Llythrennau lliwgar yr artist Trin Brierley

Trin Brierley ac arwydd HiraethFfynhonnell y llun, Trin Brierley
  • Cyhoeddwyd

Yn wreiddiol o'r Barri, mae'r artist Trin Brierley yn byw yn Llundain ac yn arbenigo mewn paentio arwyddion - hen grefft a oedd yn prysur ddiflannu ond sydd wedi cynyddu mewn poblogrwydd yn y blynyddoedd diwethaf.

Trin BrierleyFfynhonnell y llun, Trin Brierley

Ges i fy ngeni yng Nghaerdydd ond fy magu yn y Barri.

Ers i mi fod yn fach, y cwbl o’n i’n ei wneud oedd tynnu llun. O’n i’n reit ddistaw a swil pan yn blentyn, a thynnu lluniau oedd beth o’n i’n ei wneud; o’n i yn fy myd bach fy hun!

Arwydd bingo gan Trin BrierleyFfynhonnell y llun, Trin Brierley

Oedd gen i wastad ddiddordeb mewn llythrennau a daeth eu dylunio nhw yn reit naturiol.

‘Nes i ddechrau busnes paentio murluniau gyda ffrind, bron i 10 mlynedd yn ôl nawr. O furluniau nes i gwympo i mewn i baentio arwyddion a syrthio mewn cariad yn llwyr!

Trin Brierley yn paentio arwyddFfynhonnell y llun, Trin Brierley

Mae’n sgil draddodiadol oedd fel arfer yn fwy o swydd dosbarth gweithiol a gwasanaeth cyhoeddus, tan i feinyl ddod mewn a diflannodd nifer o’r paentwyr arwyddion.

Ond nawr mae wedi cael adfywiad ac mae pobl yn dechrau deall pam fod arwydd wedi ei baentio â llaw gymaint gwell.

Arwydd traeth Trin BrierleyFfynhonnell y llun, Trin Brierley

Cymerodd hi ychydig o flynyddoedd o gau fy hun yn y stiwdio gyda cherddoriaeth ymlaen, yn ymarfer brush strokes, a dyna sydd ei angen er mwyn gael rheolaeth a hyder gyda’r brws.

O’n i ar fin dechrau ar brentisiaeth ond ddigwyddodd Covid, felly roedd rhaid i mi ddysgu fy hun ar y cyfan.

Llythrennau gan Trin BrierleyFfynhonnell y llun, Trin Brierley

'Nes i ambell i gwrs gyda Mike Meyer, paentiwr arwyddion o America, a dysgais i lot. Yna es i i Tokyo Letter Heads yn 2019, sef cynhadledd ryngwladol i baentwyr arwyddion.

Mae’n siŵr mai fan’na y dysgais i’r mwya’ o bethau, achos roedd yna weithdai gyda phaentwyr a chrefftwyr o amgylch y byd mewn un lle a phobl ar lefelau gwahanol. Roedd rhai pobl yn ddechreuwyr, yn rhoi cynnig arni, ac eraill wedi bod yn paentio tryciau ers 50 mlynedd. Roedd e’n anhygoel.

Arwydd siop gan Trin BrierleyFfynhonnell y llun, Trin Brierley

Mae’n denu nifer o bobl eithaf tebyg. Mae’n rhywbeth mae rhai pobl jest yn syrthio mewn cariad gydag e ac yn mynd yn geeky iawn amdano fe!

Mae gan bawb ei steil ei hun heb wir drio, gan ei fod am y ffordd ti’n defnyddio’r brws. Weithiau, ti’n gallu 'nabod steil rhywun a gwybod pwy sydd wedi paentio’r arwydd.

Trin Brierley yn creu arwydd mewn ffenestFfynhonnell y llun, Trin Brierley

Mae’n rhaid i ni frwydro’n ddyddiol yn erbyn feinyl ac egluro pam ei bod hi gymaint gwell i ddewis arwydd wedi ei baentio â llaw.

Efallai ei fod e ychydig bach yn ddrytach ond mae’r fersiwn terfynol yn hardd ac yn hollol unigryw, heb sôn am faint yn hirach y bydd yn para’. Gall rhai arwyddion sydd wedi eu paentio â llaw bara’ degawdau, os nad canrifoedd.

Arwydd Vintage London gan Trin BrierleyFfynhonnell y llun, Trin Brierley

Hoffen i feddwl y gallet ti neud hyn unrhywle ym Mhrydain, ond yn amlwg mae yna lawer mwy i fusnesau yn Llundain, ac felly llawer mwy o waith.

Mae’r prosiectau wastad mor amrywiol, sef beth sydd mor wych am y swydd. Un diwrnod ti’n ysgrifennu bwydlen mewn tafarn, y diwrnod nesa' yn goreuro (gilding) ffenest ac yna’n cael comisiwn i baentio jwg grefi!

Trin BrierleyFfynhonnell y llun, Trin Brierley
Disgrifiad o’r llun,

Trin Brierley gyda rhai esiamplau o'i gwaith

Pynciau cysylltiedig