Carcharu deliwr cyffuriau am lofruddio dyn â 'chyllell enfawr'
- Cyhoeddwyd
Mae deliwr cyffuriau a drywanodd ddyn meddw yn ei frest â chyllell enfawr wedi cael dedfryd oes yn y carchar.
Cafodd Lee Crewe, 36, ei drywanu i farwolaeth ar Heol Cas-gwent yn ardal Maendy yng Nghasnewydd ym mis Mai 2024.
Roedd David Sisman, 21 oed o Gasnewydd, wedi cyfaddef iddo werthu cyffuriau'r noson honno ac wedi cyfaddef iddo drywanu â chyllell, ond roedd yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd ddydd Iau y byddai Sisman yn treulio isafswm o 24 mlynedd dan glo.
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd22 Mai 2024
- Cyhoeddwyd19 Mai 2024
Ar 14 Mai eleni cafodd Mr Crewe ei drywanu gan Sisman ar Heol Cas-gwent a bu farw o'i anafiadau.
Fe wnaeth Sisman ffoi o'r safle gan geisio cael gwared a'r arf gafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad, yn ogystal â newid ei ddillad a theithio i Fryste.
Dywedodd Mark Cotter KC ar ran yr erlyniad wrth yr achos fod Mr Crewe yn "ddyn meddw heb unrhyw arf" a'i fod yn ceisio dianc wrth i Sisman ymosod arno.
Yn ôl Tom Crowther KC, a oedd yn amddiffyn Sisman, roedd ei gleient yn ceisio amddiffyn ei hun rhag Mr Crewe.
Ychwanegodd fod Sisman wedi estyn y gyllell "yng ngwres y foment" a thrywanu Mr Crewe a oedd yn "ddyn llawer mwy" oherwydd ei fod yn ofni am ei ddiogelwch ei hun.
Mewn gwrandawiad ar 1 Tachwedd, fe ddyfarnodd y rheithgor yn Llys y Goron Casnewydd yn unfrydol fod David Sisman yn euog o lofruddiaeth.
Dywedodd rhieni Mr Crewe, Joanne a David, mewn datganiad: "Cafodd ein bywydau eu chwalu yn deilchion ar 14 Mai pan gafodd ein mab ei drywanu a'i ladd gan David Sisman.
"Roedd Lee yn ddoniol ac yn gymeriad mawr oedd yn cael ei garu gan gymaint, a doedd o ddim yn haeddu marw fel hyn yn 36 oed.
"Mae'r chwe mis diwethaf wedi bod yn hunllef, ond hoffem ddiolch i Heddlu Gwent am eu gwaith caled a'r gefnogaeth yr ydym ni wedi ei dderbyn yn ystod y cyfnod anodd yma.
"Ni all unrhyw beth ddod â Lee yn ôl, ond fe fydd y ddedfryd yma'n sicrhau nad yw'r llwfrgi, David Sisman allan ar ein strydoedd a gobeithio y bydd pobl yn meddwl ddwywaith cyn dewis cario cyllell."