Cynllun i newid pwy sy'n cael chwarae i Gymru 'ddim am ddigwydd'

Noel MooneyFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd CBDC wedi bod yn lobïo cymdeithasau pêl-droed Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gytuno ar newid i'r rheolau

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi derbyn nad yw cynllun i newid y rheolau o ran pwy sy'n gymwys i gynrychioli timau rhyngwladol yn y DU am gael ei wireddu.

Roedd y gymdeithas wedi cynnig system ble byddai modd i rywun chwarae i un o wledydd y DU ar ôl bod wedi cofrestru gyda chlwb yn un o'r gwledydd hynny am bum mlynedd.

Ond yn dilyn trafodaethau gyda chymdeithasau pêl-droed Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban, mae'n ymddangos nad oes cefnogaeth i'r syniad.

Dyw CBDC heb wneud sylw swyddogol, ond dywedodd y prif weithredwr Noel Mooney ar wefan cymdeithasol "nad oedd y cynllun am ddigwydd".

Yn ogystal â bod yn gymwys trwy leoliad eu geni, trwy riant neu trwy daid/nain, mae'r cytundeb presennol rhwng gwledydd y DU yn golygu y gall chwaraewyr gynrychioli gwlad os ydynt wedi derbyn pum mlynedd o addysg barhaus yn y wlad honno, hyd nes eu bod yn 18 oed.

Ond byddai cynlluniau CBDC yn gweld y system yn newid i gyd-fynd â rheolau cymhwyster FIFA.

Roedd adroddiadau bod rheolwr Cymru, Craig Bellamy yn ymwybodol o'r cynlluniau, ac roedd cyn-gapten Abertawe, Matt Grimes wedi ei amlygu fel targed posib ar gyfer y garfan.

Roedd yna ymateb cymysg ar-lein ac yn y wasg, gyda chyn-ymosodwyr Cymru Nathan Blake ac Iwan Roberts ymhlith y rhai sydd wedi beirniadu'r cynlluniau.

Joe Ralls a Matt Grimes
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r newid wedi gweld chwaraewyr fel Joe Ralls, Caerdydd, a Matt Grimes, gynt o Abertawe, yn dod yn gymwys i chwarae i Gymru

Gyda'r cynllun yma i'w weld wedi methu, dyma'r diweddaraf mewn cyfres o fethiannau cyhoeddus i CBDC.

Fe wnaeth Merthyr Town wrthod y cynnig i ymuno â'r Cymru Premier tra bod cynnig i ganiatáu timau Cymreig sy'n cystadlu dros y ffin i gael y cyfle i gynrychioli Cymru ar lefel Ewropeaidd hefyd wedi ei wrthod gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr.

Er hynny, wrth ymateb i fethiant cynllun Prosiect Cymru, dywedodd Mooney ei fod yn awyddus i barhau i fod yn uchelgeisiol.

"Byddai'r gêm yng Nghymru yn bendant wedi elwa, felly dydw i ddim am ymddiheuro i neb am geisio gwneud y gorau dros bêl-droed yng Nghymru," meddai.

Yn ei neges ar y cyfryngau cymdeithasol, ychwanegodd "y byddwn ni'n parhau i edrych ar wahanol ffyrdd o wella a thyfu'r gêm yma".