Rhybudd Dŵr Cymru am berygl o sychder yng Ngheredigion

Mae Dŵr Cymru yn dweud bod llai o law na'r disgwyl wedi syrthio rhwng mis Mawrth a mis Mai o gwmpas ardal Llynnoedd Teifi, un o brif ffynonellau'r rhwydwaith
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru yn rhybuddio y gallai Ceredigion weld gwaharddiadau posibl ar ddefnydd o bibellau dŵr ymhen 4-6 wythnos os yw'r perygl o sychder yn parhau.
Mae'r cwmni wedi datgan statws 'Sychder yn Datblygu' ar gyfer ardal rhwydwaith dŵr canolbarth a de Ceredigion.
Bu llai o law na'r disgwyl rhwng mis Mawrth a mis Mai o gwmpas ardal Llynnoedd Teifi ar ymyl orllewinol Mynyddoedd Cambria, un o brif ffynonellau'r rhwydwaith.
Roedd lefelau'r cronfeydd dŵr 31% yn is na'r un adeg y llynedd.
Daw rhwydwaith dŵr yr ardal hefyd o ddŵr sy'n cael ei godi o Afon Teifi yng ngweithfeydd trin dŵr Llechryd.
Mae'r ardal yn cynnwys 32,000 eiddo yng Ngheredigion, ac mae'n cynnwys rhannau o ogledd Sir Gaerfyrddin a gogledd Sir Benfro.
Beth yw statws 'Sychder yn Datblygu'?
Statws 'Sychder yn Datblygu' yw'r ail gam o bump y mae Dŵr Cymru yn ei ddefnyddio i fesur lefel sychder.
Dyw'r lefel yma ddim yn cyfyngu ar ddefnydd cwsmeriaid o ddŵr.
Dywedodd Marc Davies, cyfarwyddwr gwasanaethau dŵr, Dŵr Cymru: "Yn amlwg, mae'n dibynnu ar y glawiad a gawn dros yr ychydig wythnosau nesaf.
"Os na chawn ni unrhyw law o gwbl, yna o bosibl gallem fynd i'r cyfnod hwnnw [sychder] ymhen tua phedair i chwe wythnos, yn debycach i 6 wythnos, canol mis Gorffennaf."
Os na fydd lefelau'r cronfeydd yn yr ardal yn codi, mae'n bosib y bydd angen symud i gam tri.
"Ar y cam hwnnw, y cam nesaf yn ein cynllun sychder yw cyflwyno gwaharddiadau defnydd dros dro o bosibl sy'n cyfateb i waharddiadau ar bibellau dŵr ceffylau, pe baem yn mynd i mewn i gyfnod y sychder."

Mae'r ardal yn cynnwys 32,000 eiddo yng Ngheredigion, ac mae'n cynnwys rhannau o ogledd Sir Gaerfyrddin a gogledd Sir Benfro
Mae cronfeydd dŵr Llynnoedd Teifi wedi gweld cwta 37% o'r glawiad cyfartalog tymor hir ddisgwyliedig rhwng Mawrth a Mai eleni.
Mae'r tir mawnog sy'n amgylchynu'r cronfeydd yma'n dal dŵr ac yn ei ryddhau nôl i'r amgylchedd yn arafach nac mewn ardaloedd eraill.
Nid yw'r glaw dros y pythefnos diwethaf wedi gwneud fawr ddim i wella'r sefyllfa yn yr ardal.
Ardal rhwydwaith canolbarth a de Ceredigion yw'r unig rhan o Gymru sydd o dan amodau 'Sychder yn Datblygu' ar hyn o bryd.
Os bydd angen symud i statws 'Sychder' fe fydd Dŵr Cymru'n ysgrifennu at gwsmeriaid yn esbonio'r sefyllfa.
Mae Dŵr Cymru yn dweud eu bod eisoes wedi cymryd camau i arbed dŵr yn yr ardal, gan gynnwys mwy o waith i ddod o hyd a thrwsio gollyngiadau dwr.
Mae'r cwmni'n dweud na fyddai symud dŵr o gronfeydd mewn gwahanol rannau o Gymru i gyflenwi'r rhanbarth yn ymarferol.
Rhybudd cynnar i atal cyfyngiadau
Mae'r cwmni yn gofyn i gwsmeriaid i feddwl am eu defnydd o ddŵr ac i beidio a'i wastraffu.
Dywedodd Marc Davies: "Rydyn ni'n rhoi rhybudd cynnar i'n cwsmeriaid ein bod ni'n symud i statws 'Sychder yn Datblygu' yng nghanolbarth a de Ceredigion am ein bod ni'n awyddus i atal cyfyngiadau pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
"Gyda lefelau glawiad is nag erioed dros y misoedd diwethaf, mae lefelau'r dŵr yn ein cronfeydd yn is na'r disgwyl ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.
"Yn dilyn cyfnod mor sych, oni bai ein bod ni'n gweld cyfnod estynedig o dywydd gwlyb yn yr ardal, gyda digon o law, mae hi'n hanfodol ein bod ni'n gwneud popeth y gallwn ni i gynnal y cyflenwadau yn ein cronfeydd a'n hafonydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai
- Cyhoeddwyd22 Mai
- Cyhoeddwyd3 Mai