'Cic bosib i Lafur yn yr etholiad nesaf,' medd cyn-weinidog
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio bod ei blaid mewn perygl o dderbyn "cic" yn etholiad nesaf y Senedd yn 2026.
Mae'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, wedi canolbwyntio ar ddelio efo "materion bara menyn" ond mae Lee Waters yn dweud bod yna beryg nad yw hyn yn herio'r canfyddiad nad yw Llafur yn herio'r drefn arferol.
Dywedodd y byddai'n "cymryd rhywbeth gwahanol" i Lafur Cymru osgoi tynged llywodraethau eraill sydd wedi colli grym ar draws y byd, gan ddadlau bod llyowdraeth y DU yn "annhebygol" o gynnig mwy o help i Gymru.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru bod Ms Morgan wedi "sicrhau'r setliad ariannol mwyaf i Gymru ers dechrau datganoli".
Ddydd Mawrth bydd Eluned Morgan, sydd wedi bod yn brif weinidog ers haf 2024, yn rhoi datganiad yn y Senedd ar yr hyn y mae'n bwriadu ei gyflawni yn ystod y flwyddyn.
Dywedodd Ms Morgan bod gan ei llywodraeth "gynllun uchelgeisiol" sy'n cynnig "dechrau newydd" i Gymru.
Ond dywedodd Plaid Cymru fod cyflwr y Gwasanaeth Iechyd yn dangos ei bod yn "methu".
Etholiad 2026 fydd y cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio system gwbl gyfrannol. Yn sgil y newidiadau bydd nifer aelodau'r Senedd yn cynyddu o 60 i 96.
Roedd arolwg barn gan ITV/Prifysgol Caerdydd ym mis Rhagfyr yn awgrymu bod Plaid Cymru ychydig o flaen Llafur a bod gan Reform 24% o gefnogaeth o'i gymharu â 23% i'r ddwy blaid arall - gyda'r Ceidwadwyr ar ei hôl hi yn y pedwerydd safle.
Mae Lee Waters wedi bod yn Aelod o'r Senedd (AS) dros Lanelli ers 2016 a gwasanaethodd fel y dirprwy weinidog trafnidiaeth tra roedd Mark Drakeford yn arweinydd Llywodraeth Cymru. Mae'n fwyaf adnabyddus am y polisi terfyn cyflymder 20mya dadleuol.
Wrth ysgrifennu ar ei flog, mae'n dweud ei fod yn "ymddangos yn annhebygol" y bydd llywodraeth Lafur San Steffan yn "ffafrio achos Cymru yn y 18 mis nesaf mewn ffordd fydd yn gwneud argraff glir ar etholwyr sydd wedi eu dadrithio".
Mae'n dadlau bod y "patrymau rhyngwladol yn glir. Mae pob deiliad yn cael ei gicio. Bydd yn cymryd rhywbeth gwahanol i ni osgoi'r dynged honno." meddai.
Gan gyfeirio at y colledion a ddioddefodd ei blaid yn yr Alban o ddiwedd y 2000au i'r 2010au, dywedodd Mr Waters y gallai Llafur Cymru wynebu "moment Albanaidd a fydd yn cymryd cenhedlaeth i'w hadfer".
Mae o wedi beirniadu cynllun Eluned Morgan o roi pwyslais ar "faterion bara menyn a gwell cyfathrebu" yn hytrach na "her ddyfnach i'r system o bŵer ac anghyfartaledd".
Mae ei flog hefyd yn beirniadu rhai o'i sylwadau am ddatganoli, wrth gael ei holi ar bodcast The Rest is Politics.
Dywedodd Eluned Morgan bod yna "feysydd bychain o gwmpas yr ymylon, pethau fel cyfiawnder ieuenctid" a allai gael ei ddatganoli.
Ond mae Mr Waters yn anhapus nad oedd sôn am bolisi hir dymor y llywodraeth o ddatganoli heddlua a chyfiawnder.
"Y risg gyda'r agwedd hon yw nad yw'n gwneud dim i herio'r canfyddiad bod y Blaid Lafur ar ôl dros ganrif fel y blaid amlycaf yng Nghymru yn cael ei gweld fel y sefydliad ac yn syml yn ceisio rheoli'r status quo," meddai.
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2024
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru bod Eluned Morgan, ers dod yn brif weinidog, wedi cyflawni "y setliad ariannol mwyaf i Gymru ers dechrau datganoli - £50m i wella adeiladau ysgolion a cholegau, buddsoddiad o £1bn yn Shotton Mill ochr yn ochr â chydweithwyr yn llywodraeth y DU, £25m yn ychwanegol ar gyfer diogelwch pyllau glo, a chinio ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru, a dim ond newydd ddechrau mae hi".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod £157m wedi'i dargedu i gyflawni ei haddewidion yn y flwyddyn ariannol hon, sy'n cynnwys cwtogi amseroedd aros, hybu safonau addysg tra'n addo creu swyddi i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Cyn y datganiad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Eluned Morgan: "Mae gennym ni gynllun uchelgeisiol i'w gyflawni yn 2025 a thu hwnt.
"Rwy'n teimlo bod rhaid i ni fod yn llywodraeth sy'n gwrando ac yn llywodraeth sy'n ymateb i'r hyn sy'n cael ei glywed, gan weithio gyda'n partneriaid i sicrhau canlyniadau go iawn i bobl Cymru."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth: "Mae'r flwyddyn newydd yn dod â chyfleoedd, ond mae Cymru'n wynebu'r un hen heriau: cyflogau ddim yn cadw i fyny â biliau, gwasanaethau cyhoeddus ar eu gliniau, biliynau HS2 dal ar goll, a gwasanaeth iechyd, er gwaethaf ymdrechion gorau'r staff, dan ormod o bwysau ac yn gwegian.
"Fel Gweinidog Iechyd, addawodd Eluned Morgan na fyddai unrhyw glaf yn aros am fwy na 12 mis am driniaeth erbyn y gwanwyn - addewid sydd eisoes wedi'i dorri yn rhinwedd y ffaith ei bod wedi gosod targed newydd o ddod ag amseroedd aros dwy flynedd i lawr i 8,000 erbyn mis Ebrill – ac yn seiliedig ar niferoedd mis Rhagfyr mae hyd yn oed y ffigyrau hynny'n mynd i'r cyfeiriad anghywir."