Llenyddiaeth yn bwysig 'tu hwnt i’r 'stafell ddosbarth'
- Cyhoeddwyd
Mae’n bwysig dangos bod modd defnyddio "llenyddiaeth fel adloniant" ac nad yw’r Gymraeg ond yn "rhywbeth chi’n dysgu ar gyfer arholiadau", yn ôl Bardd Plant Cymru.
Fe ddaw sylwadau Nia Morais wrth i weithdai Y Sgriblwyr Cymraeg, sydd wedi'u trefnu gan Ŵyl y Gelli, deithio’r wlad.
Bwriad y cynllun, sydd wedi ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru, yw ysbrydoli ac annog cenhedlaeth newydd i adrodd straeon ac ysgrifennu’n greadigol trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2023
Ym Mhrifysgol Aberystwyth bu dros 200 o blant o wahanol ysgolion yn cwrdd i gymryd rhan yn y gweithdy.
Mae’n gynllun ar gyfer plant blwyddyn 7 i 9 sy’n cael ei gynnal ym mhrifysgolion Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a Wrecsam.
"Dwi’n teimlo bod lot o blant dyddiau yma yn swil o gwmpas llenyddiaeth achos maen nhw’n credu bod e jest yn rhywbeth chi’n dysgu ar gyfer arholiadau," medd Nia Morais.
"Wedyn chi’n gadael e ar ddiwedd y dydd ac yn mynd 'nôl adre a dydych chi ddim rili yn defnyddio llenyddiaeth fel adloniant.
"Felly dwi eisiau dangos bod nhw’n gallu joio llenyddiaeth, ond hefyd bod nhw’n gallu ysgrifennu eu hunain a bod nhw’n gallu defnyddio'u dychymyg eu hunain i greu bydoedd newydd."
Y bardd a'r perfformiwr Aneirin Karadog yw cyflwynydd y daith.
Mae e’n gweld taith Sgriblwyr Cymraeg fel llwyfan i roi cyfle i bobl ifanc, yn enwedig wrth geisio cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
"Mae’n hollbwysig, dwi’n meddwl, i ni roi cyfleon i ddisgyblion, achos ma' disgyblion yn aml yn sôn bod dim cyfleon gyda nhw i ddefnyddio’r iaith.
"Dyma gyfle iddyn nhw weld bob ‘na bobl yn 'neud bywoliaeth yn defnyddio’r iaith mewn ffordd greadigol, ac mae’n gyfle gwych felly i, gobeithio, allu dylanwadu ar ddisgyblion mewn ffordd gadarnhaol."
Ymhlith y rhai sy’n cynnal sesiynau mae’r gantores ar awdures Casi Wyn.
Wedi dwy flynedd fel Bardd Plant Cymru rhwng 2021 a 2023 mae hi’n hen gyfarwydd â dal dychymyg pobl ifanc ym maes llenyddiaeth a chân.
"Mae’n andros o bwysig bod gan blant gyswllt tu hwnt i’r 'stafell ddosbarth hefo’r Gymraeg yn enwedig," meddai.
"Ei hiaith nhw ydy hi, ac mae’n bwysig bod nhw’n gallu ei pherchnogi hi ym mha bynnag fodd y maen nhw’n dymuno gwneud hynny.
"Mae’n andros o bwysig bod ‘na deimlad o ryddid o fewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn amlwg neu’n lled amlwg, achos bod hi’n iaith sy’n gallu bod yn gallu bod yn gymharol frau yn ei phresenoldeb mewn ambell gymuned.
"Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn gallu mwynhau’r amryw o fersiynau sy’n bodoli ohoni hi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2023