Techneg achub bywyd o’r 1940au dal i gael ei ddysgu yn Aberdyfi
- Cyhoeddwyd
Mae ‘na dechneg achub bywyd gafodd ei ddatblygu yn Aberdyfi ar gyfer morwyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd dal i gael ei ddysgu yno bob haf.
Mae’r techneg Jog a Dip yn golygu dal breichiau yn y dŵr gyda’r bobl o’ch amgylch – rhywbeth wnaeth gychwyn gael ei ddysgu i forwyr fel techneg achub bywyd os oedd torpido yn suddo eu llong.
Sefydlwyd y ganolfan gweithgareddau allanol Outward Bound cyntaf yn Aberdyfi yn 1941 er mwyn hyfforddi morwyr yn y dechneg.
Ac mae’r adeilad gwreiddiol dal i gael ei ddefnyddio heddiw ynghyd â’r hen gloch a’r hen polyn fflag.
Dywedodd Iain Sime, sy’n uwch hyfforddwr yn Aberdyfi: “Roedd llongau Prydeinig yn cael eu targedu gan longau tanfor Hitler ym Môr Iwerydd ac roedd morwyr profiadol yn gwybod, os oedd rhaid iddynt adael y llong, y dylent gysylltu breichiau yn y dŵr.
“Ond roedd y rhuthr i gael dynion ifanc i’r lluoedd arfog yn aml yn golygu bod hyfforddiant sylfaenol ddim yn digwydd – ac yn drasig iawn bu farw llawer o recriwtiaid llyngesol newydd oedd yn ddibrofiad ac yn aml yn ddihyder ar y môr oherwydd diffyg hyfforddiant.
“Felly crëwyd y dechneg Jog a Dip ymhlith ymarferion eraill – ac mae’n parhau hyd heddiw fel traddodiad yn y ganolfan yn Aberdyfi.
“Heddiw mae pobl ifanc sy’n dod yma yn rhedeg i lawr i’r traeth, yn cysylltu breichiau â’i gilydd mewn cylch, ac yn cerdded yn araf i mewn i’r dŵr hyd at eu canol.
“Mae wedi dod yn draddodiad Outward Bound sy’n lot o hwyl.”
Agoriad
Sefydlwyd canolfan Outward Bound Aberdyfi gan y dyn busnes Lawrence Holt, oedd wedi bod yn faer Lerpwl, ynghyd â’r arbenigwr addysg Almaenig Kurt Hahn, oedd wedi ffoi o’r Almaen ar ôl gwrthwynebu Hitler yn gyhoeddus.
Agorwyd y ganolfan yn 1941, fel mae Al Crisp, pennaeth y ganolfan, yn esbonio wrth Cymru Fyw: “Roedd Kurt Hahn, oedd hefyd wedi sefydlu ysgol Gordonstoun, wedi dod i Gymru cyn yr Ail Rhyfel Byd ac mi wnaeth bartneru gyda Lawrence Holt i hyfforddi morwyr oedd yn dod o ar draws y Deyrnas Unedig.
“Roedd Lawrence wedi bod mewn llong ddwywaith oedd wedi cael ei daro gan torpido ac yn ystod y profiadau yma mi welodd e mai’r morwyr ifanc oedd y rhai oedd yn ildio gyntaf a’r morwyr hŷn oedd y rhai oedd yn goroesi.
“Roedd e’n credu fod hynny am fod y morwyr hŷn wedi cael bach mwy o brofiad bywyd ac roedd ganddynt mwy i fyw amdano. Ac felly mi benderfynodd fod e eisiau ffeindio ffordd o roi cyfle i bobl ifanc i herio a datblygu eu hunain ac i roi eu hunain mewn sefyllfaoedd anodd er mwyn dysgu sut i ymdopi.
“A dyma dechreuad y jog a’r dip – roedd yn dechneg i ddod a phobl at ei gilydd fel grŵp i weithio drwy her. Ac mi oedd yn cael ei defnyddio fel techneg i beidio boddi er mwyn goroesi’r heriau oedden nhw’n wynebu yn y môr.
“Rydyn ni dal i ddilyn yr ethos yna yn Outward Bound er fod y byd yn wahanol iawn nawr.”
Man geni
Felly mae pwysigrwydd Aberdyfi fel man geni jog a dip yn bwysig iawn, fel mae Al yn dweud, ac mae’n dweud fod tirwedd Cymru yn ddelfrydol ar gyfer y math yma o hyfforddiant: “Mae’r lleoliad o ran yr aber, y môr a’r mynyddoedd – dyma’r math o amgylchedd oedden nhw eisiau defnyddio.”
Erbyn hyn mae rhyw 500 o bobl ifanc yn dod i’r ganolfan ar gyfer gwersylloedd haf dros y gwyliau ysgol.
Ac yn selar y ganolfan mae ‘na drysorfa o filoedd o adroddiadau am y bobl sydd wedi bod yn dod i'r ganolfan yn Aberdyfi ers y 1940au.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2024