Cyfrifon dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yn enw 'Danny Webb'
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi clywed fod gan ddyn oedd ar ffo rhag yr FBI yng ngogledd Cymru sawl cyfrif banc dan yr enw ffug 'Danny Webb'.
Yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun, cafodd cyfrifon Daniel Andreas San Diego, 46, eu rhewi.
Cafodd Mr San Diego ei arestio yn ardal Maenan, Sir Conwy ar 25 Tachwedd, ar ôl bod ar restr Most Wanted yr FBI yn yr Unol Daleithiau yn dilyn ffrwydradau yn ardal San Francisco, California yn 2003.
Roedd yr heddlu wedi gwneud cais i rewi tri chyfrif banc - oedd yn cynnwys cyfanswm o dros £20,000 - am gyfnod o 12 mis tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
Fe ymddangosodd Mr San Diego yn Llys Ynadon Llandudno ddydd Llun drwy gyswllt fideo o garchar Belmarsh.
Mae'r FBI yn honni fod gan Mr San Diego, a gafodd ei eni yn Berkeley, California, gysylltiadau gyda grŵp hawliau anifeiliaid eithafol.
Mae gwybodaeth yr asiantaeth yn dweud fod dau fom wedi ffrwydro tua awr ar wahân ar 28 Awst 2003 ar gampws cwmni biotechnoleg yn Emeryville, tra bod bom arall oedd yn cynnwys hoelion wedi ffrwydro ar safle cwmni cynhyrchion maeth yn Pleasanton ar 26 Medi 2003.
Cafodd Mr San Diego ei gyhuddo mewn llys yn California ym mis Gorffennaf 2004 am ei gysylltiad honedig â'r troseddau.
Mae Mr San Diego yn parhau yn y ddalfa wrth i'r broses o geisio'i estraddodi i'r Unol Dalaethiau barhau.