Cyn-weinidog yn galw am adolygiad o system addysg uwch Cymru

Leighton Andrews
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leighton Andrews bellach yn athro mewn Arweinyddiaeth ac Arloesi Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae angen cynnal adolygiad o wariant a llywodraethiant y system addysg uwch yng Nghymru gan ei fod "yn gwegian ar hyn o bryd", yn ôl cyn-weinidog addysg Cymru.

Dywedodd Leighton Andrews, sy'n athro yn Ysgol Fusnes Caerdydd, fod angen system "sy'n gweithio i ni" ac sy'n "annog mwy o bobl ifanc i fynd i'r brifysgol".

Daw'r alwad ar ôl i nifer o sefydliadau addysg uwch yng Nghymru gyhoeddi cynlluniau i dorri swyddi yn sgil heriau ariannol.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gweithio gyda Llywodraeth y DU "er mwyn sicrhau fod Cymru yn chwarae rhan bwysig yng nghynlluniau pellach y DU ar gyfer diwygio addysg bellach".

Yr wythnos ddiwethaf fe wnaeth Prifysgol Metropolitan Caerdydd gyhoeddi eu bod yn disgwyl diswyddo hyd at 50 o staff i geisio lleihau costau.

Dyma'r brifysgol ddiweddaraf i symud at ddiswyddiadau gorfodol yn sgil y straen ariannol ar y sector addysg uwch.

Fis Ionawr, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd gynlluniau i dorri 400 o swyddi ac mae prifysgolion Bangor a De Cymru hefyd yn ymgynghori ar ddiswyddiadau.

Mae galwadau hefyd wedi bod yn ddiweddar i newid rhaglen Seren - cynllun i hybu nifer y disgyblion Cymreig sydd yn mynd i brifysgolion gorau Prydain - yn sgil pryderon am golli "talent" ac "arian".

'Rhaid edrych eto ar y system'

"Mae'n amlwg bod y system yn gwegian ar hyn o bryd," meddai Mr Andrews mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth.

"Y cwestiwn allweddol yw - ydy'r system yn gweithio i ni yng Nghymru ar hyn o bryd? Dwi ddim yn meddwl hynny.

"Mae'n amlwg bod gan lawer o brifysgolion yng Nghymru broblemau ariannol ar hyn o bryd - ry'n ni wedi colli llawer o fyfyrwyr tramor er enghraifft, dyw'r ffioedd ddim yn cyd-fynd â'r costau dysgu yn y system ar hyn o bryd.

"Mae'n rhaid i ni edrych eto ar y system sydd gyda ni nawr yng Nghymru."

protestwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae myfyrwyr a staff gwahanol brifysgolion wedi bod yn protestio yn erbyn y toriadau arfaethedig

Mae Mr Andrews yn galw am adolygiad llawn o'r system, i'w gynnal ar ôl etholiadau'r Senedd yn 2026 er mwyn ceisio sicrhau cytundeb trawsbleidiol ar y broses.

"Dwi eisiau gweld y llywodraeth yn creu comisiwn, annibynnol efallai, a rhaid i'r comisiwn gynnwys pobl sy'n deall y system addysg uwch yng Nghymru," meddai.

"Hoffwn weld pobl yn edrych ar y system o lywodraethu prifysgolion yng Nghymru hefyd - llywodraethiant yn genedlaethol, ac yn ein prifysgolion lleol hefyd.

"Os 'da ni'n cael adolygiad 'go iawn', 'da ni'n gallu ystyried popeth yn y system.

"Mae popeth yn y system yn gweithio gyda'i gilydd, felly mae'n rhaid i ni edrych ar bopeth yn yr adolygiad yn y dyfodol.

"Dwi'n meddwl bod gyda ni lawer o arian yn y system yn barod, felly dwi'n credu gallwn ni greu system well heb arian ychwanegol."

Wrth drafod dyfodol rhaglen Seren, dywedodd Mr Andrews fod "rhaid i ni ystyried beth sy'n gweithio orau i ni".

"Mae'n rhaid i ni sicrhau fod mwy o bobl ifanc yn mynd i brifysgolion neu i'r system addysg bellach, ond dwi ddim yn siŵr bod y system yn helpu nhw ar hyn o bryd, felly mae'n rhaid i ni ystyried popeth.

"Dwi'n siŵr fod pobl isio cadw pobl ifanc yng Nghymru i ddatblygu ein heconomi, ein cymdeithas, ac ein diwylliant wrth gwrs.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n creu system sydd â hyder gan bob plaid yn y Senedd, hyder myfyrwyr, hyder academyddion, a rhaid i ni weithio gyda'n gilydd i wneud i hynny ddigwydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gweinidog ar gyfer Addysg uwch a phellach yn gweithio gyda Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau fod Cymru yn chwarae rhan bwysig yng nghynlluniau'r DU ar gyfer diwygio addysg bellach.

"Rydym hefyd yn asesu'r system gyllido myfyrwyr yng Nghymru.

"Mae unrhyw newidiadau mewn polisi yn dibynnu ar ganlyniadau ein gwaith ymchwil."