Lleihau dedfryd menyw wnaeth achosi marwolaeth babi wyth mis oed

Bu farw Mabli Cariad Hall ychydig ddyddiau wedi'r gwrthdrawiad ym Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd
Mae dedfryd menyw 71 oed wnaeth achosi marwolaeth babi wyth mis oed mewn gwrthdrawiad wedi cael ei leihau yn y Llys Apêl.
Roedd Mabli Cariad Hall o Gastell-nedd yn ei phram y tu allan i Ysbyty Llwynhelyg pan gafodd ei tharo gan gar Bridget Carole Curtis ym Mehefin 2023, a bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn dilyn anaf difrifol i'w hymennydd.
Roedd Curtis, o Fegeli yn Sir Benfro, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus ac fe gafodd ei dedfrydu i bedair blynedd dan glo.
Daeth barnwyr y Llys Apêl i'r casgliad ddydd Mawrth fod y ddedfryd wreiddiol yn "ormodol", a cafodd ei gwtogi i dair blynedd o garchar.
Dywedodd teulu Mabli eu bod yn siomedig bod y ddedfryd wedi'i lleihau, ond yn falch bod y llys wedi cytuno gyda'r dyfarniad gwreiddiol ei bod yn drosedd o yrru peryglus.

Cafodd Bridget Carole Curtis ei dedfrydu i bedair blynedd dan glo ym mis Ionawr
Fe glywodd ar achos gwreiddiol fod Curtis wedi colli rheolaeth ar y car wrth iddi "chwilio am fag" ar sedd gefn y cerbyd cyn y digwyddiad ar 21 Mehefin 2023.
Dyna pryd y tarodd grŵp o bobl tu allan i fynedfa'r ysbyty.
Clywodd cwest i'w marwolaeth yn 2023 fod Mabli yn ei phram y tu allan yr ysbyty pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Plant Bryste o anaf difrifol i'w hymennydd.
Achos 'wirioneddol drasig'
Yn y gwrandawiad ddydd Mawrth, fe ddywedodd Mr Ustus Butcher - un o'r tri barnwr ynghyd â Mr Ustus Bean a Richard Marks KS - fod yr achos yn un "wirioneddol drasig".
"Rydym wedi darllen datganiadau personol rhieni Mabli, yn sôn am eu galar yn sgil marwolaeth eu merch, a ni all unrhyw un beidio â chydymdeimlo â nhw wedi'r golled ofnadwy yma," meddai.
Wrth gadarnhau ei fod yn lleihau'r ddedfryd, dywedodd Mr Ustus Butcher: "Mae'n wir nad oedd yr apelydd wedi ceisio achosi unrhyw niwed, ac yn wir hefyd mai camgymeriad sydyn iawn oedd hwn, ond mae'r achos bendant yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gyrru peryglus."
Ychwanegodd y byddai Curtis yn ymwybodol ei bod wedi stopio "mewn ardal brysur y tu allan i ysbyty gyda'r posibilrwydd bod unigolion bregus o'i chwmpas".
Dywedodd hefyd ei fod yn derbyn fod Curtis wir yn edifar am yr hyn ddigwyddodd ac mai "diffyg canolbwyntio a dryswch ynglŷn â pha bedal yr oedd hi'n ei wasgu wnaeth achosi'r trasiedi yma".
Yn ogystal â lleihau'r ddedfryd o bedair blynedd o garchar i dair, cafodd ei gwaharddiad rhag gyrru ei leihau o wyth mlynedd i saith mlynedd a hanner.
Y teulu'n 'siomedig'
Mewn datganiad, dywedodd teulu Mabli: "Rydym yn siomedig bod y ddedfryd wedi lleihau ond yn falch bod y Llys Apêl wedi cytuno bod y dyfarniad gwreiddiol am drosedd Categori B yn ddilys a bod y ddedfryd o garchar yn sefyll.
"Unwaith eto, diolchwn i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses i sicrhau cyfiawnder i Mabli Cariad ac am yr holl gefnogaeth rydym wedi cael fel teulu yn sgil ein colled.
"Rydym yn dal i wynebu oes hebddi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd20 Medi 2024
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2024