Georgia Ruth: 'Braint bod gyda Iwan' yn y cyfnod wedi'r strôc

Iwan a GeorgiaFfynhonnell y llun, Georgia Ruth
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cerddor Georgia Ruth wedi dweud ei bod hi "erioed wedi gweld neb mor ddewr" â'i gŵr wrth iddo wella ar ôl cael strôc.

Cafodd Iwan Huws, prif leisydd y grŵp poblogaidd, Cowbois Rhos Botwnnog, ei daro'n wael tra'n perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau y llynedd.

Wrth siarad ar raglen Beti a'i Phobol, dywedodd Georgia fod Iwan bellach yn trin y profiad "bron fel anrheg" ac yn "chwarae gitâr bob dydd".

Ddydd Gwener, daeth cyhoeddiad fod Cowbois yn dychwelyd i Sesiwn Fawr ym mis Gorffennaf eleni i gigio am y tro cyntaf ers y digwyddiad.

'Mynd i crisis mode'

Yn 2023, fe siaradodd Iwan Huws gyda Cymru Fyw am y profiad o wella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei galon.

Ond ychydig fisoedd wedyn, tra'n perfformio set ar lwyfan Sesiwn Fawr, fe gafodd Iwan strôc.

"O'dd e ddim yn rhywbeth gallai unrhyw un fod wedi ei weld yn dod achos ei oed e, o'dd e'n ifanc," meddai Georgia.

"O'n i adref gyda'r plant, o'dd hi'n ddiwrnod cyntaf gwyliau'r haf. O'dd e wedi mynd yn y bore a fi'n cofio dweud wrth y plant na fydd Dad yn ôl tan fory.

"Wedyn yn ganol nos, cael llwyth o alwadau ffôn a meddwl 'oh heck, be sydd wedi digwydd?'.

"Efo rhywbeth fel 'na, chi just yn mynd i crisis mode a chi just yn 'neud beth sydd angen ei wneud.

"Oedd e'n ffodus iawn bod yna ddoctoriaid yn y gynulleidfa, a doctoriaid sy'n rhan o deulu'r band, a rhaid i mi ddiolch i bob un ohonyn nhw am sut wnaethon nhw edrych ar ei ôl e a chael e i le saff."

Radio 2 Live in Hyde Park. Georgia Ruth and her band perform on the Introducing Stage. Medi 2013
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan a Georgia - yma yn 2013 ar lwyfan Hyde Park yng ngŵyl Radio 2 yn 2013 - wedi perfformio gyda'i gilydd am flynyddoedd

Er nad oedd yn amlwg yn syth, daeth yn glir yn ddiweddarach fod Iwan wedi cael strôc.

"'Nath yr ambiwlans ddim dod yn syth, o'dd e'n fater o aros... o'dd e'n sawl awr, ac ar y pryd doedd e ddim yn amlwg beth oedd wedi digwydd," meddai Georgia.

"O'dd marc cwestiwn dros beth oedd wedi digwydd a 'nath e gymryd 'chydig ddyddiau yn [Ysbyty Bronglais] Aberystwyth i bethau ddod yn glir.

"Mae e 'di bod mor lwcus - o'r gofal gath e, y gwasanaeth brys gan y doctoriaid ym Mronglais, a lwcus hefyd ei fod e wedi gallu gwella.

"Ma' fe'n 'neud mor dda, y dewrder 'na - fi 'rioed 'di gweld neb mor ddewr."

Disgrifiad,

Mab Georgia ac Iwan, Now, yn ymuno â gweddill Cowbois Rhos Botwnnog i dderbyn Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2024

Ychwanegodd: "O'dd e'n fraint cael bod gyda fe'n mynd trwy hynny a dwi'n credu mewn ffordd ryfedd, mae e'n dweud fod y profiad yma wedi ei ryddhau e o'r syniad bo' chi'n gallu rheoli unrhyw beth.

"Unwaith chi'n sylweddoli hynny, ma' 'na rywbeth eithaf liberating amdano fe.

"Chi'n deall fod bywyd yn eithaf random, bod e ddim yn deg a dyw e ddim yn gwneud lot o synnwyr.

"Ma' fe'n cymryd e bron fel anrheg, ma' fe dal i chwarae miwsig, ma' fe'n chwarae gitâr bob dydd, felly mae hynny'n dod 'nôl hefyd."

'Ofn colli'r awydd i greu'

Mae'r gân 'Chemistry' ar albwm diweddaraf Georgia - 'Cool Head' - yn sôn am y penderfyniad i gymryd cyffuriau gwrth-iselder.

"Yn eironig, roedd o'n benderfyniad nes i gymryd sbel cyn i hyn i gyd ddigwydd [gyda Iwan]," meddai.

"O'n i 'di hanner ystyried ers blynyddoedd... yn bennaf oherwydd y stage fright a'r gorbryder o'n i'n ei brofi ar y pryd.

"Erbyn i be' ddigwyddodd ddigwydd o'n i wedi bod yn cymryd y moddion hyn ers sbel fach, felly o'n i mewn lle gymaint gwell i allu delio â'r sefyllfa. Ond fyddai'n meddwl weithiau tybed sut fyddai hynny wedi bod hebddyn nhw?

"I fi, mae'r feddyginiaeth yna wedi bod yn wych, ac mae'n gallu bod yn newid byd.

"Ma' 'na stigma, ac o'dd 'na stigma internalised gen i - y teimlad o 'dylwn i ddod trwy hyn efo meddwlgarwch neu therapi' - ond o'n i'n sylwi bod e'n fater cemegol, felly fydde trin e yn gemegol yn ateb da.

"O'n i ofn y byddwn i'n colli'r awydd i greu, ond fi wedi bod yn hynod o lwcus yn hynny o beth."

Georgia RuthFfynhonnell y llun, Sam Stevens
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Georgia Ruth gyflwyno ei rhaglen ar BBC Radio Cymru yn 2011

Bu Georgia yn trafod ei gyrfa gerddorol, ei phrofiad fel mam a'i pherthynas gyda'r iaith Gymraeg.

Dywedodd nad oedd yn teimlo fod ganddi "acen Gymraeg authentic", ond ei bod yn mwynhau'r amrywiaeth o ganu'n y ddwy iaith.

"Mae'r iaith Gymraeg yn caniatáu i fi ddweud pethau mewn ffordd gallwn i ddim ei ddweud yn Saesneg," meddai.

"Dwi'n cael pleser mas o 'neud e fel ma'r iaith isie fi 'neud e. Ma' 'na harddwch yn hynny."

Beti a'i Phobol

gyda Georgia Ruth