Gohirio cystadleuaeth Canwr y Byd tan 2027

Adolfo Corrado
Disgrifiad o’r llun,

Adolfo Corrado enillodd y gystadleuaeth yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae cystadleuaeth BBC Canwr y Byd wedi ei gohirio tan 2027 yn sgil cau Neuadd Dewi Sant.

Roedd y gystadleuaeth ryngwladol, sy'n cael ei llwyfannu yn y neuadd yng Nghaerdydd bob dwy flynedd, i fod i ddigwydd ym mis Mehefin 2025.

Cafodd y neuadd ei chau ym mis Medi er mwyn archwilio paneli concrit RAAC yn y nenfwd, a daeth archwilwyr i'r casgliad y byddai angen to hollol newydd arni - allai gymryd 18 mis.

Bydd cyngerdd yn cael ei gynnal yn lle'r gystadleuaeth yng Nghanolfan y Mileniwm fis Hydref 2025.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i'r neuadd gael to hollol newydd wedi i arbenigwyr rybuddio y gallai ddymchwel

Bydd y gyngerdd yn rhan o Ŵyl Llais, sef gŵyl gerddoriaeth ryngwladol Caerdydd, gyda chyn-enillwyr a chystadleuwyr adnabyddus yn perfformio.

Bydd y cyngerdd yn cael ei ddarlledu ar y BBC.

Dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru: “Mae gan gystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC le pwysig yn y calendr cerddorol rhyngwladol yn ogystal ag yma yng Nghymru.

"Mae’r cyngerdd gala hwn yn gyfle gwych i ddathlu rhai o’r lleisiau eithriadol a ddeilliodd o’r gystadleuaeth hon i’w mwynhau nid yn unig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ond gan gynulleidfaoedd ledled y DU.

“Rwyf hefyd yn falch iawn o gael gweithio gyda thîm deinamig a chreadigol Gŵyl Llais ac edrychaf ymlaen at noson i’w chofio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fis Hydref nesaf.”

Pynciau cysylltiedig