Ymosodwr Cymru Kayleigh Barton yn ymddeol o chwarae pêl-droed

Gwnaeth Kayleigh Barton ei hymddangosiad cyntaf i Gymru yn erbyn Portiwgal yn 2012
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodwr Cymru Kayleigh Barton wedi cyhoeddi ei hymddeoliad o chwarae pêl-droed.
Cafodd y chwaraewr 37 oed ei henwi'n brif hyfforddwr Saltdean United, clwb yn Brighton, yn gynharach yr haf hwn ar ôl gadael Charlton Athletic.
Bellach mae Barton, sydd wedi ennill 89 cap dros ei gwlad, wedi cadarnhau ei bod wedi dod â'i gyrfa chwarae i ben.
Mae Barton wedi chwarae dros Gaerdydd, Yeovil Town, Chieti Calcio Femminile, Brighton a Charlton yn ystod ei gyrfa, ac roedd yn ffigwr allweddol wrth helpu sicrhau lle Cymru yn Euro 2025.
Sgoriodd yr ymosodwr bedair gwaith yn y gemau rhagbrofol i dîm Rhian Wilkinson, ac aeth ymlaen i ymddangos ym mhob un o'r tair gêm grŵp yn y Swistir.
Sgoriodd Barton 22 gôl ryngwladol - gyda'r olaf yn dod o'r smotyn i ennill pwynt i Gymru yn erbyn Sweden yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Chwefror.
Rhai o'r 22 o goliau rhyngwladol y sgoriodd Kayleigh Barton - Green gynt - i Gymru
Mae gan Barton drwydded hyfforddi Uefa a bydd yn gweithio'n agos gyda rheolwyr tîm cyntaf Saltdean, Katie McIntyre ac Amy Green.
Ffurfiodd Saltdean dîm menywod yn 2017 ac ar hyn o bryd maen nhw'n chwarae yng Nghynghrair Pêl-droed Ranbarthol Menywod Llundain a De-ddwyrain Lloegr.
O archfarchnadoedd i'r llwyfan rhyngwladol
Mae Kayleigh Barton yn ymddeol ar ôl gweld ei huchelgeisiau pêl-droed yn cael eu gwireddu wrth chwarae i Gymru mewn twrnamaint mawr; yn Euro 2025.
Fel chwaraewr iau, efallai ni fyddai Barton erioed wedi breuddwydio y byddai hynny'n bosib fel un o'r chwaraewyr a symudodd o statws amatur i statws proffesiynol wrth i gêm y menywod dyfu.
Gweithiodd Barton mewn archfarchnadoedd ac roedd yn hyfforddi fel plymer cyn newid i bêl-droed yn llawn amser, ac mae hi wedi bod yn rhan annatod o dîm menywod Cymru mewn cyfnod o gynnydd anferth.
Yn broffesiynol ac yn bersonol, bydd hi'n golled fawr i garfan Rhian Wilkinson, gyda rheolwr Cymru yn awgrymu y gallai Barton gymryd ei swydd hi yn y dyfodol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf