Eluned Morgan yn gwahodd Plaid Cymru i'w helpu i basio'r gyllideb
- Cyhoeddwyd
Mae prif weinidog Cymru wedi gofyn i Blaid Cymru ei helpu i basio'r gyllideb eleni.
Dywedodd Eluned Morgan yn ystod Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn y Senedd fod "gwahoddiad" agored i'r blaid.
Gydag union hanner 60 sedd y Senedd, mae angen o leiaf un Aelod o'r Senedd o’r gwrthbleidiau ar Lafur i naill ai ymatal neu gefnogi'r gyllideb er mwyn iddi basio.
Ar hyn o bryd does dim cytundeb, er i Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, ddweud ar y penwythnos fod yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn siarad â phob gwrthblaid, gan gynnwys hi.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud fodd bynnag nad eu gwaith nhw yw helpu Llafur Cymru i basio eu cyllideb.
'Cyllid teg i Gymru'
Bydd Mark Drakeford yn cyflwyno ei gyllideb i'r Senedd ar 10 Rhagfyr. Bydd pleidlais dyngedfennol arni - un y bydd Llafur angen cymorth - yn cael ei chynnal yn y flwyddyn newydd.
Mae BBC Cymru wedi dysgu bod cyfarfod wedi ei gynnal yn ddiweddar rhwng cynrychiolydd Plaid Cymru a'r Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford.
Dywedodd ffynhonnell Plaid Cymru fod y cyfarfod yn sesiwn friffio ffeithiol am y gyllideb, ac nad oedd "unrhyw drafodaethau ar gytundeb cyllidebol" yn cael eu cynnal.
Mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, am weld Llafur yn sicrhau "cyllid teg i Gymru" - gan gynnwys dros reilffyrdd cyflym HS2 - cyn y byddai ei blaid yn ystyried cefnogi cynlluniau Llywodraeth Cymru.
Daeth sylwadau Eluned Morgan wedi i Heledd Fychan, llefarydd cyllid Plaid Cymru, gwyno am doriadau i Gyngor Llyfrau Cymru.
Dywedodd fod y Cyngor Llyfrau wedi datgan bod eu cyllid wedi gostwng 40% mewn termau real yn y deng mlynedd diwethaf. Roedd nifer o gyhoeddwyr fel Y Lolfa, meddai, yn ansicr a fydden nhw’n gallu parhau i weithredu.
Mewn ymateb, dywedodd Eluned Morgan fod pwysau ariannol ar y llywodraeth.
Meddai, "fel lot o ardaloedd eraill yn y gyllideb, gwelon ni doriadau er mwyn sicrhau ein bod ni'n rhoi'r arian yna i ddiogelu pethau fel iechyd, sydd hefyd yn flaenoriaeth i bobl Cymru.
"Mae hwnna'n rhan o'r ffaith bod yna gamreoli'r economi wedi digwydd - effaith chwyddiant hefyd.
"Wrth gwrs, ry' ni yn y broses ar hyn o bryd o wneud penderfyniadau ar y gyllideb. Mae gwahoddiad i chi i drafod gyda ni.
"Mae yna reswm i chi efallai drafod gyda ni, os yw hwn yn rhywbeth sy'n bwysig i chi, efallai i'n helpu ni gyda'r cyllid. Mae hwnna'n wahoddiad i chi drafod gyda ni, os mai hwn yw'r wir flaenoriaeth sydd gyda chi."
Roedd Plaid Cymru mewn cytundeb cydweithio gyda gweinidogion Llafur Cymru tan yr haf, pan ddaeth y blaid â’r cytundeb i ben yn gynnar.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd
- Cyhoeddwyd25 Hydref