddim yn mynd i fod yn edrych ar broses rad o gwbl."

Owen John
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyngor cyfreithiol allanol yn gallu bod yn gostus iawn i sefydliadau, meddai Owen John

Yn syth ar ôl i reithgor gael Foden yn euog, fe gafodd Adolygiad Ymarfer Plant ei gyhoeddi i weld pa wersi oedd i'w dysgu.

Bydd cadarnhad yn ystod yr wythnosau nesa pryd fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi yn llawn. Mae disgwyl i hynny fod yn yr haf.

Mae tîm yr Adolygiad Ymarfer Plant wedi gweld copi o adroddiad annibynnol y bargyfreithiwr Genevieve Woods, ac yn dweud y bydd y ffeithiau sy'n y ddogfen "yn eu helpu i adnabod digwyddiadau allweddol".

Dydi'r Comisiynydd Plant ddim wedi gweld adroddiad y bargyfreithiwr, ond yn cydnabod, oherwydd natur y mathau hyn o adroddiadau, y byddai angen "ceisio cael eglurhad cyfreithiol am yr hyn y gellir ei gyhoeddi".

Pynciau cysylltiedig