Marwolaethau Coedelái: Cynnal angladd Jesse Owen
![Coedelái](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5ba2/live/b59b18f0-abcd-11ee-b358-c338c2888552.png)
Bu farw Morgan Smith, Jesse Owen (canol), a Callum Griffiths yng Nghoedelái ar 15 Rhagfyr
- Cyhoeddwyd
Mae angladd Jesse Owen - un o'r tri dyn ifanc a gafodd eu lladd pan darodd eu car i mewn i fws yn Rhondda Cynon Taf fis diwethaf - wedi cael ei gynnal.
Cafodd Jesse, 18, ei ladd gyda'i ffrindiau Callum Griffiths, 19, a Morgan Smith, 18, yn ardal Coedelái ar 11 Rhagfyr.
Roedd galarwyr yn gwisgo sgarffiau, teis a dillad glas yn y seremoni ddydd Gwener.
Mewn datganiad ar ôl y gwrthdrawiad, dywedodd teulu Jesse, o Benygraig, fod pawb a oedd yn ei adnabod yn ei garu.
Cafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel "enaid cariadus, hapus, caredig, a phrydferth" a fyddai'n gwneud "unrhyw beth i unrhyw un".
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2023
![Tonypandy](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/775/cpsprodpb/2ab2/live/eb819ed0-abcd-11ee-b358-c338c2888552.jpg)
Bu farw Jesse yn y fan a'r lle ar ôl i Audi A1 fod mewn gwrthdrawiad gyda bws ar Stryd Elwyn, Coedelái. Y gred yw mai Jesse oedd yn gyrru'r car.
Fe glywodd cwest a agorodd yn Rhagfyr bod chwech o bobl yn yr Audi A1 ar y pryd - car sydd wedi'i ddylunio i ddal rhwng pedwar a phump.
Cafodd dau berson arall, Lucas Vaughan, 18, a Sam Griffiths, 19, eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau'n peryglu eu bywyd yn dilyn y digwyddiad.
Mae disgwyl i angladdau Morgan Smith a Callum Griffiths ddigwydd wythnos nesaf.