Cwestiynu hygrededd Cwpan Cymru ar ôl i gemau gael eu datgelu'n gynnar

Cwpan Cymru Ffynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd manylion rhai gemau ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru eu rhyddhau yn gynnar ar y cyfyngau cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC) wedi gorfod amddiffyn hygrededd Cwpan Cymru yn sgil pryderon am y ffordd y cafodd gemau eu dewis.

Cafodd manylion rhai gemau ym mhedwaredd rownd y gystadleuaeth eu rhyddhau yn gynnar ar y cyfyngau cymdeithasol yn gynharach yr wythnos hon.

Mae un o glybiau'r Cymru Premier bellach yn cwestiynu prosesau'r gymdeithas ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod y gemau wedi eu dewis dros 48 awr cyn i CBDC ffrydio hynny ar-lein nos Iau.

Mae'r gymdeithas wedi bod yn recordio o flaen llaw cyn ffrydio ers sawl blwyddyn, ond mae'n ymddangos nad oedd pawb yn ymwybodol o hynny.

Dywedodd CPD Y Fflint ei fod yn "warthus bod y sïon oedd yn cael eu rhannu ar-lein nos Fawrth yn wir" ac y gallai hynny effeithio ar hygrededd y broses.

"Mae draw sy'n cael ei recordio yn gallu cael ei stopio neu ei newid, a dyna pam eu bod nhw'n cael eu dangos yn fyw - er mwyn cynnal hygrededd a gonestrwydd," meddai cadeirydd Y Fflint, Darryl Williams.

Rhyddhau gemau yn 'tanseilio'r cyffro'

Dywedodd CBDC eu bod am ymchwilio i'r ffaith bod rhai o'r gemau wedi eu rhyddhau, ond maen nhw wedi amddiffyn eu prosesau.

Mae recordio o flaen llaw, meddai llefarydd, yn eu galluogi i roi "llwyfan teg a chyfartal i bob rownd - o'r gemau rhagbrofol i'r rownd gynderfynol".

"Mae'n ein galluogi hefyd i ychwanegu elfennau gweledol a phecynnau fideo o glybiau ar hyd y wlad yn ogystal â'r ffaith fod pob clwb yn cael gweld eu henw yn dod allan o'r bowlen.

"Yn anffodus, ar yr achlysur yma, cafodd y gemau eu rhyddhau yn gynnar - rhywbeth sy'n tanseilio'r cyffro sy'n deillio o weld cymaint o gemau diddorol.

"Unwaith mae'r broses wedi ei chwblhau mae'r gemau yn cael eu rhannu gyda nifer fach o bobl dan embargo.

"Gyda'r embargo yma'n cael ei dorri, fe fydd CBDC yn ymchwilio i'r mater i ddeall sut y mae hyn wedi gallu digwydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.