M&S yn ochri gyda ffermwyr yn y ffrae am dreth etifeddiaeth

Mae gan y cwmni stondin ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd
- Cyhoeddwyd
Mae uwch swyddog gweithredol Marks and Spencer wedi beirniadu newidiadau arfaethedig i'r dreth etifeddiaeth, gan rybuddio y gallai atal pobl ifanc rhag gweithio ym myd ffermio.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd asedau amaethyddol etifeddol gwerth mwy na £1m yn cael eu trethu ar gyfradd o 20% - hanner y gyfradd arferol.
Dywedodd Steve McLean, pennaeth amaethyddiaeth a physgodfeydd M&S, wrth BBC Cymru y bydd y polisi yn "bendant" yn "rhwystr i bobl ifanc rhag dod i'r diwydiant".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod y "diwygiadau i ryddhad eiddo amaethyddol a busnes yn hanfodol i drwsio'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt".
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024
Mae llywodraeth y DU yn mynnu "y bydd tri chwarter o ystadau yn parhau i dalu dim treth etifeddiant o gwbl, tra bydd y chwarter sy'n weddill yn talu hanner y dreth etifeddiant y mae'r rhan fwyaf o bobl yn ei thalu, a gellir lledaenu taliadau dros 10 mlynedd, heb log".
Rhybuddiodd un undeb ffermio fis diwethaf fod ffermydd teuluol Cymru wedi cael eu taflu i "gythrwfl" gan y newidiadau.
Wrth siarad yn Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, roedd Mr McLean yn ochri yn gadarn gyda'r ffermwyr.
Dywedodd fod M&S yn "glir iawn, iawn" y dylai'r llywodraeth drin amaethyddiaeth yn wahanol.
"Cafodd y system drethu gyfan ei llunio i gydnabod nad oedd maint elw mewn amaethyddiaeth fel diwydiannau eraill," meddai.
"Dyna pam roedd gwahaniaeth yn y ffordd y sefydlwyd y dull treth etifeddiaeth."

Dylai'r llywodraeth drin amaethyddiaeth yn wahanol, meddai Steve McLean
Rhybuddiodd y byddai'r newidiadau, a gafodd eu cyhoeddi gan y Canghellor Rachel Reeves fis Tachwedd diwethaf, yn "effeithio ar hyder".
"Byddant yn bendant yn rhwystr i bobl ifanc rhag dod i'r diwydiant, ac rydym am weld strwythur ffermio bywiog a hyfyw lle gall pobl ifanc ddod i mewn a gwneud bywoliaeth dda a bod yn falch o'r hyn maen nhw'n ei wneud," ychwanegodd.
"Felly bydd gallu rhoi mwy o sicrwydd, mwy o ddiogelwch yn allweddol i strwythur ffermio hyfyw yn y dyfodol."
Ymrwymiad i ffermio 'yn gadarn'
Dywedodd llefarydd llywodraeth y DU: "Mae ein hymrwymiad i ffermio a diogelwch bwyd yn gadarn.
"Dyna pam rydym wedi dyrannu £11.8bn - mwy nag erioed - i ffermio cynaliadwy a chynhyrchu bwyd dros dymor y senedd hon.
"Rydyn ni hefyd wedi penodi cyn-lywydd yr NFU, y Farwnes Minette Batters, i argymell diwygiadau newydd i hybu elw ffermwyr."