Protest yn erbyn cynlluniau i symud cyrsiau prifysgol o Lambed
- Cyhoeddwyd
Bu tua 100 o bobl yn protestio ddydd Gwener yn erbyn cynlluniau i symud cyrsiau is-raddedig o Lambed i Gaerfyrddin.
Fe gerddodd nifer o gyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol o glwb rygbi Llambed i'r campws cyn cynnal rali fer ar dir Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Ym mis Tachwedd, fe gyhoeddodd y brifysgol eu bwriad i symud cyrsiau'r Dyniaethau i Gaerfyrddin ym mis Medi 2025.
Mae'r cynlluniau wedi'u disgrifio fel "trasiedi", ond mae'r brifysgol yn dweud bod nifer y myfyrwyr yn Llambed wedi lleihau i lai na 200 ac nad yw hynny'n gynaliadwy.
'Fandaliaeth'
Mae'r Parchedig, yr Arglwydd Griffiths o Borth Tywyn, sy'n gyn-ddarlithydd yn y brifysgol, wedi disgrifio'r cynlluniau fel "trasiedi".
"Mae yna ormod o gwestiynau heb eu hateb a diffyg ymgynghori ar gyfer penderfyniad o'r maint hwn," meddai.
"Un manylyn pwysig yw bod y Coleg wedi ei leoli wrth galon rhanbarth, ble siaradir yr iaith Gymraeg."
Un o drefnwyr y brotest oedd Ieuan Davies, sy'n byw yn ardal Tregaron ac yn gyn-fyfyriwr.
"Dwi wedi gweld llawer o'r adrannau yn cael eu tynnu o Lambed wedyn ar ôl yr uno lawr i Gaerfyrddin a ni wedi gweld llefydd yn cael eu gwerthu a eiddo coleg Llambed a dim o'r arian i weld yn cael ei ddefnyddio yn Llambed."
Bu aelod Plaid Cymru yn y Senedd, Adam Price, yn annerch yr ymgyrchwyr yn ystod y rali.
Fe ddisgrifiodd gynlluniau'r brifysgol fel "gweithred o fandaliaeth addysgiadol a diwylliannol".
"Mae hwn yn sefydliad o bwys cenedlaethol. Ein prifysgol hynaf," meddai Adam Price.
"Mae'r lle wedi cael ei redeg lawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'n rhaid gwrthwynebu'r cynlluniau yma. Mae'n rhaid i'r brifysgol ailfeddwl."
'Cyfleon yn y wlad'
Un o'r myfyrwyr presennol oedd yn rhan o'r brotest oedd Elis Williams-Huw.
"I gael cyfleon yn y wlad a dim jyst yn y dinasoedd mae'n bwysig iawn," meddai.
"Yn bersonol dwi wedi dod allan o'r ddinas i allu gweld rhai o ardaloedd gwledig Cymru a bod Ceredigion yn hanesyddol iawn a bod nhw'n haeddu addysg uwch fan hyn."
Ym mis Tachwedd, dywedodd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: "Mae'r campws wedi gweld dirywiad cynyddol yn nifer y myfyrwyr sy'n cael eu haddysgu wyneb-yn-wyneb.
"Nid yw hyn yn sefyllfa gynaliadwy, ac mae'n rhaid inni weithredu."
Yn ôl y brifysgol, mae'r campws yn costio £2.4m i redeg bob blwyddyn.
Mae Cymdeithas Llambed wedi lansio deiseb yn erbyn y cynlluniau, yn y gobaith o gael 10,000 o lofnodion er mwyn ysgogi dadl yn y Senedd ar y newidiadau.
'Cyfleoedd hanfodol i wrando'
Mae'r brifysgol yn dweud eu bod wedi ymrwymo i gadw prif ystâd y campws yn Llambed a chanfod dulliau amgen o gynnig gweithgareddau sy'n ymwneud ag addysg.
Ond mae'r sefydliad yn wynebu diffyg o £11m yn y cyfrifon diweddaraf, ynghyd â chostau cynnal a chadw, a chostau cydymffurfio, o tua £33.5m ar gyfer campws Llambed.
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol eu bod nhw'n "ymwybodol o'r protest ar y campws heddiw ac wedi bod mewn cysylltiad â'r trefnwyr cyn y digwyddiad".
"Mae ein deialog gyda rhanddeiliaid allweddol am y cynnig yn parhau, ac mae'r rhain yn cynnwys sgyrsiau rheolaidd gyda'n staff a'n myfyrwyr yn ogystal â chynrychiolwyr o'n hundebau llafur cydnabyddedig, undeb myfyrwyr, Cymdeithas Llambed, Cyngor Tref Llambed, Cyngor Sir Ceredigion, gwleidyddion lleol, a llywodraethau Cymru a'r DU.
"Mae'r rhain yn gyfleoedd hanfodol i wrando ar adborth, deall pryderon ac ystyried materion yn weithredol.
"Mae dyfodol ystâd campws Llambed o bwysigrwydd mawr ac os byddwn yn bwrw ymlaen â'n cynigion byddai angen ymgynghori ymhellach ag ystod o randdeiliaid o'r gymuned leol yn ogystal â'r llywodraeth ac eraill sydd â diddordeb.
"Byddem yn gobeithio cael amrywiaeth o gynigion y gellir eu gwerthuso i nodi'r rhai a fyddai'n darparu dyfodol llwyddiannus ac economaidd gynaliadwy iddo."
Mae disgwyl cyhoeddiad pellach gan y brifysgol yn y flwyddyn newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd