Pryder am enw da addysg uwch yn sgil toriadau prifysgolion

Yn ôl pennaeth y rheoleiddiwr addysg ôl-16, Medr, mae prifysgolion yn wynebu amgylchiadau "heriol dros ben"
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth y corff sy'n gyfrifol am ariannu prifysgolion yn dweud ei fod yn poeni y gallai toriadau i'r sector amharu ar enw da addysg uwch Cymru.
Yn ôl Simon Pirotte, prif weithredwr Medr - a gafodd ei lansio'r llynedd i oruchwylio addysg ôl-16 - mae yna lawer i fod yn falch ohono ond mae'r ffocws presennol ar "yr heriau a'r problemau".
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd gynlluniau i dorri 400 o swyddi academaidd, ac mae sefydliadau eraill hefyd wedi dweud eu bod yn gorfod chwilio am ddiswyddiadau er mwyn gwneud arbedion.
Dywedodd Mr Pirotte nad oedd yn poeni y byddai prifysgol yn mynd i'r wal "yn y dyfodol agos" er gwaethaf amgylchiadau "heriol dros ben".
Roedd Mr Pirotte yn siarad cyn lansio cynllun strategol cyntaf Medr, wyth mis ar ôl ei sefydlu ym mis Awst 2024.
Mae gan y corff gyllideb o £960m ac mae'n gyfrifol am ariannu a rheoleiddio prifysgolion, addysg bellach a hyfforddiant, yn ogystal â chweched dosbarth ysgolion.

Dywedodd Simon Pirotte ei fod yn obeithiol am ddyfodol y sector er gwaethaf y sefyllfa "heriol iawn, iawn"
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Medr edrych ar ba bynciau sy'n cael eu cynnig ar draws prifysgolion Cymru ar ôl i Brifysgol Caerdydd ddweud eu bod yn bwriadu torri adrannau cyfan gan gynnwys nyrsio, ieithoedd modern a cherddoriaeth.
Dywedodd Mr Pirotte ei bod yn bosib y gallai prifysgolion gael mwy o arian i ddysgu rhai pynciau allai fod mewn perygl o ddiflannu'n gyfan gwbl o'r arlwy yng Nghymru.
Dywedodd nad oedd gan Medr y pwerau i ddweud wrth brifysgolion "allwch chi ddim dileu pwnc X neu yn bod yn rhaid i chi wneud pwnc Y", ond y gallai roi gwybod i'r llywodraeth os yw pwnc mewn sefyllfa "fregus".
'Ystyriaeth briodol' i gyrsiau Cymraeg
Yn ôl Mr Pirotte mae'r sefyllfa'n codi cwestiwn am ba mor gyfforddus yw pobl gyda sefyllfa ble na fyddai pwnc yn cael ei ddarparu yng Nghymru o gwbl.
"Neu ydyn ni'n meddwl bod y pethau yna o bwys strategol neu ddiwylliannol i ni yng Nghymru, ac os felly beth allen ni ei wneud o ran annog y ddarpariaeth yna?" ychwanegodd.
Dywedodd bod sicrhau bod cyrsiau a modiwlau ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd angen "ystyriaeth briodol".
Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells hefyd wedi gofyn i Medr ymchwilio i effaith rheolau cystadleuaeth ar brifysgolion.
Dywedodd Mr Pirotte: "Mae gennym ddiddordeb mewn cydweithio ond yn amlwg mae angen gwneud hynny o fewn ysbryd cyfraith cystadleuaeth."

Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri 200 o swyddi yn sgil bwlch yn ei chyllideb
Yn sgil cyhoeddiadau am dorri swyddi ac arbedion mewn prifysgolion, dywedodd Mr Pirotte: "Rwy'n bryderus oherwydd rwy'n credu bod llawer o'r drafodaeth ar hyn o bryd yn ymwneud â'r heriau a'r problemau.
"Mae llawer y gallwn ni fod yn falch iawn ohono sy'n digwydd ar draws y sector ôl-16 yng Nghymru."
Dywedodd bod prifysgolion yn cymryd "camau trawsnewidiol" i sicrhau eu bod mewn sefyllfa ariannol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Fe fydd proses ymgynghori ar gynlluniau Prifysgol Caerdydd yn dod i ben ar 6 Mai, tra bod Prifysgol Bangor yn ystyried torri 200 o swyddi.
Dywedodd Prifysgol De Cymru y gallai 90 o swyddi academaidd fynd ar ôl cyhoeddi cynlluniau i dorri 160 o swyddi gwasanaethau proffesiynol.
Mae prifysgolion eraill hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud arbedion yn sgil costau uwch a gostyngiad mewn incwm o ffioedd myfyrwyr rhyngwladol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd28 Chwefror