Y Gyllideb: 'Gas, 'lectrig a phrisiau bwyd' yn poeni pobl Bangor

Fe wnaeth y Canghellor Rachel Reeves gyhoeddi ei Chyllideb ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r canghellor gyhoeddi ei Chyllideb ddydd Mercher mae rhaglen Newyddion S4C wedi bod yn ardal Maesgeirchen ym Mangor i glywed am yr hyn sy'n poeni pobl yno, a'r hyn maen nhw am weld gan wleidyddion.
Wrth holi'r trigolion, mae 'na batrwm cyffredin yn dod i'r fei - "gas, 'letrig a phrisiau bwyd".
Mae tua 2,500 o bobl yn byw ar y stad sydd ar gyrion Bangor, a nifer yn dweud mai'r cynnydd ym mhris pethau hanfodol sy'n cael yr effaith fwyaf ar fywyd.
Bydd £505m ychwanegol i Lywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf, diwedd ar y cap ar fudd-daliadau dau blentyn a chodiadau treth sylweddol yn y blynyddoedd i ddod yn dilyn cyllideb y Canghellor Rachel Reeves.

"Rhaid i chi fyw does, ac ma'n rhaid i chi fwyta, felly 'da chi'n gorfod talu," meddai Rhydwen Ellis
Yn aros i ddal bws, mae Rhydwen Ellis yn dweud mai chwyddiant a phrisiau bwyd sy'n rhaid eu blaenoriaethu gan y llywodraeth.
"Dwi'n prynu torth - £1.40 yr wythnos gyntaf... ma' hi rŵan yn £1.70.
"Lle 'da ni fod i gael y pres extra? 'Da ni ddim yn cael o gan neb.
"Mae'n rhaid chi fyw does, ac mae'n rhaid i chi fwyta, felly 'da chi gorfod talu."
Argyfwng costau byw
Ar y ffordd i'r gwaith mae Rachel Clutton, sydd â thri o blant, a'i gŵr ddim yn gweithio oherwydd salwch.
"Mae'n long days... ma'n cweit anodd a 'da ni jest yn get by - budgetio bob wythnos a get by fel'na.
"'Da ni'n mynd drwy loads efo gas, loads efo electric a jest dim llawer yn yr wythnos efo pres i roi ynddo fo."

Mae Rachel Clutton yn ei gweld hi'n anodd ar ôl gwario ar nwy, trydan a bwyd
Mae cartrefi yng Nghymru ymhlith y mwyaf aneffeithiol drwy Ewrop, a'r tywydd gwlyb a gwyntog yn y gogledd-orllewin yn dwysáu hynny.
Mae pris ynni fesul uned yng ngogledd Cymru y drytaf drwy Brydain.
Yn ôl menter leol Maes Ni, mae hynny - ynghyd â chwyddiant - yn gwthio mwy o bobl i dlodi ac i ofyn am gymorth.

Mae Fflur Harman yn dweud fod gan ardal Maesgeirchen galon fawr ac mae ysbryd cymunedol braf yno
Yn ôl Fflur Harman mae gan ardal Maesgeirchen galon fawr ac mae 'na ysbryd cymunedol braf yma.
"Mae pobl yn meddwl bod y lle yn waeth nag ydy o," meddai.
"Mae Maesgeirchen efo image ac mae pobl efo stereotypes yma, ond pan ti'n dod yma mae pobl yn ffantastig.
"Os 'sa chdi ddim efo siwgr a 'sa ti'n mynd drws nesa', 'sa pobl yn rhoi o i ti.
"Ond mae'r ardal yn ddifreintiedig - mae lot o bobl mewn tlodi, mae 'na dlodi plant a food insecurity.
"Mae lot o bobl yn gweithio shifftiau a gweithio pres bob awr yn lle salary, ac mae pobl eisiau mynd yn eu blaenau ond lot o'r amser 'di pobl ddim eisiau rhoi chance i bobl."

"Mae 'na loads o dlodi o gwmpas fa'ma, a pobl rili'n stryglo," meddai Rio
"Mae 'na loads o dlodi o gwmpas fa'ma, a pobl rili'n stryglo," meddai Rio, sy'n 17 oed ac yn gwirfoddoli yn y banc bwyd am 10 awr yr wythnos.
"Ti'n gallu dweud oherwydd mae pobl yn dod mewn drwy'r wythnos a ti'n gweld yr un un wynebau, ond hefyd wynebau newydd.
"Mae 'na lot o bobl rhy prideful i ofyn am help."
Ag yntau'n ifanc, mae eisiau gweld gwleidyddion yn blaenoriaethu prisiau tai, gan eu bod nhw tu hwnt i gyrraedd nifer.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
