Gogledd Iwerddon i benodi comisiynydd iaith i'r Wyddeleg

Baner yn StormontFfynhonnell y llun, Pacemaker
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffynhonnell yn Stormont wedi cadarnhau fod Pól Deeds wedi cael cynnig y swydd newydd

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Ogledd Iwerddon benodi comisiynydd iaith i'r Wyddeleg am y tro cyntaf yn yr wythnosau nesaf.

Mae'r BBC ar ddeall bod y swydd wedi cael ei chynnig i Pól Deeds, dirprwy brif weithredwr y corff trawsffiniol Foras na Gaeilge.

Mae Mr Deeds wedi bod yn eiriolwr dros yr iaith Wyddeleg ers amser maith ac mae wedi gweithio i grwpiau fel An Droichead yn Belfast.

Yn ei rôl gyda Foras na Gaeilge, mae wedi bod yn cynghori llywodraethau'r gogledd a'r de yn ogystal â chyrff yn y sector cyhoeddus a phreifat ar hyrwyddo'r Wyddeleg.

Yn gynharach yn y mis, fe wnaeth Mr Deed gyfarfod â'r Gweinidog Seilwaith, Liz Kimmins, i drafod ei chynlluniau i godi arwyddion Gwyddeleg yng ngorsaf y Grand Central yn Belfast.

Mae'r penderfyniad hwnnw'n cael ei herio yn y llysoedd ar hyn o bryd.

Os bydd Mr Deeds yn derbyn y swydd fel Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg, bydd ei benodiad yn cael ei gadarnhau fis nesaf ochr yn ochr â'r Comisiynydd ar gyfer y traddodiad Ulster Scots a'r traddodiad Ulster Prydeinig.

Mae'r penodiadau wedi cael eu cymeradwyo gan y prif weinidog a'r dirprwy brif weinidogion.

Cafodd y ddwy swyddfa eu sefydlu fel rhan o gytundeb 'Dull Newydd Degawd Newydd' yn 2020 - wnaeth arwain at adfer Gweithrediaeth Stormont.

Beth fydd swydd y comisiynydd?

Prif swyddogaeth Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg ydy cynghori a gosod safonau ar gyfer cyrff cyhoeddus ar y ffordd orau o ddefnyddio'r Wyddeleg.

Mae hefyd yn ymchwilio i gwynion pan fydd y cyrff hynny yn methu â darparu gwasanaethau i siaradwyr Gwyddeleg.

Mae Comisiynydd yr Ulster Scots yn annog a monitro sut mae cyrff cyhoeddus yn darparu gwasanaethau yn yr iaith honno.

Ond o dan y ddeddfwriaeth, gall y prif weinidog a'r dirprwy brif weinidogion, "gan weithredu ar y cyd, gyfarwyddo'r comisiynydd - o ran gweithredu swyddogaethau".

Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Efa Gruffudd Jones ei bod yn edrych ymlaen at "gydweithio â'r Comisiynwyr newydd"

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, ei bod yn "croesawu'r newyddion bod Gogledd Iwerddon ar fin penodi Comisiynydd Iaith i'r Wyddeleg am y tro cyntaf".

Dywedodd fod "hon yn garreg filltir bwysig i'r iaith a'r siaradwyr sy'n dymuno byw eu bywydau drwy'r Wyddeleg".

"Fel Comisiynydd y Gymraeg, rwy'n llongyfarch y sawl a fydd yn derbyn y swydd ac yn dymuno pob llwyddiant iddynt wrth sefydlu a datblygu'r swyddfa newydd."

Ychwanegodd ei bod yn edrych ymlaen at "gydweithio â'r Comisiynwyr newydd a'u gwahodd i ymuno â Chymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith er mwyn rhannu profiadau a dysgu oddi wrth ein gilydd".

Meri Huws oedd Comisiynydd yr Iaith Gymraeg cyntaf, ar ôl cael ei phenodi yn 2011.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.