'Es i o drefnu fy angladd i deithio'r byd ar ôl triniaeth newydd'

Mae Victoria Reitze yn teimlo'n "euog" o wybod fod cymaint o bobl yng Nghymru heb gael cynnig triniaeth o'r fath
- Cyhoeddwyd
Mae dynes oedd wedi dechrau trefnu ei hangladd ar ôl cael diagnosis o ganser cam pedwar bellach yn glir o ganser ar ol cael triniaeth newydd.
Roedd gan Victoria Reitze ganser y coluddyn oedd wedi lledaenu i'w iau, ei pheritonewm a'i hofarïau, a chafodd wybod y byddai chemotherapi lliniarol, o bosib, yn ychwanegu blwyddyn at ei bywyd.
And ar ôl cael math newydd o lawdriniaeth - oedd ar y pryd ond ar gael mewn rhannau eraill o'r DU - mae'r canser wedi diflannu.
"Ar y pryd roedd digon o gyllid i gynnig y driniaeth i 15 o gleifion yng Nghymru, a fi oedd claf rhif 13," meddai Ms Reitze.
Gyda'r arian oedd wedi ei glustnodi ar gyfer y math yma o driniaeth yng Nghymru yn brin, mae Ms Reitze wedi galw ar Lywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd i'w gynnig yn barhaol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod modd i glinigwyr wneud ceisiadau unigol am "driniaethau sydd ddim wastad ar gael".
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2024
Fe wnaeth y Moondance Cancer Initiative, cwmni nid er elw sy'n gweithio gyda'r GIG i gryfhau triniaethau canser, dalu i hyfforddi dau feddyg i allu cynnig y llawdriniaeth yma cyn i wasanaeth cenedlaethol gael ei sefydlu yng Nghaerdydd ym Mai 2022.
Ers hynny, mae mwy na 40 o gleifion wedi cael eu trin, gan gynnwys Victoria Reitze, 55 oed o'r Barri.
"Pan ges i wybod fod 'na gemotherapi lliniarol ar gael i fi, roedd angen i fi feddwl am fy nghynllun diwedd oes," meddai.
"Roedd angen dewis lle ro'n i am farw. Ro'n i'n bwriadu cael gwylnos tra fy mod i dal yma achos do'n i ddim am adael i neb gael parti hebdda i."

Roedd Victoria Reitze wedi dechrau trefnu ei hangladd cyn cael y driniaeth newydd
Ar ôl cael wyth rownd o gemotherapi, roedd y canser wedi clirio digon fel ei bod hi'n gymwys i dderbyn y driniaeth newydd.
"Doedd hi ddim yn bendant o gwbl y byddwn i'n cael fy newis ar gyfer y llawdriniaeth," ychwanegodd.
"Mae'r broses i gyd yn chwarae gyda'ch emosiynau - ry'ch chi'n mynd o wneud cynlluniau ar gyfer eich marwolaeth, rhoi trefn ar eich arian ac ati, ac wedyn mae rhywun yn cynnig gobaith i chi."
Ym Mehefin 2023 fe gafodd Ms Reitze lawdriniaeth i dynnu rhannau o'i horganau - gan gynnwys dros hanner ei iau.
Chwe wythnos yn ddiweddarach fe gafodd hi'r driniaeth newydd.
"Fe wnaeth y llawdriniaeth bara dros 10 awr - dwi'n deall pam bod y meini prawf mor llym, achos mae angen meddwl am yr effeithiau meddyliol yn ogystal â'r elfen gorfforol," meddai.

Mae angen dod o hyd i ddatrysiad hirdymor, meddai'r Athro Jared Torkington
Dywedodd yr Athro Jared Torkington, llawfeddyg a chyfarwyddwr clinigol Moondance, fod angen strategaeth hirdymor i sicrhau fod y driniaeth yn parhau i gael ei gynnig i gleifion ar draws y wlad.
Pan fydd y cyllid presennol yn dod i ben ym mis Mai, fe fydd y driniaeth dal ar gael i gleifion cymwys yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, ble mae'r tîm llawfeddygol wedi eu lleoli.
Mae cais wedi cael ei wneud i reolwyr iechyd i sicrhau cyllid hir dymor i gynnal y gwasanaeth cenedlaethol.
"Yr hyn 'da ni'n ofyn amdano yw i'r GIG dderbyn fod yna driniaeth sy'n gallu achub bywydau ar gael i gleifion yng Nghymru," meddai'r Athro Torkington.
Awgrymodd y byddai cynnal system genedlaethol yn costio lawer llai i'r llywodraeth a'r GIG na'r gost o anfon cleifion i Loegr i gael eu trin.
Ar hyn o bryd mae yna bum canolfan yn Lloegr sy'n cynnig y driniaeth, yn ogystal â chanolfannau yn yr Alban ac Iwerddon.

Mae Victoria Reitze a'i gŵr wedi bod yn teithio'r byd ers gwella o'r llawdriniaeth
Ar ôl trin y canser, mae Ms Reitze a'i gŵr wedi bod yn ceisio teithio cymaint â phosib, ond er y rhyddhad mae hi'n dal i deimlo'n "euog" o wybod fod cymaint o bobl eraill yng Nghymru heb gael cynnig triniaeth o'r fath.
"Dydw i ddim yr un person gan fod y ffordd yr ydw i'n symud wedi cael ei effeithio, ond fe wnaethon ni eistedd ar draeth yn gwylio'r haul yn machlud ddoe a doedden ni byth yn meddwl y byddwn ni'n gweld hynny eto," meddai.
"'Da ni wedi cael ein bywydau ni'n ôl. Mae'n fywyd gwahanol, ac mae angen addasu i'r normal newydd, ond mae'n bris bach iawn i'w dalu i gael byw."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n disgwyl i'r GIG gomisiynu triniaethau canser yn unol â chyngor y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).
"O ran triniaethau sydd ddim ar gael fel rheol, mae modd i glinigwyr wneud cais cyllido claf unigol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2024