Ymestyn gwaharddiad ar ymwelwyr ysbyty wedi achosion norofeirws

Nid yw'r gwaharddiad ar ymwelwyr yn effeithio ar apwyntiadau cleifion allanol
- Cyhoeddwyd
Mae bwrdd iechyd yn y de wedi ymestyn y gwaharddiad ar ymweliadau ysbyty yn dilyn achosion diweddar o norofeirws.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ddydd Gwener y byddai pob ymweliad cyffredinol yn cael ei atal er mwyn amddiffyn cleifion, staff ac ymwelwyr.
Mae norofeirws yn heintus iawn a gellir ei ddal gan bobl sydd wedi eu heintio a thrwy gyffwrdd ag arwynebau heintiedig fel handlenni drws.
Yn dilyn adolygiad o'r cyfyngiadau oedd mewn grym, dywedodd y bwrdd iechyd ddydd Mercher fod angen i'r mesurau barhau mewn grym tan ddiwedd yr wythnos.
Bydd eithriadau i'r gwaharddiad yn cael eu hystyried ar gyfer cleifion sy'n ddifrifol wael, yn derbyn gofal diwedd oes, partneriaid geni ac ymwelwyr yn Ysbyty Plant Cymru.
Nid yw'r gwaharddiad yn effeithio ar apwyntiadau cleifion allanol.
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd2 Ionawr
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwella o norofeirws mewn ychydig ddyddiau heb ofal ysbyty ond mae rhai yn gallu mynd yn sâl iawn.
Mae'r symptomau'n cynnwys chwydu, dolur rhydd, tymheredd uchel, poenau yn y stumog ac yn y breichiau a choesau.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn rheoli'r ysbytai canlynol:
Ysbyty Athrofaol Cymru
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Ysbyty Plant Arch Noa (a fydd yn dal i ganiatáu ymwelwyr)
Ysbyty Dewi Sant
Ysbyty'r Barri
Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed
Ysbyty Deintyddol y Brifysgol
Ychwanegodd y bwrdd iechyd y bydd yn rhaid i ymwelwyr olchi eu dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr a defnyddio hylif diheintio dwylo.