Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Eidal 44-12 Cymru

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Eidal 44-12 Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd 'na siom i Gymru wrth iddyn nhw golli yn erbyn yr Eidal yn eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sul.
44-12 oedd y sgôr terfynol yn y Stadio Sergio Lanfranchi yn Parma wrth i'r gwrthwynebwyr sgorio pum cais yn erbyn tîm Sean Lynn.
Dyma'r golled drymach i dîm y merched sydd hefyd yn gorffen pencampwriaeth heb ennill gêm am y tro cyntaf.
Roedd Cymru ar y blaen o 12 pwynt i 10 ar ddiwedd yr hanner cyntaf yn dilyn ceisiau gan Kate Williams a Gwenllian Prys, gyda Sofia Stefan yn ceisio i'r Eidal.
Ond fe diriodd Francesca Granzotto, Silvia Turani, Vittoria Minuzzi ac Aura Muzzo yn yr ail hanner i sicrhau buddugoliaeth ysgubol i'r Eidal.
Daeth Alex Callender, Maisie Davies, Carys Phillips, Jenni Scoble, Natalia John, Hannah Bluck, Cath Richards a Sian Jones i'r maes yn yr ail hanner.
Ond mae wedi bod yn ymgyrch siomedig i dîm Sean Lynn sy'n gorffen y bencampwriaeth gyda'r Llwy Bren.
Fe wnaeth Lloegr ennill y Chwe Gwlad am y seithfed tro yn olynol ar ôl curo Ffrainc dydd Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill
- Cyhoeddwyd23 Ebrill
- Cyhoeddwyd25 Ebrill