Caernarfon: Ymchwilio i ddifrod gwerth £250,000 ar safle trin dŵr

Mae'r safle yn gwasanaethu dros 12,000 o gartrefi a busnesau yn ardal Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio i achosion o fandaliaeth sydd wedi achosi gwerth £250,000 o ddifrod mewn safle trin dŵr yng Nghaernarfon.
Mae Dŵr Cymru, sy'n gyfrifol am y safle, yn dweud bod grŵp o bobl ifanc wedi cael eu gweld ar y safle gan swyddogion diogelwch a systemau camerâu cylch cyfyng.
Fe gychwynnodd y difrod ar 3 Mehefin gan barhau am dair wythnos rhwng 16:00 a hanner nos.
Yn ôl y cwmni, mae ffenestri a drysau wedi cael eu malu, peirianwaith arbenigol wedi ei ddifrodi a ffensys wedi eu torri.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymweld â'r ysgol leol gyda staff Dŵr Cymru er mwyn tynnu sylw at y peryglon posib i'r rhai sy'n torri mewn i'r safle.

Mae ffenestri a drysau wedi cael eu torri a pheirianwaith wedi ei ddifrodi ar y safle
Mae'r safle dan sylw yn gwasanaethu dros 12,000 o gartrefi a busnesau yn ardal Caernarfon - drwy lanhau a thrin carthffosiaeth a dŵr gwastraff.
Yn ôl Dŵr Cymru, mae mesurau diogelwch ychwanegol wedi cael eu cyflwyno yno o ganlyniad i'r fandaliaeth ddiweddar.
Maen nhw'n honni bod grŵp o bobl ifanc oedd yn taflu cerrig ac eitemau eraill wedi ymosod ar swyddog diogelwch llawn amser sydd wedi ei gyflogi yn ddiweddar.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd eu galw i'r safle ar un achlysur hefyd ar ôl achos honedig o losgi coed yn fwriadol.
'Rhoi eu hunain mewn peryg'
Mae Dŵr Cymru yn galw ar bobl leol i roi gwybod am unrhyw achosion o ymddygiad amheus o gwmpas y safle i'r heddlu.
"Mae'r achosion hyn o dorri mewn yn achos pryder mawr i ni... Tu hwnt i'r effaith ariannol ac amgylcheddol, ein blaenoriaeth yw iechyd a diogelwch y rhai sy'n gyfrifol," meddai Victoria Collier, rheolwr dalgylch gyda Dŵr Cymru.
"Mae 'na reswm bod ffensys ac arwyddion rhybudd ar y safle, mae 'na danciau dwfn iawn sy'n golygu pe bai rhywun yn disgyn i mewn, bydden nhw'n cael eu tynnu i'r gwaelod."
Dywedodd y prif arolygydd Stephen Pawson: "Rydyn ni'n poeni yn fawr fod yr unigolion hyn yn rhoi eu hunain mewn peryg bob tro y maen nhw'n tresbasu ar y safle.
"Mae'n bwysig fod y rhai sy'n rhan o hyn yn deall eu bod yn cyflawni troseddau drwy ymddwyn fel hyn, ac fe fyddwn ni'n ymateb yn gadarn i hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd18 Mehefin
- Cyhoeddwyd10 Mehefin