'Llywodraeth Cymru ddim yn credu bod y celfyddydau yn bwysig'

Mae'r heriau sy'n wynebu'r celfyddydau yng Nghymru "yn gwaethygu bob blwyddyn," meddai Rhodri Glyn Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae un cyn-weinidog diwylliant yn honni ei bod hi'n "amlwg" nad yw Llywodraeth Lafur Cymru "yn credu bod y celfyddydau'n bwysig".
Yn ôl Rhodri Glyn Thomas, cyn-aelod Plaid Cymru ym Mae Caerdydd, mae'r celfyddydau wedi wynebu "creisis am y ddegawd ddiwethaf".
Gwrthod yr honiad o greisis mae'r Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, ond mae'n mynnu nad yw'n "cuddio" rhag heriau'r sector.
Ddydd Gwener, cyhoeddodd Mr Sargeant £4.4m y flwyddyn yn ychwanegol ar gyfer y celfyddydau, diwylliant a chyhoeddi yng Nghymru, fydd yn codi lefelau cyllid y sector yn ôl i'r hyn oedden nhw yn 2023/24.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd30 Ionawr
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Ym mis Ionawr, fe ddaeth pwyllgor trawsbleidiol o Senedd Cymru i'r casgliad bod "tangyllido hanesyddol" wedi bod ar y celfyddydau yng Nghymru, gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yn dweud bod "creisis yn wynebu'r sector diwylliant ar hyn o bryd".
Ond gwrthod hynny wnaeth Mr Sargeant, gan ddweud wrth aelodau'r Pwyllgor Diwylliant "na fyddwn i'n ei ddisgrifio fel argyfwng".
Dywedodd y Pwyllgor fod hyn wedi codi "pryderon sylweddol ynghylch a yw'r gweinidog yn llwyr gwerthfawrogi maint y pwysau y mae'r sector yn ei wynebu".

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant yn mynnu nad yw'n "cuddio" rhag yr heriau sy'n wynebu'r sector
Yn ôl y rhai o fewn y sector gyhoeddi yng Nghymru, mae'r arian cyhoeddus maen nhw'n ei dderbyn gwerth dim ond tua hanner yr hyn oedd e yn 2010 mewn termau real.
"Mae mewn argyfwng. Mae'r 5 mlynedd diwethaf yn arbennig wedi bod yn hynod heriol ac anodd," meddai Rachel Lloyd, Pennaeth Cyhoeddi Gwasg Rily, sy'n dweud bod "storm berffaith" wedi bwrw'r diwydiant.
"Rydyn ni wedi wynebu argyfwng costau byw, yna toriadau mewn ysgolion a chau llyfrgelloedd. Rwy'n gweithio ym maes cyhoeddi plant ac roedden nhw i gyd yn gwsmeriaid i ni."
Yn ôl cyhoeddwr llyfrau arall o Gaerffili, Penny Thomas o FireFly Press, mae'r "sector cyhoeddi yn un bach ond ymroddedig iawn" yng Nghymru.
"Dw i'n nabod pobl sy'n gweithio am ddim byd. Perchnogion-gyhoeddwyr nad y'n nhw'n cymryd cyflog, neu wedi torri eu cyflog eu hunain – galla'i feddwl am dri neu bedwar enghraifft o hynny."
'Sgramblo i geisio cael arian'
Yr un stori, o weithio dan straen, sydd gan Paul Davies, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Volcano yn Abertawe.
"Dydyn ni ddim yn derbyn digon o arian – fe gawson ni doriad mewn termau real, o ran chwyddiant."
Mae'r cwmni theatr, sydd wedi'i leoli mewn hen siop Iceland ar Stryd Fawr Abertawe, yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd ac yn trefnu nifer o grwpiau a gweithgareddau cymunedol yn wythnosol.
"Mae'n golygu ein bod ni'n gorfod codi arian o hyd, yn sgramblo i geisio cael arian at ei gilydd gan sefydliadau elusennol i ariannu grŵp y dynion, grŵp y merched, y prosiect Storyopolis sy'n ymwneud â llythrennedd plant."

Roedd Rhodri Glyn Thomas yn weinidog diwylliant rhwng 2007 a 2008
Yn ôl canfyddiadau adroddiad Pwyllgor Diwylliant y Senedd, yn 2022 roedd Cymru yn gwario llai o arian y pen ar wasanaethau diwylliannol nag unrhyw wlad arall yn Ewrop, ag eithrio Groeg – ar £69.68 y pen.
Yn ôl Rhodri Glyn Thomas, oedd yn weinidog diwylliant rhwng 2007 a 2008 dan lywodraeth glymblaid Llafur-Plaid Cymru, mae'r ffigyrau'n adrodd cyfrolau.
"Yn amlwg dyw Llywodraeth Cymru ddim yn credu bod y celfyddydau yn bwysig yng Nghymru. Ond mae'r celfyddydau yn creu hunaniaeth Gymreig ac mae sefydliadau cenedlaethol Cymru yn gonglfaen i'n cenedligrwydd.
"Mae'n greisis, mae wedi bod yn greisis am y degawd diwethaf ac mae wedi gwaethygu bob blwyddyn."
'Gwytnwch y sector yn rhyfeddol'
Wrth siarad â BBC Politics Wales, dywedodd y Gweinidog Diwylliant Jack Sargeant nad oedd "yn cuddio" rhag heriau'r sector.
"Mae gwytnwch y sector wedi bod yn rhyfeddol, ac o weithio gyda'r sector, gyda'r cynnydd mewn cyllid, fe welwn ni ddyfodol mwy disglair. Mae'n gynnydd o 8.5% mewn cyllid refeniw ers y llynedd, a buddsoddiad anhygoel mewn cyfalaf hefyd, £74m mewn cyfalaf yn y gyllideb eleni.
"Byddaf yn gwneud yr achos bob dydd i ddangos pa mor bwysig yw'r sector i'r genedl, a beth mae'n ei olygu'n bersonol i mi hefyd."
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi croesawu'r arian, gan ddweud ei fod wedi helpu i fynd i'r afael â'r toriad o 10.5% a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru'r llynedd, a'i fod yn "arwydd cadarnhaol i'r sector fod y celfyddydau yn cael eu gwerthfawrogi gan y Llywodraeth."