Tesco yn ymddiheuro am hyrwyddo tîm merched Lloegr yng Nghymru

Mae Tesco wedi ymddiheuro am arddangos stondin yn hyrwyddo'r Lionesses yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni Tesco wedi ymddiheuro am fod â stondin oedd yn hyrwyddo tîm merched Lloegr mewn siop yng Nghaerdydd.
Roedd stondin Lucozade yn hysbysebu'r cyfle i gwrdd â'r tîm.
Fe gafodd rhai cwsmeriaid sioc o weld yr arddangosfa a oedd yn cynnwys y Lionesses mewn lle amlwg wrth fynedfa'r siop ar Rodfa'r Gorllewin a hynny ychydig wythnosau'n unig cyn i Gymru wynebu Lloegr yn Ewro 2025 yn y Swistir.
Roedd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBC), Noel Mooney, ymhlith y rhai a leisiodd ei ddicter ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud "Cymru ydyn ni".
Dywedodd Tesco eu bod wedi tynnu'r arddangosfa o'r siop ers hynny, a dymunodd y cwmni bob lwc i dimau Cymru a Lloegr yn y gystadleuaeth.

Bydd tîm merched Cymru yn cystadlu ym mhencampwriaeth yr Ewros am y tro cyntaf, ble byddan nhw'n wynebu Lloegr
Fe ddisgrifiodd un siopiwr y sefyllfa'n "hynod sarhaus" gan alw ar Tesco i fod yn ymwybodol o'r sefyllfa wrth i ferched Cymru baratoi ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf yn un o'r prif gystadlaethau.
"Dw i wir ddim yn deall sut mae hyn yn digwydd. Sut nad oes rhywun rhywle ddim wedi meddwl bod hwn yn syniad gwael?" meddai.
"Ydy'r [stondinau] rhain i fyny yn yr Alban hefyd?"
Dywedodd unigolyn ei fod yn "gywilyddus" gan ychwanegu: "Mae'n rhaid ei bod hi'n hyfryd i'n tîm merched ni, i gerdded i mewn i Tesco a gweld tîm merched Lloegr yno."
Mewn datganiad fe ddywedodd Tesco fod yr arddangosfa wedi cael ei gosod yn "anghywir" yn y siop.
Ychwanegon nhw: "Mi fydd llawer o'n cydweithwyr a'n cwsmeriaid yn cefnogi eu gwledydd eu hunain o fewn y Deyrnas Unedig".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd8 Mehefin