Dysgu gyrru 'yn frawychus' medd chwaer dyn ifanc fu farw

Chwaer Callum, Erin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Erin Griffiths, 16 yn dweud ei bod hi'n oedi cyn dechrau trefnu gwersi gyrru, wedi i'w brawd farw mewn gwrthdrawiad bron i flwyddyn yn ôl

  • Cyhoeddwyd

Mae chwaer dyn ifanc fu farw mewn gwrthdrawiad car y llynedd yn dweud ei bod hi'n poeni am gael gwersi gyrru oherwydd yr hyn ddigwyddodd i'w brawd.

Bu farw Callum Griffiths, 19, yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghoedelái, Rhondda Cynon Taf ar 11 Rhagfyr 2023.

Cafodd dau o'i ffrindiau - Jesse Owen a Morgan Smith oedd yn 18 - hefyd eu lladd.

Mae Erin Griffiths, 16 yn dweud bod "y syniad o gael fy ffrindiau neu fi mewn car yn frawychus... mae'n ddychrynllyd".

"Dydych chi ddim yn gwybod be' allai ddigwydd i chi."

Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Callum Griffiths yn teimlo eu bod "wedi colli rhan ohonon ni"

Bron i flwyddyn ers y gwrthdrawiad, mae lluniau o Callum i'w gweld yn ystafell fyw y teulu yn ardal Porth.

"Mae'n mynd yn anoddach," meddai mam Callum, Natalie.

"Mae'r realiti o orfod codi bob dydd a byw ein bywydau heb Callum wedi ein taro ni.

"Sut mae disgwyl i ni godi bob dydd, yn gwybod nad yw ein mab ni gyda ni?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Callum, Natalie Griffiths yn ymgyrchu am newidiadau i'r gyfraith ar gyfer gyrwyr newydd

Mae Natalie'n cofio noson y gwrthdrawiad.

Ar ôl i ffrind oedd yn byw gerllaw eu ffonio nhw, fe wnaeth y teulu yrru am 15 munud er mwyn mynd i safle'r ddamwain.

"Dywedodd hi wrtha i bod y car wedi torri'n hanner a rydw i'n cofio gweddïo yr holl ffordd i Goedelái i Callum fod yn iawn - iddo fe jyst fod yn ok."

Er eu bod nhw wedi cael gwybod ar ôl cyrraedd safle'r gwrthdrawiad fod Callum wedi marw, mae Natalie'n dweud nad oedd hi wedi gallu prosesu hynny ar y pryd.

"Roedd ein byd ni wedi chwalu," dywedodd.

"Rydw i'n teimlo ein bod ni wedi colli rhan ohonon ni pan gollon ni Callum - dydw i ddim yr un person erbyn hyn, dydi fy ngŵr ddim yr un person chwaith.

"Mae 'na fwlch enfawr a bydd dim modd llenwi'r twll yna."

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Morgan Smith, Jesse Owen a Callum Griffiths (o'r chwith i'r dde) fis Rhagfyr y llynedd

Fis diwethaf, daeth cwest i farwolaethau'r tri dyn ifanc i'r casgliad fod gyrrwr y car, Jesse Owen wedi colli rheolaeth o'r cerbyd ac wedi taro yn erbyn bws tra'n teithio ar gyflymder o tua 50mya.

Dywedodd y crwner mai'r "cyflymder yr oedd y car yn teithio" oedd y prif ffactor wnaeth gyfrannu at y digwyddiad.

Dywedodd bod ffactorau eraill, fel y ffaith bod Jesse Owen dros y trothwy yfed, a bod y cerbyd yn orlawn, yn "annhebygol" o fod yn ffactor "pwysig" yn achos y gwrthdrawiad.

Disgrifiad o’r llun,

Fe drefnodd y teulu barti i nodi pen-blwydd Callum yn 20 oed

A hithau bron yn flwyddyn ers y digwyddiad, dyw'r teulu heb benderfynu eto sut y byddan nhw'n nodi hynny.

Fe drefnon nhw barti i Callum, fyddai wedi bod yn 20 oed ddechrau mis Tachwedd.

Roedd Erin yn agos iawn at ei brawd, gan ei ddisgrifio fel "y ffrind gorau a'r gwarchodwr mwyaf".

15 oed oedd Erin pan fu farw ei brawd ac mae'n dweud bod y parti wedi bod yn "gyfle i gael dathliad mawr i ni edrych mlaen ato yn hytrach na meddwl nad yw Callum yma ar gyfer ei ben-blwydd".

"Mae'n rhaid i ni gymryd bob dydd ar y tro."

Disgrifiad o’r llun,

Mae mam a chwaer Callum wedi cael tatŵ i gofio amdano

Mae Natalie wedi ymuno â grŵp o deuluoedd sydd yn galaru fel hi.

Bwriad 'Forget Me Not Families Uniting' yw ymgyrchu am newidiadau i'r gyfraith ar gyfer gyrwyr newydd.

Byddai Natalie yn "croesawu" trwydded raddedig fyddai'n gosod cyfyngiadau am gyfnod wedi i bobl dan 25 basio eu prawf gyrru, er mwyn ceisio achub bywydau.

'Rhwystredig iawn'

Un awgrym ydy cyfyngu ar nifer y bobl all deithio mewn car hefo person sydd newydd basio ei brawf.

Ond fis diwethaf, dywedodd Llywodraeth y DU nad oedden nhw'n ystyried cyflwyno trwydded o'r fath.

"Mae'n rhwystredig iawn," meddai Natalie, "yn enwedig gan fod gen i blentyn sydd bron â chyrraedd yr oed lle bydd hi'n dysgu gyrru ond sydd nawr yn poeni am hynny gan ei bod hi mor ymwybodol o'r peryglon."

Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Callum Griffiths yn dweud eu bod yn ymgyrchu i wella diogelwch er cof amdano

Yn ôl Erin, mae ei ffrindiau hi'n cytuno bod angen newid, ac mae'n gobeithio y bydd pobl yn gyrru'n fwy gofalus yn sgil marwolaeth ei brawd.

Dywedodd: "Wnaethon ni ddim dychmygu y byddai hyn yn digwydd i Callum. Dydych chi ddim yn gwybod pwy arall fydd yn wynebu rhywbeth tebyg - mae hynny wastad ar fy meddwl."

I'r rheiny sy'n dweud y byddai cyfyngiadau yn amharu ar ryddid pobl ifanc, mae gan Natalie neges syml a chlir.

"Does gan Callun ddim bywyd i'w fyw erbyn hyn.

"Mae'n rhaid i ni geisio gwneud gwahaniaeth er cof amdano."

Pynciau cysylltiedig