'Safonau mathemateg yn isel ac ansawdd dysgu yn anghyson'

Athro o flaen bwrdd gwyn mewn dosbarthFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae safonau mathemateg yng Nghymru yn rhy isel ac ansawdd yr addysg yn anghyson, yn ôl yr arolygwyr Estyn.

Dywedodd adroddiad bod "dirywiad pryderus" yn y gefnogaeth a hyfforddiant arbenigol i athrawon ar y pwnc, a diffyg dealltwriaeth am ofynion y Cwricwlwm i Gymru.

Bu cwymp sylweddol yng nghanlyniadau mathemateg disgyblion Cymru yn y profion rhyngwladol Pisa diweddaraf.

Dywedodd y Prif Arolygydd Addysg, Owen Evans bod gormod o ddisgyblion ddim yn cyrraedd eu llawn botensial.

"Mae addysg fathemateg gref yn hanfodol, nid yn unig i ddyfodol unigolion, ond i ffyniant Cymru yn y dyfodol", meddai.

Perfformiad merched wedi 'dirywio'n sylweddol'

Yn ôl yr adroddiad roedd yr arolygwyr wedi arsylwi "agweddau" o addysgu mathemateg effeithiol, ond yn gyffredinol roedd "ansawdd addysgu mathemateg yn rhy amrywiol ac roedd safonau disgyblion mewn mathemateg yn rhy isel".

Roedd y problemau'n cynnwys athrawon yn cynllunio tasgau i gadw disgyblion yn brysur yn hytrach na chanolbwyntio ar yr hyn roedden nhw am iddyn nhw ei ddysgu, yn ogystal â pheidio herio myfyrwyr digon.

Dywedodd yr adroddiad bod addysgu'n fwy effeithiol pan oedd gan athrawon ddisgwyliadau uchel a phan oedd disgyblion yn cael eu herio.

Ond "mewn mwyafrif o achosion, roedd cynnydd disgyblion wedi'i gyfyngu gan agweddau ar addysgu gwael".

"Yn gyffredinol, disgyblion oedd ag agweddau cadarnhaol ac yn mwynhau dysgu mathemateg oedd yn gwneud y cynnydd gorau", meddai arolygwyr.

Atho mathemategFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd rhai ysgolion yn cynnwys rhieni yn yr ymdrechion i ddysgu mathemateg ac yn trefnu dosbarthiadau mathemateg ar eu cyfer.

Fe wnaeth Estyn ganmol un ysgol - Ysgol Uwchradd Aberteifi - lle'r oedd pob athro yn yr adran yn rhoi'r neges i ddisgyblion nad oedden nhw'n cael dweud eu bod yn wan mewn mathemateg.

Roedd polisi hefyd bod rhaid i bob un o'r athrawon siarad yn gadarnhaol am fathemateg.

Disgyblion ddim yn cyrraedd potensial

Ond roedd pryderon eraill yn yr adroddiad yn cynnwys "diffyg dealltwriaeth o ofynion a chanllawiau Cwricwlwm i Gymru" a doedd athrawon yn aml ddim yn gwybod pwy i holi i gael eglurhad.

Ychwanegodd bod "diffyg cymdeithasau neu grwpiau proffesiynol yng Nghymru y gallai athrawon mathemateg ofyn iddynt am gyngor".

Fe wnaeth arweinwyr ysgolion ddweud wrth Estyn ei bod yn gynyddol anodd recriwtio arbenigwyr mathemateg ac felly roedd mwy o athrawon mathemateg oedd ddim yn arbenigo yn y pwnc.

Dywedodd yr adroddiad bod ansawdd cyrsiau ymarfer dysgu ar gyfer mathemateg hefyd yn "rhy amrywiol".

'Recriwtio yn argyfyngus'

Mae Dr Gareth Evans yn bennaeth Mathemateg yn Ysgol y Creuddyn, Llandudno ac ers degawd wedi bod yn cyflwyno gwersi ar sianel YouTube ac yn fwy diweddar ar gyfrif TikTok.

Mae'n dweud mai'r broblem fwyaf ar hyn o bryd yw recriwtio athrawon.

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd: "Does dim cwrs Mathemateg ar hyn o bryd ym Mangor, er enghraifft, a does dim modd hyfforddi i fod yn athro Mathemateg yn Aberystwyth ac o ganlyniad does dim pobl yn dod fewn i'r proffesiwn.

"Hefyd mae'n loteri ar draws Cymru pa hyfforddiant y mae athrawon yn ei gael wedyn.

"Mae recriwtio yn argyfyngus. Os 'dan ni'n gallu cael athrawon Mathemateg cymwys i mewn i'r proffesiwn a'u cadw nhw yna byddai hynny yn talu ar ei ganfed yn y dyfodol."

Roedd canlyniadau Pisa yn dystiolaeth bod safonau mewn mathemateg yn rhy isel, meddai'r adroddiad.

Ar ben hynny, roedd perfformiad merched yn arbennig mewn TGAU wedi "dirywio'n sylweddol" ers 2018-19.

"Yn 2023-2024, roedd benywod, ar gyfartaledd, yn perfformio tua thraean o radd yn waeth mewn mathemateg a rhifedd nag yn 2018-2019".

Mae'r bwlch rhwng disgyblion sy'n gymwys am ginio ysgol am ddim a'u cyfoedion wedi ehangu hefyd.

Mae adroddiad Estyn yn edrych ar ddysgu mathemateg i blant rhwng saith ac 16 oed ac yn seiliedig ar dystiolaeth o arolygiadau ac ymweliadau i sampl o ysgolion.

Dywedodd bod sgiliau gwan mathemateg yn cael "effaith sylweddol ar yr economi" ac "mewn oes sy'n gynyddol ddigidol a thechnegol, mae'r angen am safonau rhifedd priodol yn bwysicach nag erioed".

Dywedodd y Prif Arolygydd, Owen Evans: "Mae gormod o ddisgyblion yng Nghymru nad ydyn nhw'n cyrraedd eu llawn botensial mewn mathemateg oherwydd bod ansawdd yr addysgu a'r arweinyddiaeth yn amrywio mor eang rhwng ysgolion."

Dywedodd bod angen "codi disgwyliadau ar gyfer pob un dysgwr" a darparu hyfforddiant a chymorth arbenigol i'r athrawon.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod "arweiniad gwan, tan-fuddsoddiad cronig a diffyg cefnogaeth i athrawon" gan Lafur yn peryglu'r dyfodol i blant.

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru bod "codi safonau mathemateg a rhifedd yn flaenoriaeth", a'u bod yn rhoi "£6.5m ar gyfer prosiectau mathemateg a rhifedd dros dair blynedd", gan roi "adnoddau i ysgolion fynd i'r afael â'r materion yn adroddiad Estyn yn uniongyrchol".

Pynciau cysylltiedig