Y côr sy'n annog dynion i gael 'sgyrsiau anodd' am ganser

Jeff Price
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jeff Price wybod yn 2022 y byddai, efallai, ond yn byw am flwyddyn arall

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Lantrisant gafodd ddiagnosis o ganser y prostad terfynol heb unrhyw symptomau amlwg yn annog dynion eraill i sicrhau eu bod nhw'n cael prawf.

Cafodd Jeff Price, 68, wybod bod ganddo ganser y prostad oedd eisoes wedi lledu i'w esgyrn yn 2022.

Mae wedi penderfynu cael sgyrsiau agored gydag aelodau eraill o'i gôr i geisio helpu eraill.

Y gobaith yw y bydd gwaith ymchwil arwyddocaol ym Mhrifysgol Caerdydd yn gallu helpu i ddatblygu triniaethau ar gyfer pobl fel Jeff yn y dyfodol.

Pan gafodd Jeff Price ddiagnosis o ganser y prostad, cafodd wybod efallai y byddai ond yn byw am flwyddyn arall.

Doedd ganddo ddim symptomau amlwg fel yr angen i fynd i'r tŷ bach yn amlach neu boen tra'n pasio dŵr.

Dywedodd Jeff y byddai weithiau yn pasio dŵr yn amlach ar ôl yfed cwrw, ond dim i'r fath raddau fod hynny wedi achosi unrhyw bryder iddo.

"Ro'n i'n mynd i'r toiled, ond dim mwy na'r arfer dwi'm yn meddwl. Fe ddaeth y cyfan allan o nunlle mewn ffordd, doedd gen i ddim syniad fod y canser yno. Roedd yr holl beth yn sioc, ac yn od iawn i ddweud y gwir," meddai.

Ar ôl teimlo poen fe aeth Jeff at y meddyg ac fe arweiniodd hynny at y diagnosis o ganser.

"Roedd y profion yn dangos fod y canser wedi symud o'r prostad i'r esgyrn, sy'n swnio'n debyg iawn i'r hyn yr oedd Syr Chris Hoy yn ei ddweud am ei salwch ef yn ddiweddar."

Disgrifiad o’r llun,

Mae aelodau'r côr bellach yn trafod y cyflwr yn ystod ymarferion

Roedd Jeff eisiau rhannu'r newyddion am ei ddiagnosis, gyda'i ffrindiau agos yn gyntaf cyn dweud wrth y tua 50 o aelodau yng Nghôr Meibion Llantrisant.

"Wedes i, 'mae gen i hyn', 'cerwch am brawf', 'mae'n rhaid i chi gael eich profi'."

Awgrymodd fod dynion yn annhebygol o drafod materion iechyd gan nad yw'n cael ei weld fel rhywbeth "macho".

Ond ar ôl rhannu ei brofiad gyda'r côr, dywedodd fod aelodau eraill wedi datgelu fod ganddyn nhw ganser y prostad hefyd.

Erbyn hyn mae'r aelodau yn aml yn trafod y cyflwr cyn ac ar ôl ymarferion.

Cafodd Dave Crabb, aeloda arall o'r côr, wybod fod ganddo ganser y prostad bron i bum mlynedd yn ôl wedi i ffrind annog iddo fynd am brawf.

"Ges i brawf, ac yna ges i lawdriniaeth. Dwi'n cael prawf bob chwe mis erbyn hyn," meddai Mr Crabb, 62.

"Mae'r cyfraddau gwella yn anhygoel, ond dyw dynion just ddim yn mynd am brawf.

"Nes i ddweud wrth ddau chwaraewr rygbi ifanc i fynd i gael eu profi, ac mae'r ddau wedi dod 'nol yn dweud bod canser arnyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dave Crabb bellach yn glir o ganser ar ôl cael diagnosis bron i bum mlynedd yn ôl

Mae Colin Williams, 64, yn anfon negeseuon rheolaidd i aelodau eraill y côr yn eu hatgoffa i fynd am brawf, ac i'w gwneud yn glir bod cefnogaeth ar gael.

"Ry'n ni'n galw'r côr yn glwb dynion erbyn hyn, mae'r clwb gorau allwch chi ymuno ag ef," meddai.

"Gan ein bod yn treulio cymaint o amser gyda'n gilydd ry'n ni'n ymddiried yn ein gilydd yn llwyr ac yn helpu ein gilydd.

"Mae hi mor hawdd siarad gyda'n gilydd am unrhyw beth erbyn hyn. Does dim sgyrsiau anodd neu bynciau tabŵ ymhlith dynion y côr erbyn hyn."

Mae Prifysgol Caerdydd bellach yn gwneud gwaith ymchwil yn y gobaith o ddatblygu triniaethau ar gyfer pobl sy'n canfod canser yn hwyr.

Dr Helen Pearson sy'n arwain yr ymchwil i foleciwlau sy'n annog celloedd i dyfu mewn modd anarferol.

"Os allwn ni adnabod y moleciwlau hynny a'u targedu, yna fe allwn ni stopio'r celloedd canser rhag tyfu, ond ry' ni hefyd yn gobeithio defnyddio'r moleciwlau hyn i ddatblygu triniaethau eraill," meddai.

"Be y' ni'n ceisio ei wneud yw rhoi cyfle i bobl sy'n cael diagnosis hwyr i dderbyn triniaethau am yn hirach."

Ond mae hi'n ddyddiau cynnar o ran y gwaith ymchwil, ac fe allai hi gymryd degawd tan fod modd defnyddio'r gwaith i wella triniaeth cleifion.

'Agoriad llygad'

Ar ol mynd i'r labordai i weld y gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud, dywedodd Jeff fod y cyfan yn "agoriad llygad".

"Mae'r gwaith mae'r criw yma yn ei wneud yn cael effaith ar y meddyginiaethau dwi a phobl eraill yn eu cymryd er mwyn ymestyn ein bywydau," meddai.

Mae Jeff yn dweud ei fod yn trafod canser y prostad gydag unrhyw un sy'n fodlon gwrando, a hyd yn oed yn siarad gyda dieithriaid ar y bỳs am y peth o dro i dro.

Doedd Jeff ddim yn arfer dathlu penblwyddi riw lawer, ond ers cael y diagnosis mae'n edrych ymlaen at y nesaf.

"Mae gen i fy mhen-blwydd yn 69 ymhen tri mis ac yna un mawr mewn 15 mis. Croesi bysedd y bydd hwnnw yn ddathliad mawr.

"Mae o yng nghefn fy meddwl, fod y cyfan am ddal fyny gyda fi yn y pen draw, ond dwi ar fy ffordd i gyrraedd 70. Fyddwn i wrth fy modd yn gweld 71,72,72 a hyd yn oed 80 efallai."

Pynciau cysylltiedig