Y Gweilch i chwarae gemau cartref ym Mhen-y-bont y tymor nesaf

Mae digwyddiadau chwaraeon wedi eu cynnal yn Stadiwm San Helen yn Abertawe ers 1875
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch wedi arwyddo prydles hirdymor ar Stadiwm San Helen, gyda'r rhanbarth i chwarae gemau cartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr y tymor nesaf.
Ym mis Gorffennaf y llynedd fe gyhoeddodd y Gweilch eu bod yn bwriadu symud o Stadiwm Swansea.com i Stadiwm San Helen ar gyfer tymor 2025-26.
Y cynllun gwreiddiol oedd i'r Gweilch ddechrau chwarae gemau cartref yno fis Rhagfyr.
Ond oherwydd yr angen i ddatblygu'r safle yn Abertawe, mae'r rhanbarth bellach wedi penderfynu chwarae 11 gêm gartref yng Nghae'r Bragdy ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Y bwriad bellach yw chwarae eu gêm gyntaf yn Stadiwm San Helen ar ddechrau tymor 2026-27.
- Cyhoeddwyd6 Awst
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
Daw'r cyhoeddiad wrth i Undeb Rygbi Cymru (URC) ystyried haneru nifer y rhanbarthau proffesiynol o bedwar i ddau.
Dywedodd Prif Weithredwr Y Gweilch, Lance Bradley fod y penderfyniad i symud gemau i Ben-y-bont ar Ogwr oherwydd newid yn y cynlluniau ail-ddatblygu, yn hytrach nag unrhyw ansicrwydd ehangach.
Pwysleisiodd mai San Helen fydd cartref parhaol newydd y rhanbarth, a'u bod yn bwriadu dechrau tymor 2026-27 yn Abertawe.
"Fe wnaethon ni ystyried aros yn y Swansea.com, ond yn anffodus roedd tua hanner y gemau yn digwydd ar yr un pryd a rhai CPD Abertawe," meddai.
"Hyd yn oed os oedden ni eisiau aros, byddai wedi golygu chwarae hanner y gemau yn fanno a hanner yn rhywle arall."
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y cefnogwyr yn deall ac yn cefnogi'r penderfyniad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.