Carcharu dyn am 27 mlynedd am lofruddio nain yn ei chartref
Cafodd Mears ei recordio ar gamera cloch drws yn torri i mewn i'r tŷ
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei garcharu am o leiaf 27 mlynedd a 128 o ddiwrnodau am lofruddio nain fregus yn ei chartref yn Y Rhyl y llynedd.
Fe gafodd Catherine Flynn, 69 oed, anafiadau difrifol yn yr ymosodiad ym mis Hydref 2024 ar ôl i Dean Mears, 34 oed o Fae Cinmel, Conwy, sathru arni o leiaf 15 gwaith.
Wrth roi'r ddedfryd fe ddisgrifiodd y Barnwr Rhys Rowlands yr ymosodiad fel un "ffyrnig a didrugaredd" cyn ychwanegu ei fod "yn ffordd wirioneddol frawychus a chreulon o ddod â'i bywyd i ben."
Fe ddarllenodd merch Mrs Flynn, Natasha Flynn-Farrell, ddatganiad yn y llys ac wrth gyfeirio at Mears dywedodd: "Allet ti ddim hyd yn oed edrych arna i ac wna i byth faddau i ti Dean Mears."

Dywedodd Mears nad oedd yn cofio'r digwyddiad
Aeth Natasha Flynn-Farrell ymlaen i ddweud ei bod hi'n byw gyda'r lluniau a'r synau a gafodd eu recordio gan y camera cloch drws yn ystod yr ymosodiad ar ei mam.
"Ti Dean Mears a dynnodd y goleuni allan o fy mywyd" meddai gan ychwanegu, "y foment honno oedd y foment fwyaf ffiaidd ac erchyll yn fy mywyd."
Cafwyd Mears, o Fae Cinmel yng Nghonwy, yn euog o lofruddiaeth ar ôl achos llys naw diwrnod yng Nghaernarfon ym mis Mai.
Clywodd y rheithgor ei fod wedi cymryd cetamin a chanabis cyn torri i mewn i gartref y nain fregus - menyw nad oedd erioed wedi'i chyfarfod.
Fe dorrodd ffenestr i fynd i mewn i'r tŷ, gan fynd yn syth i ystafell wely Mrs Flynn.
Cafodd sŵn yr ymosodiad a'r sgrechian ei recordio gan y camera cloch drws.
Cafodd Ms Flynn ei chludo i'r ysbyty ar ôl dioddef niwed difrifol i'w hwyneb yn yr ymosodiad, a bu farw'r diwrnod canlynol.

Bu farw Catherine Flynn o ganlyniad i anafiadau catastroffig i'w hwyneb yn ôl patholegydd
Dywedodd yr erlynydd Andrew Jones fod Ms Flynn wedi dioddef o broblemau iechyd a symudedd difrifol, a'i bod yn defnyddio ffrâm i'w helpu i gerdded a sêt i fyny'r grisiau yn ei thŷ.
Dywedodd y patholegydd, Dr Brian Rodgers fod Ms Flynn wedi marw o ganlyniad i anafiadau catastroffig i'w hwyneb.
"Dyma'r math o anafiadau fyddai rhywun yn disgwyl eu gweld mewn gwrthdrawiad ffordd cyflymder uchel," meddai.
Ychwanegodd mai'r unig esboniad oedd bod ei hwyneb wedi cael ei sathru arno sawl tro.
Er i Mears gyfaddef cyflawni'r ymosodiad, dywedodd yn ystod yr achos nad oedd ganddo unrhyw gof o'r hyn ddigwyddodd na pham.
Roedd ei dîm cyfreithiol wedi dadlau ei fod yn dioddef o PTSD ar ôl cael ei drywanu ddwywaith ar ôl cael ei ryddhau o'r carchar.

Mewn datganiad yn y llys dywedodd Natasha Flynn-Farrell wrth Mears "hoffwn i fy ngeiriau a fy wyneb aros yn dy ymennydd"
Wrth siarad â BBC Cymru, disgrifiodd merch Mrs Flynn, Natasha Flynn-Farrell, yr arswyd o wylio'r digwyddiad.
"Dyma'r noson waethaf yn fy mywyd dwi erioed wedi ei brofi," meddai.
Adroddodd am yr eiliad y gwelodd y rhybudd gan y gloch drws i ddweud wrthi fod rhywun wrth ddrws ffrynt ei mam.
"Chwalodd fy mywyd yn yr eiliad honno," meddai hi.
"Pan wnes i glicio ar y rhybudd, dyna'r foment cafodd fy myd ei chwalu."

Cafodd Mrs Flynn ei llofruddio yn ei chartref ar Ffordd Cefndy yn y Rhyl
Dywedodd Ms Flynn-Farrell fod llofruddiaeth ei mam wedi cael effaith ddofn arni hi a'r rhai o'i chwmpas.
"Mae 'na gymaint o fywydau mae o wedi'u rhwygo'n ddarnau," meddai.
"Yr effaith y mae hyn wedi'i chael - nid yn unig ar y teulu, ar y gymuned, ar ddieithriaid llwyr. Mae wedi bod yn gorwynt o emosiynau i bawb."
Dywedodd ei bod hi'n dal i fyw gyda'r effaith bob dydd.
"Mae'n anodd i fi godi a mynd allan y rhan fwyaf o ddyddiau. Dydw i ddim eisiau gweld neb, dwi wedi colli cysylltiad â fy ffrindiau.
"Mae wedi rhoi pryder, iselder, a PTSD difrifol i mi. Dydw i ddim hyd yn oed yn gwylio'r teledu mwyach, rhag ofn fod 'na triggers.
"Dwi'n dal i fyw hunllef."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2024