Galwadau ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar ddatblygu stadiwm

Mae Stadiwm San Helen yn lleoliad chwaraeon hanesyddol yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn y penderfyniad i ganiatáu datblygu cartref newydd i ranbarth rygbi'r Gweilch yn Abertawe.
Cafodd y penderfyniad i ganiatáu datblygu stadiwm San Helen ei gymeradwyo ddydd Mawrth gan gyngor y ddinas.
Mae'r Gweilch yn bwriadu symud yno o'u cartref presennol yn Stadiwm Swansea.com, neu Stadiwm Liberty gynt.
Ond mae grŵp o wleidyddion o fwy nag un plaid yn poeni y gallai'r datblygiad gael effaith negyddol ar ranbarth arall y gorllewin - y Scarlets - a thu hwnt.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn "sawl cais-alw sydd dan ystyriaeth ac ni allwn wneud sylw pellach".
- Cyhoeddwyd11 Ebrill
- Cyhoeddwyd10 Ebrill
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
Pleidleisiodd aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Abertawe yn unfrydol o blaid y cynlluniau, sy'n cynnwys standiau i ddarparu lle i hyd at 8,000 o wylwyr, a chae 3G newydd.
Ond mae grŵp trawsbleidiol o wleidyddion yn anghytuno.
Mewn llythyr at Lywodraeth Cymru, mae Ann Davies, Aelod Seneddol Plaid Cymru Caerfyrddin, Cefin Campbell, Aelod o'r Senedd Plaid Cymru Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Nia Griffith, Aelod Seneddol Llafur dros Lanelli, yn gofyn i weinidogion ymyrryd.
Maen nhw'n dadlau fod y penderfyniad yn "codi materion o arwyddocâd cenedlaethol a rhanbarthol".
Maen nhw hefyd yn dweud bod yna oblygiadau sydd "y tu hwnt i ffin weinyddol Abertawe, gan gynnwys effeithiau ar seilwaith chwaraeon presennol yr awdurdod cyfagos".
Maen nhw'n galw am asesiad annibynnol o'r cais gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru [PCAC].

Y Gweilch, Caerdydd, y Dreigiau a'r Scarlets ydy'r pedwar tîm presennol
Daw hyn yn dilyn trafodaethau am ddyfodol y rhanbarthau yng Nghymru - gydag Undeb Rygbi Cymru yn dweud fis Gorffennaf eu bod yn ystyried eu haneru ar gyfer tymor 2027/28.
Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd yr Undeb ar y pryd fod y system bresennol yn methu ac yn anghynaladwy.
Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets yw'r pedwar tîm presennol.
Nod yr ymgynghoriad ffurfiol, fydd yn cynnwys chwaraewyr a chlybiau sy'n aelodau o'r Undeb, yw dod i gytundeb rhwng yr Undeb a'r rhanbarthau - dadl sydd wedi para 19 mis.
Mae Caerdydd, sy'n eiddo i URC, a'r Dreigiau, sydd mewn perchnogaeth breifat, wedi cytuno i'r cytundeb erbyn hyn - ond dydi'r Gweilch na'r Scarlets wedi llofnodi.

Mynnodd Ann Davies y dylai rygbi "barhau yng nghanol ac yng nghalon Llanelli"
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Dros Frecwast, fe ddywedodd Ann Davies fod 'na gwestiynau ganddi hi hefyd am effaith cartref newydd rhanbarth y Gweilch ar y Scarlets yn Llanelli.
Yn y llythyr, dywedodd Ms Davies fod Parc y Scarlets ond 10 milltir (16km) o'r stadiwm newydd bosib.
"Byddai'r stadiwm newydd yn dyblygu'r ddarpariaeth hon," meddai, gan ychwanegu y byddai'n fygythiad i Barc y Scarlets, a'r cyfraniad y mae'n ei wneud at adfywio ardal Llanelli.
"Ma' gyda ni stadiwm wych a ni moyn 'neud yn siŵr fod yr adnodd yna yn cael ei ddefnyddio," meddai.
"Ry'n ni'n mynnu fod rygbi yn parhau yng nghanol ac yng nghalon Llanelli."

Mae Cefin Campbell yn poeni am effaith y stadiwm newydd bosib ar Barc y Scarlets
Roedd Cefin Campbell yn rhannu'r un pryder.
"Ry'n ni'n gobeithio y bydd penderfyniadau yn cael eu gwneud ynglŷn â dyfodol rygbi a'r rhanbarthau ar sail y dystiolaeth.
"Petai chi yn edrych ar faint sy'n dilyn y Scarlets a dilyn y Gweilch - mae'r dorf yn gyson uwch yn y Scarlets," meddai Mr Campbell.

"Gallai cais Abertawe fod yn allweddol wrth benderfynu dyfodol rygbi yng Nghymru," meddai Nia Griffith
Fe ddywedodd Aelod Seneddol Llafur Llanelli, Nia Griffith, fod y Scarlets yn "bwysig iawn, nid yn unig i Lanelli - ond i orllewin Cymru".
"Gallai cais Abertawe fod yn allweddol wrth benderfynu dyfodol rygbi yng Nghymru," meddai Ms Griffith.
Mewn ymateb, dywedodd arweinydd Cyngor Dinas Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, fod y penderfyniad "wedi ei wneud yn gywir, yn unol â pholisïau cynllunio a bydde galw hyn i mewn yn fater i Lywodraeth Cymru".
Nid oedd Cyngor Sir Gâr am roi sylw ar y mater.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.