Ysgolion de Cymru'n dod at ei gilydd ar gyfer 'perfformiad arbennig'

Llun o'r gerddorfaFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dyma lun o'r perfformiad y llynedd ac yn ôl yr arweinydd mae'r prosiect yn mynd o nerth i nerth

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgolion ar draws de Cymru'n dod at ei gilydd i greu cerddorfa arbennig ar gyfer perfformiad yn Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd.

Mae dros 160 o ddisgyblion yn cymryd rhan eleni - y nifer fwyaf ers i'r prosiect ddechrau bedair blynedd yn ôl.

Mae disgwyl i'r perfformiad gynnwys amrywiaeth o ddarnau clasurol a chyfoes ac er gwaethaf eu hamserlenni llawn mae'r disgyblion wedi ymroi'n llwyr i'r perfformiad.

Ymhlith yr ysgolion fydd yn cymryd rhan mae Plasmawr, Llanhari, Garth Olwg, Ystalyfera, a Bro Dur.

Twm yn dal trwmped
Disgrifiad o’r llun,

Dyma fydd yr eildro i Twm o Ysgol Garth Olwg gymryd rhan yn y digwyddiad

Mae'r prosiect yn ffordd dda o ddod i adnabod disgyblion eraill sy'n "rhannu'r un cariad dros gerddoriaeth" meddai Twm, fydd yn perfformio am yr ail dro eleni.

"Fi'n eistedd wrth ymyl rhywun dwi byth wedi cwrdd â o'r blaen, a cyn bod yn rhan o'r gerddorfa doeddwn i'm yn adnabod rhan fwyaf o'r ysgolion ond nawr fi yn a mae'n profiad gwych.

"Fi'n rili cyffrous a fi mynd i'w wneud o blwyddyn nesa,'" meddai.

Ychwanegodd Twm, o Ysgol Garth Olwg, fod rhai o'r darnau fydd yn rhan o'r perfformiad nos Wener yn heriol ond mae'n credu y bydd y gynulleidfa yn mwynhau.

"Mae pawb yn cael eu herio tipyn bach hefo'r darnau a dim ond dau ddiwrnod sydd gyda ni i ymarfer.

"Ond, mae e wastad yn troi mas i fod yn berfformiad sy'n cael ei fwynhau gan bawb sydd yno felly fi'n edrych ymlaen yn arw."

Gwenan yn sefyll drws nesaf i delyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenan o Ysgol Gymraeg Gwynllyw yn mwynhau gweld faint sy'n ymddiddori mewn cerddoriaeth

Mae disgyblion rhwng 11a 18 oed yn cymryd rhan o 11 o ysgolion - Plasmawr, Glantaf, Bro Edern, Bro Morgannwg, Llanhari, Garth Olwg, Gwynllyw, Llangynwyd, Cwm Rhymni, Ystalyfera, a Bro Dur.

Dywedodd Gwenan o Ysgol Gymraeg Gwynllyw ei fod e'n "rili cŵl adnabod gymaint o bobl o wahanol ardaloedd - yn enwedig gan fod pawb yn chwarae offerynnau mor wahanol."

Ychwanegodd mai dim ond tri disgybl o'i hysgol hi sy'n cymryd rhan ond ei fod yn bleser gweld eraill "sydd hefo gymaint o ddiddordeb mewn cerddoriaeth".

Rhydian Lake
Disgrifiad o’r llun,

Mae arweinydd y prosiect, Rhydian Lake, yn edrych ymlaen at y noson

Ers cychwyn y prosiect bedair blynedd yn ôl, mae'r fenter wedi mynd o nerth i nerth – ac mae arweinydd y prosiect, Rhydian Lake, yn edrych ymlaen at y noson fawr.

"Dros y blynyddoedd mae mwy o ysgolion wedi bod eisiau ymuno a nawr ers tair blynedd ni wedi bod yn perfformio yn Neuadd Hoddinott yn y Bae.

"Lleoliad gwych i'r disgyblion gael chwarae – lleoliad mor sbesial."

Ond tra bo'r noson yn ddathliad o dalent ifanc, mae Rhydian yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu cerddoriaeth fel pwnc yn ysgolion Cymru.

"O ran Ysgol Plasmawr yn benodol, fi'n sicr wedi gweld dip o ran disgyblion sydd eisiau pigo lan offeryn.

"Chi'n siarad hefo unrhyw athro cerdd a mae nhw'n dweud yr un peth.

"Yn enwedig ein hofferynnau mwy traddodiadol.

"Felly dyna oedd y bwriad ar y dechrau, yn enwedig i ysgolion llai sydd efallai heb lawer o gefndir cerddorol."

Dywed ei fod yn gwerthfawrogi cyfraniad y Coleg Cerdd a Drama i'r prosiect eleni, yn ogystal â chyfraniad yr holl ddisgyblion sydd wedi ymroi'n llwyr i baratoi ar gyfer y digwyddiad.

Bydd y perfformiad yn cael ei gynnal nos Wener am 18:00 yn Neuadd Hoddinott yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.