Awgrym i arddel Farage yn 'lol', medd cyn-arweinydd

Sarah AthertonFfynhonnell y llun, Senedd y DU
Disgrifiad o’r llun,

Sarah Atherton - y ddynes gyntaf i gael ei hethol yn AS Ceidwadol yng Nghymru - sy'n awgrymu y byddai'r blaid mewn well sefyllfa pe tawn nhw wedi arddel Nigel Farage

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru wedi gwrthod yn chwyrn awgrym y dylai'r blaid fod wedi "arddel" Nigel Farage.

Roedd yr awgrym, gan gyn AS Wrecsam, Sarah Atherton, yn "lol", ym marn Paul Davies.

Yn ôl Ms Atherton - a gollodd ei sedd i'r Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol ddydd Iau, ni fyddai'r Blaid Geidwadol yn ei sefyllfa bresennol pe tai wedi cynnwys Mr Farage - arweinydd Reform UK erbyn hyn - "mewn rhyw fodd", boed fel AS neu fel aelod o Dŷ'r Arglwyddi.

"Mae'n wleidydd llwyddiannus iawn - ni allwch ddadlau yn erbyn hynny, ac roedd yn wir yn allweddol o ran Brexit," medd Ms Atherton, a gafodd ei hethol yn AS yn 2019.

Wrth siarad gyda BBC Cymru wedi i'w phlaid golli grym i'r Blaid Lafur yn San Steffan, dywedodd Ms Atherton: "Rwy'n meddwl y dylid fod wedi arddel Nigel Farage o fewn y blaid.

"Ym mha safle ac ymhle - mae hynny'n gwestiwn, ond fe ddylid fod wedi ei arddel. Pe tasen ni wedi gwneud hynny, bydden ni yn bendant, rwy'n meddwl, ddim yn y sefyllfa yma rŵan."

Awgrymodd bod mewnfudo yn un o brif bynciau llosg yn yr etholaeth, a bod Reform UK wedi "tynnu" pleidleisiau oddi arni.

"Pe tawn i wedi cael pleidleisiau Reform, byswn i wedi ennill," dywedodd.

Ychwanegodd bod y llywodraeth Geidwadol "heb wrando" ar bryderon ei haelodau Seneddol, a heb sylweddoli mai mewnfudo oedd y pwnc o bwys ar garreg y drws "nes ei bod hi'n rhy hwyr".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel Farage ymhlith pum AS Reform UK a gafodd eu hethol i'r Senedd nos Iau

Yn ôl Ms Atherton, roedd llawer o'r aelodau Reform yn Wrecsam yn arfer bod yn Geidwadwyr, ac fe wnaethon nhw egluro pam wrth i'r pleidleisiau gael eu cyfri nos Iau.

"Dywedon nhw 'dydyn ni heb droi at Reform - chi wnaeth ein hel at Reform achos wnaethoch chi ddim gwrando. Rheoli ffiniau oedd pwrpas Brexit a 'dach chi heb wneud hynny'.

"Rhaid i ni edrych ar yr hyn wnaethon ni ei addo i bobl pan ges i fy ethol yn 2019 a glynu at hynny... [mynd i'r afael â] mewnfudo a symud i'r canol dde."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Davies yn anghytuno dros berthynas bosib rhwng ei blaid a Nigel Farage

Fe wfftiodd Paul Davies, arweinydd y grŵp Ceidwadol ym Mae Caerdydd rhwng 2018 a 2021, sylwadau Sarah Atherton mewn neges ar wefan X.

"Am lol," dywedodd, gan ddisgrifio AS Reform Clacton fel "rhyddfrydolwr a phoblyddwr".

"Nad Ceidwadwr mohono ac rwy'n dweud hynny fel aelod o'r Blaid Geidwadol ers degawdau."

Roedd amseriad yr etholiad yn gamgymeriad hefyd, ym marn Sarah Atherton, gan atal ei phlaid rhag elwa wrth i brisiau ynni a chyfraddau morgais ostwng yn ystod yr ymgyrch.

Awgrymodd y dylai Rishi Sunak fod wedi "oedi am ychydig yn hirach" fel bod pobl yn dod i sylweddoli bod gan y llywodraeth "gynllun da a llwyddiannus" oedd yn "sefydlogi'r economi" ond "yn y chwech wythnos diwethaf doedd pobl ddim yn gwrando".

A hithau'n gyn aelod o'r lluoedd arfog ac yn gyn-weinidog yn Adran Amddiffyn y llywodraeth, dywedodd bod y ffrae dros benderfyniad Mr Sunak i adael y coffadwriaethau D-Day yn gynnar hefyd yn "ergyd".

Dywedodd Ms Atherton bod ganddi feddwl agored o ran y dyfodol, gan gynnwys fod yn ymgeisydd yn etholiadau Senedd Cymru yn 2026.