Pryder y gallai nifer o gartrefi gofal gau erbyn diwedd y flwyddyn

- Cyhoeddwyd
Mae'n bosib fe allai nifer o gartrefi gofal orfod cau erbyn diwedd y flwyddyn, yn ôl rhai yn y sector gofal.
Mae llawer o'r rhai sy'n gweithio yn y sector gofal wedi dod i Brydain o dramor ar fisa penodol i lenwi swyddi.
Mae Papur Gwyn newydd gan Lywodraeth y DU yn cynnig y byddai'n rhaid i weithwyr gofal aros 10 mlynedd cyn cael yr hawl i fyw a gweithio yma'n barhaol - dwbl y cyfnod presennol o bum mlynedd.
Fe ddaw yn dilyn araith gan y Prif Weinidog yr wythnos hon, lle rhybuddiodd fod y DU mewn perygl o ddod yn "ynys o ddieithriaid."
Mynnu mae Downing Street bod angen siarad yn glir a chael polisïau cadarn i fynd i'r afael a mewnfudo.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn dadansoddi Papur Gwyn y mewnfudo a'i effaith bosibl ar bob sector, gan gynnwys gofal cymdeithasol.

"Des i gyda'r gobaith o setlo yma yn y Deyrnas Unedig a chreu bywyd gwell i fy mhlant," meddai Folake
Mae Folake, o Nigeria, ar hyn o bryd ar fisa nawdd gofal, sy'n dod i ben ym mis Ionawr.
"Des i gyda'r gobaith o setlo yma yn y Deyrnas Unedig a chreu bywyd gwell i fy mhlant.
"Mae'n sioc, ac mae'n chwalu'r gobaith hwnnw.
"Dydyn ni ddim am fod yn fewnfudwyr anghyfreithlon nac yn geiswyr lloches. Rydym am weithio yma'n gyfreithlon a byw ein bywydau.
"Bob tro rwy'n meddwl amdano, rwy'n gofyn: a yw hyn wir yn dod yn realiti? Mae'n drist, ac rwy'n panicio."
"Fe wnaethoch chi [Llywodraeth y DU] addo, fe ofynnoch i ni ddod - mae hyn yn teimlo fel ein bod wedi ein bradychu."

"Mae'n teimlo fel ein bod yn cael ein cosbi am wneud popeth yn iawn," meddai Mukesh
Mae llawer o'r rhai sy'n gweithio yma wedi dod i Brydain ar fisa penodol i lenwi swyddi yn y sector gofal.
Dan y newidiadau fe fydd yn rhaid aros hyd at 10 mlynedd — ddwywaith y pum mlynedd bresennol - i fod yn gymwys i wneud cais am ddinasyddiaeth.
Daeth Mukesh, o India, i'r DU yn 2022 fel dibynnydd ei wraig, a oedd yn fyfyriwr ar y pryd.
Yn ddiweddarach, cafodd fisa nawdd i weithio fel gofalwr, sy'n dod i ben fis Medi.
"Dydyn ni ddim yn gwybod beth i wneud nesaf. Mae'n teimlo fel ein bod yn cael ein cosbi am wneud popeth yn iawn.
"Dydyn ni ddim wedi dod yma'n anghyfreithlon. Rydym yn talu ein holl drethi ac yn dilyn yr holl reolau, ond eto'n teimlo ein bod ni'n cael ein cosbi."

"Bydd hyn yn cael effaith ddrastig," meddai Mahesh Patel
Yn ôl Gofal Cymdeithasol Cymru, mae yna mae yna amcangyfrif bod tua 88,000 o bobl yn gweithio yn sector gofal Cymru, gyda thua 15–20% yn dod o dramor.
Mae Oakville Care Homes, sy'n gweithredu pedwar cartref ledled De Cymru, yn cyflogi dros 200 o staff—65% ohonyn nhw o dramor.
"Bydd hyn yn cael effaith ddrastig," meddai Mahesh Patel, un o reolwyr y cwmni.
"Fyddwn i ddim yn synnu pe bai llawer o gartrefi gofal yn cau erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd yn cael effaith enfawr ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol.
"Rydym wedi cael llawer o gyfarfodydd gyda staff — mae wedi bod yn eithaf trist iddyn nhw"
"Fi hefyd wedi cael cyfarfodydd gyda chwmnïau'r wythnos hon i drefnu baneri recriwtio i'w harddangos y tu allan i'n cartrefi.
"Mae'n rhaid i ni weithredu nawr, o ystyried nifer y staff y gallwn ni eu colli yn y 12 mis nesaf."
'Os fasa'n ni'n gallu recriwtio'n lleol mi fasa ni'
Mae Caron Group, sy'n rhedeg 18 o gartrefi gyda thros 50% o'i weithlu ar fisa nawdd gweithiwr gofal 'sponsorship care visa'.
"Mae'n mynd i gael effaith ddinistriol ni;'r sector cartrefu gofal. Os fasa'n ni'n gallu recriwtio'n lleol mi fasa ni. Ond mae mor anodd," meddai Matthew Jones sy'n un o reolwyr Caron Group.
"Os na allwn ni recriwtio fe fydd yn rhaid ni ddechrau edrych ar gau drysau."
"Bydd mwy a mwy o gartrefi'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i staff, a bydd hynny'n cael effaith gynyddol ar y sector gofal cyfan yng Nghymru."
Mae Llywodraeth y DU wedi amddiffyn araith Keir Starmer ac yn mynnu na fyddant yn "osgoi" trafodaethau uniongyrchol ar y pwnc.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn "dadansoddi Papur Gwyn y mewnfudo a'i effaith ar bob sector, gan gynnwys gofal cymdeithasol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl