Cytundeb ar gyllideb Llywodraeth Cymru 'yn agos'

Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ei gyllideb ddrafft gwerth £26bn ym mis Rhagfyr
- Cyhoeddwyd
Mae cytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i basio cyllideb Llywodraeth Cymru yn agos, mae'r BBC yn deall.
Mae angen i Lafur daro bargen gydag un o'r pleidiau eraill yn y Senedd gan mai dim ond hanner y seddi sydd ganddyn nhw.
Yn ôl y disgwyl, mae cyllid ar gyfer gofal plant, gofal cymdeithasol a chynghorau wedi bod yn rhan o'r trafodaethau.
Mae ffynonellau hefyd wedi dweud bod rheilffordd Calon Cymru, tocynnau bws i bobl dan 21 oed, a chladdu ceblau pŵer o dan y ddaear hefyd yn cael eu trafod.

Jane Dodds ydy unig aelod y Democratiaid Rhyddfrydol yn y Senedd
Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds - unig Aelod o'r Senedd y blaid - wedi ymgyrchu yn erbyn toriadau i wasanaethau ar reilffordd Calon Cymru.
Mae disgwyl i'r gyllideb derfynol gael ei chyhoeddi ar 25 Chwefror cyn dadl a phleidlais derfynol yn y Senedd ar 4 Mawrth.
Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford ei gyllideb ddrafft, gwerth £26bn, ym mis Rhagfyr.
Yn ôl y cynlluniau byddai pob adran o Lywodraeth Cymru yn gweld cynnydd i'w chyllideb yn 2025-26, yn wahanol iawn i'r sefyllfa y llynedd pan mai'r adran iechyd oedd yr unig adran i osgoi toriad i'w chyllideb.
Mae'r gyllideb newydd yn elwa o arian ychwanegol gan y llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan.
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ennill pleidlais ar ei chyllideb ddrafft ddydd Mawrth ar ôl i arweinydd y Ceidwadwyr ac aelod arall o'i blaid fynd i'r Unol Daleithiau ar gyfer cyfarfod gweddi yn Washington DC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2024