Athrawon Cymru yn cael cynnig codiad cyflog o 4%

Disgyblion mewn dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynnig yn unol â'r hyn sydd yn cael ei gynnig i athrawon yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd

Mae athrawon yng Nghymru wedi cael cynnig codiad cyflog o 4% o fis Medi ymlaen.

Mae hynny yn unol â'r cynnig yn Lloegr ond yn is na'r 4.8% a gafodd ei argymell gan y corff adolygu cyflogau annibynnol yng Nghymru.

Wrth amddiffyn y penderfyniad, dywedodd Ysgrifennydd Addysg Cymru, Lynne Neagle, fod cytundeb y llynedd "yn sylweddol uwch" na'r hyn oedd yn cael ei argymell bryd hynny, felly byddai athrawon yn derbyn cynnydd o tua 9.7% dros y ddwy flynedd.

Rhybuddiodd Ms Neagle y byddai cyflogau uwch yn golygu toriadau "sylweddol" mewn mannau eraill, gan gynnwys i elfennau o gyllidebau ysgolion.

Mae dau undeb athrawon wedi mynegi siom ynghylch y cynnig newydd.

Lynne Neagle
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle y byddai cyflogau uwch yn arwain at doriadau mewn mannau eraill

Mae adroddiad y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (IWPRB) yn argymell y dylai'r holl gyflogau a lwfansau gael eu cynyddu 4.8% o fis Medi 2025 ymlaen.

Roedd awdurdodau lleol ac undebau sy'n cynrychioli'r gweithlu addysg wedi pwysleisio pa mor bwysig oedd hi bod unrhyw ddyfarniad cyflog athrawon yn cael ei ariannu'n llawn.

Dywedodd Lynne Neagle: "Rwy'n deall yr effaith bosibl y gallai codiadau cyflog heb eu hariannu ei chael ar nifer yr athrawon a'r llwyth gwaith.

"Gan gydnabod pwysigrwydd darparu cyllid llawn a chynaliadwy ar gyfer cyflogau athrawon, rwy'n ymgynghori felly ar gynyddu'r holl gyflogau a lwfansau 4% o fis Medi 2025 ymlaen.

"Er bod hyn yn swm is na'r argymhelliad gan IWPRB eleni, yn 2024/25, llwyddais i wneud dyfarniad cyflog o 5.5%, swm sylweddol uwch na'r argymhelliad gan IWPRB o 4.3%.

"Mae'r hyn rwy'n ei gynnig felly yn cyfateb i ddyfarniad cyflog o tua 9.7% dros 2024/25 a 2025/26, o'i gymharu â'r cyfanswm o tua 9.3% a argymhellwyd gan IWPRB dros y ddwy flynedd honno."

Ychwanegodd, "pe bai Llywodraeth Cymru yn neilltuo'r adnoddau angenrheidiol i ariannu'r dyfarniad cyflog a argymhellwyd, byddai angen ailgyfeirio arian sylweddol o feysydd eraill o wariant y llywodraeth fel cyllidebau ysgolion, yn ogystal â'r cyllid a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg [Mark Drakeford] i gefnogi cyflogwyr sector cyhoeddus datganoledig gyda chost uwch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol."

Dywedodd Laura Doel o undeb athrawon NAHT Cymru ei bod yn "bryderus" ynghylch cynnig y llywodraeth.

"Mae'n annheg i Lywodraeth Cymru ddweud y byddai talu athrawon ac arweinwyr ysgolion yr hyn y maen nhw werth yn rhoi mwy o bwysau ar gyllidebau ysgolion.

"Ni ddylid disgwyl iddynt orfod dewis rhwng darparu ar gyfer eu dysgwyr a derbyn yr arian sy'n ddyledus iddynt.

"Dyw gweithwyr mewn meysydd eraill ddim yn cael eu gwneud i deimlo'n euog fel hyn ac ni ddylai hynny fod yn wir am arweinwyr chwaith."

Ychwanegodd: "Byddwn yn ymgynghori â'n haelodau ar y cynnig ond nid oes gennym unrhyw fwriad i argymell unrhyw beth sy'n ceisio gorfodi ein haelodau i dderbyn llai nag y maent yn ei haeddu ac a fyddai'n gwaethygu'r argyfwng recriwtio a chadw sy'n ein hwynebu."

Dywedodd Claire Armitstead o Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau fod y cynnig yn "siomedig" ond ei bod yn "falch y bydd cyllid yn cael ei ddarparu i gwrdd â chostau llawn y dyfarniad cyflog y cytunwyd arno gan fod hyn yn hanfodol i gyllidebau ysgolion sydd dan straen dwys".