'Cyfle enfawr' i wneud y Senedd yn lle gwell i weithio i rieni

Bydd yr etholiad nesaf i Senedd Cymru yn digwydd ym mis Mai 2026
- Cyhoeddwyd
Mae'r etholiad nesaf i Senedd Cymru yn "gyfle enfawr" i wneud y sefydliad yn lle gwell i weithio ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu, yn ôl ymgyrchwyr cydraddoldeb.
Daw'r sylwadau yn sgil galw gan un o bwyllgorau'r Senedd am oriau gweithio mwy "rhagweladwy", a gwasanaeth crèche i fod ar gael ym Mae Caerdydd.
Mae'r pwyllgor yn credu byddai'r newidiadau'n annog mwy o bobl â chyfrifoldebau gofalu i sefyll fel ymgeiswyr.
Ond dywedodd un Aelod Ceidwadol o'r Senedd, sy'n dad i dri o ferched, bod y trefniadau presennol yn "berffaith iawn fel y maen nhw".
- Cyhoeddwyd7 Mai
- Cyhoeddwyd7 Mai
- Cyhoeddwyd7 Mai
Mae Pwyllgor Senedd y Dyfodol wedi bod yn ystyried sut y dylai'r Senedd weithio yn dilyn etholiad mis Mai 2026, pan fydd nifer yr aelodau'n cynyddu o 60 i 96.
Yn ei adroddiad mae'r pwyllgor y dweud y "dylid gwneud pob ymdrech i wneud amseroedd gorffen a'r patrwm busnes mor rhagweladwy â phosibl".
Ychwanegodd fod "yr ansicrwydd" sy'n bodoli ar hyn o bryd "yn creu rhwystr i rai aelodau, neu ddarpar aelodau, oherwydd ei effaith ar eu gallu i gyflawni cyfrifoldebau gofalu, neu gyfrifoldebau eraill".
Mae'r pwyllgor hefyd o'r farn y dylid dileu'r rheol bod yn rhaid i fusnes yn siambr y Senedd gychwyn am 13:30, er mwyn caniatáu i ASau'r dyfodol i osod patrwm newydd.

Dywedodd Heledd Fychan y byddai sefydlu gwasanaeth crèche yn gam allweddol
Mae gan AS Plaid Cymru dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan - oedd yn aelod o'r pwyllgor - fab 12 oed.
"Os 'da ni isio cael Senedd fodern sydd yn cynrychioli pobl ar draws Cymru 'efo pobl sydd yn rieni, yn ofalwyr ac ati yn aelodau, yna mae yna gamau mae'n rhaid i ni eu cymryd," meddai.
"Mae'n rhaid cael crèche yma, nid yn unig ar gyfer aelodau etholedig ond ar gyfer staff yr aelodau hynny, fel bod rheiny gyda plant ifanc yn gallu gweithio yma."

"Dydyn ni ddim yn achos arbennig fel ASau," meddai Sam Rowlands
Ond dywedodd yr AS Ceidwadol dros Ogledd Cymru, Sam Rowlands bod "pethau'n berffaith iawn fel y maen nhw".
Yn dad i dair merch ifanc, mae Mr Rowlands yn cymudo i Fae Caerdydd bob wythnos.
"Dydyn ni ddim yn achos arbennig fel ASau," meddai.
"Mae llawer o bobl yn gwneud gwaith sy'n rhoi pwysau mawr arnyn nhw ar adegau, a weithiau mae'n gwneud pethau'n anodd gyda'u teuluoedd.
"Hefyd, yn achos ASau, rydyn ni yma 36 wythnos y flwyddyn felly mae llawer o amser ble rydyn ni nôl adref yn gweld ein teuluoedd."

Dywedodd Christine Chapman fod y system bresennol yn gallu rhoi straen ar deuluoedd a pherthnasau
Dydy'r galwadau am fesurau i wneud y Senedd yn le haws i rieni weithio ddim yn newydd.
Fe glywodd y pwyllgor gan gyn-aelodau yn cynnwys y cyn-wleidydd Llafur Christine Chapman, a gynrychiolodd Cwm Cynon rhwng 1999 a 2016.
"Yn ystod y cyfnod yna fe chwalodd briodasau... a dwi'n meddwl bod llawer o hynny oherwydd effaith y math o fywyd yr oedd yn rhaid i aelodau ei fyw," meddai wrth raglen Politics Wales.
"Dwi'n credu y gallai pethau fod wedi bod yn wahanol pe bai'r Senedd wedi parhau i geisio hyrwyddo ffurf gwell o ddiwylliant yn gyfeillgar i deuluoedd."

Mae Nerys Evans yn dweud bod angen ei gwneud hi mor hawdd â phosib i bobl roi eu henwau 'mlaen fel ymgeiswyr
Fe wnaeth Nerys Evans, fu'n Aelod Cynulliad dros Blaid Cymru rhwng 2007 a 2011, roi tystiolaeth i'r pwyllgor hefyd.
Bellach yn fam i ddau o blant, mae'r cyn-aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn gobeithio dychwelyd i Fae Caerdydd wedi'r etholiad nesaf.
"Nawr bo' fi'n fam gyda dau fab bach, roedd hi wedi cymryd sbel i fi ddod i benderfyniad i dreial bod yn ymgeisydd y flwyddyn nesaf, a dyna beth oedd yn dala fi nôl," meddai.
"Wedyn o'n i'n ffeindio'n hunan yn cael gair 'da'n hunan – 'fydden i'n rhoi'r cyngor yna i ferched eraill?'
"Mae angen i ni ysgogi mamau, tadau, pobl heb blant, pobl o gymdeithas gyfan i roi eu henwau nhw 'mlaen.
"A fi wedi dod i'r penderfyniad bod angen bod yn rhan o'r system o'r tu fewn i dreial newid pethe."
'Rhaid i ni gael hyn yn iawn'
Dywedodd cyfarwyddwr Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, Victoria Vasey bod yr etholiad yn "gyfle enfawr".
"Mae'r cynnydd i nifer yr aelodau yn y Senedd nesaf yn golygu ein bod yn gosod y genhedlaeth nesaf o'n harweinwyr etholedig, ac mae'n rhaid i ni gael hynny'n iawn.
"Dwi'n meddwl ei bod hi'n hollbwysig ein bod ni'n gweld o leiaf crèche yn y Senedd.
"Mae'n bwysig bod y Senedd yn dod yn le gwell i weithio, yn le haws i weithio, ble gall pobl ganolbwyntio ar beth sy'n rhaid iddyn nhw wneud dros eu hetholwyr."
Yn 2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, fel ag yr oedd ar y pryd, oedd y senedd gyntaf yn y byd i sicrhau niferoedd cyfartal o aelodau gwrywaidd a benywaidd.
Ar hyn o bryd mae 26 o'r 60 AS yn ferched.
Cafodd cynlluniau i orfodi pleidiau gwleidyddol i sicrhau bod o leiaf hanner eu hymgeiswyr yn ferched eu gollwng y llynedd.