Ymgyrch gymunedol i drawsnewid capel hanesyddol yn Aberteifi

Mae'r cynllun i drawsnewid y capel yn cael ei lansio yn swyddogol ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Mae menter gymunedol newydd wedi ei sefydlu er mwyn trawsnewid Capel Tabernacl Aberteifi i fod yn hwb i gymuned y dref.
Nod y grŵp o wirfoddolwyr lleol yw creu canolfan aml-ddefnydd "sy'n dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Aberteifi, tra'n darparu canolfan ar gyfer addysg, cerddoriaeth, barddoniaeth a gweithgareddau cymunedol".
Mae'r fenter yn amcangyfrif y bydd angen codi £600,000 i gwblhau'r prosiect, tra bod angen talu blaendal o £150,000 erbyn 31 Mawrth.
Dywedodd Richard Jones, llefarydd ar gyfer y prosiect fod Hwb Aberteifi "yn fwy na dim ond adeilad – mae'n weledigaeth ar gyfer cymuned gryfach, mwy cysylltiedig".

Fe fydd Hwb Aberteifi "yn ychwanegiad allweddol at gynnig diwylliannol Aberteifi" yn ôl aelodau'r fenter
Mae'r cynllun yn cael ei lansio yn swyddogol gan aelodau'r grŵp ymgyrchu ddydd Sadwrn.
Mae'r ymgyrch eisoes wedi denu cefnogaeth gan Gymdeithas Aberteifi a 4CG Cymru Cyf - sydd wedi helpu i drawsnewid adeiladau eraill yn y dref yn y gorffennol, gan gynnwys yr hen orsaf heddlu.
Yn ogystal, mae elusen Planed - sy'n datblygu asedau cymunedol - hefyd yn cefnogi'r gwaith.
Beth yw'r cynlluniau?
Unwaith y bydd yr adeilad - sy'n dyddio nôl i Oes Fictoria - wedi ei adfer, y gobaith yw y bydd Hwb Aberteifi yn cynnig:
Canolfan ddiwylliannol ac addysgol sy'n arddangos gwaith y bardd a'r Archdderwydd lleol, Dic Jones;
Stiwdio gerddoriaeth a lle recordio ar gyfer y label cerddoriaeth gymunedol, Fflach cymunedol, sydd yn bwriadu dychwelyd i'r festri yn y Tabernacl i arddangos gwaith artistiaid lleol;
Ardal alw heibio ar gyfer trigolion ac ymwelwyr i drafod a datblygu gweithgareddau a mentrau newydd ar gyfer y dref.

Mae Hwb Aberteifi yn "weledigaeth ar gyfer cymuned gryfach", meddai Richard Jones
Gyda'r fenter yn rhagweld cost o £600,000 i gwblhau'r prosiect, mae yna wahoddiad i bobl gyfrannu yn ariannol.
Dywedodd Hwb Aberteifi mewn datganiad: "Mae'r ymgyrch yn gwahodd unigolion i roi benthyg £1,000 dros gyfnod o dair blynedd ar gyfradd llog flynyddol deniadol o 4%.
"Mae'r cyfle buddsoddi hwn hefyd yn cynnig budd ychwanegol o ryddhad treth o 30% o dan y Cynllun Buddsoddi Menter (EIS), gan ei wneud yn ffordd ariannol fuddiol o gefnogi prosiect lleol trawsnewidiol.
"Trwy gymryd rhan, bydd cefnogwyr nid yn unig yn ennill llog cystadleuol ar eu buddsoddiad, ond hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth warchod treftadaeth Aberteifi a chreu etifeddiaeth barhaol i genedlaethau'r dyfodol."
Ychwanegodd Richard Jones: "Trwy drawsnewid hen Gapel Tabernacl, gallwn greu lle sy'n dod â phobl at ei gilydd, sy'n dathlu ein treftadaeth ac yn cefnogi creadigrwydd ac arloesi lleol.
"Rydym yn galw ar bawb sy'n gofalu am Aberteifi i ymuno â ni i wneud y freuddwyd hon yn realiti."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd28 Ionawr