'Talwch iawndal yn fuan i is-bostfeistri allu symud ymlaen'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn is-bostfeistr o Wynedd wedi apelio ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod iawndal yn cael ei dalu i'r holl is-bostfeistri gafodd eu heffeithio gan sgandal system gyfrifiadurol Horizon cyn gynted â phosib.
Aeth Dewi Lewis i'r carchar am bedwar mis yn 2011 ar ôl cael ei gyhuddo ar gam o ddwyn dros £50,000 gan Swyddfa'r Post.
Bu'n rhaid aros tan fis Awst eleni cyn i'w euogfarn gael ei dileu.
Ddydd Mawrth bydd Mr Lewis yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Busnes Tŷ'r Cyffredin ac yn y cyfamser mae'n galw ar y llywodraeth i sicrhau bod y taliadau'n cael eu gwneud ar frys.
Dywed Llywodraeth y DU eu bod "yn gweithio'n ddiflino... i sicrhau iawndal llawn, teg a chyflym" i is-bostfeistri fel Mr Lewis.
Dywedodd Mr Lewis: "Ma' rhai teuluoedd dal yn dioddef a'r apêl ydy i'r llywodraeth rŵan 'neud yn siŵr bod nhw'n cael y taliadau allan i bawb mor fuan â phosib er mwyn i bawb symud ymlaen efo'u bywydau mor fuan â phosib.
"Ma' hynny'n apêl go iawn.
"Gobeithio y bydd 'na wersi mawr yn cael eu dysgu, ond ma' rhywun yn bryderus bod yr Ysgrifennydd Iechyd ishe digideiddio popeth a bod gwybodaeth meddygaeth pawb yn mynd i fod yn nwylo'r cyfrifiadur.
"Gobeithio na fyddan nhw'n 'neud yr run un camgymeriadau eto."
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Ionawr
'Teuluoedd wedi dioddef yn enbyd'
Dywedodd Mr Lewis ei fod yn croesawu cyhoeddiad y Canghellor yr wythnos ddiwethaf yn clustnodi £1.8bn ar gyfer y rhai sydd wedi'u heffeithio gan sgandal Swyddfa'r Post.
Ond ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd y broses nawr yn symud yn gynt, ac y bydd 'na amserlen i dalu pawb cyn gynted â phosib.
"Mae llawer iawn ohonyn nhw'n hŷn na fi ac ma' 'na deuluoedd wedi dioddef yn enbyd," meddai.
Mae Mr Lewis yn disgwyl iawndal ers mis Awst ac ar ôl "tipyn o gwyno gan gyfreithwyr ac aelodau seneddol" dywedodd bod y taliad cyntaf newydd grrraedd ei gyfrif banc.
Ychwanegodd ar raglen Dros Frecwast bod y swm mae e'n gobeithio ei derbyn "yn gymesur â ryw £600,000" a'i fod wedi penderfynu "peidio cwffio am fwy er mwyn symud ymlaen gyda'i fywyd".
"Dwi isio tynnu llinell o dan yr holl beth. Gallai cwffio am fwy o bres gymryd dwy neu dair blynedd arall. Digon 'di digon.
"Dwi eisiau symud ymlaen gyda phethau fel datblygu economaidd, heddwch a chynaladwyedd er budd pobl eraill."
Yn ôl yr AS lleol, Liz Saville Roberts mae Mr Lewis "wedi dioddef gymaint - pam felly bod rhaid iddo fo frwydro i gael yr arian sy'n ddyledus iddo fo?"
"O un llywodraeth i’r llall, ar ôl cyllideb, dal yn gorfod brwydro.
"Mi ddyle fo fod yn glir ac yn syml i'r is-bostfeistri sy 'di dioddef: faint o arian mae nhw'n ei gael, yr hyn ma' nhw'n gorfod 'neud i gael o, a bod 'na ddim byd yn cael ei golli ar hyd y ffordd."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU eu bod yn cydnabod "na fydd unrhyw faint o iawndal fyth yn ddigon" i is-bostfeistri "sydd wedi gorfod dioddef caledi neu hyd yn oed cyfnod mewn carchar, fel Mr Lewis".
Mae'r is-bostfeistri, meddai, "wedi aros yn rhy hir i dderbyn iawndal", ac mae'r llywodraeth "yn gweithio'n ddiflino... i sicrhau iawndal llawn, teg a chyflym" i is-bostfeistri fel Mr Lewis wedi diddymiad eu heuogfarnau.
Ychwanegodd bod £363m eisoes wedi ei dalu i dros 2,900 o hawlwyr trwy bedwar o gynlluniau iawndal gwahanol.