Jess Davies: 'Trist' stopio pêl-droed yn 14 gan bod hi'n ferch

Jess Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd diffyg sylw i ferched mewn chwaraeon a bod yn hunanymwybodol o'i chorff yn rhwystr i'r cyflwynydd Jess Davies

  • Cyhoeddwyd

Mae'r ymgyrchydd hawliau merched a chyn-fodel 'glamour' Jess Davies wedi dweud ei bod wedi rhoi'r gorau i chwaraeon yn ei harddegau oherwydd ei bod mor hunanymwybodol.

Roedd y cyflwynydd o Aberystwyth yn "caru" chwarae pêl-droed pan oedd hi'n blentyn ond newidiodd pethau wrth i'w chorff newid yn ystod cyfnod glasoed ac roedd hi'n ofn cael ei barnu.

Mae ei phrofiad yn adlewyrchu sefyllfa gyffredin gydag ymchwil yn dangos bod canran uchel o ferched yn eu harddegau yn rhoi'r gorau i chwaraeon am resymau tebyg.

Ychwanegodd Ms Davies bod diffyg menywod i'w hysbrydoli yn ystod y cyfnod hefyd yn broblem ond bod hynny wedi gwella erbyn heddiw.

"Ro'n i'n rili rili caru pêl-droed ond [15 mlynedd nôl] doedd 'na ddim rili timau merched fel mae 'na y dyddiau yma i edrych lan i," meddai ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.

"So yn anffodus o'n i yn teimlo pryd o'n i tua 14, o'n i yn swil am y ffaith bod fi'n chwarae gêm sydd 'for boys' fel oedden nhw'n dweud, a bod rhaid i fi wisgo football kit.

"Ro'n i'n rili poeni am hynny a be' mae pobl yn mynd i ddeud a phoeni amdano gwisgo kit pan oedd bronnau fi'n dangos a bob dim fel yna felly 'nes i stopio chwarae pan o'n i'n 14. Roedd hynny'n rili drist achos o'n i dal yn caru fe.

"A fi'n dal yn caru pêl-droed nawr. Fi wastad yn mynd i'r gemau - dynion a merched - ond nath e stopio achos mod i'n poeni - fel mae lot o ferched dal yn poeni am chwarae pêl-droed a chwarae chwaraeon pan chi yn eich teens chi."

'Grêt i weld bod pethe wedi symud ymlaen'

Daeth Ms Davies i amlygrwydd gyntaf 15 mlynedd yn ôl fel model 'glamour' mewn cylchgronau i ddynion.

Yn fwy diweddar mae hi wedi ymgyrchu dros hawliau merched ac wedi cyflwyno rhaglenni a chyhoeddi llyfr sy'n edrych ar y twf ym mhoblogrwydd cynnwys ar-lein yn erbyn menywod.

Mae hi hefyd wedi siarad am sut mae lluniau ohoni wedi cael eu camddefnyddio cannoedd o weithiau ar-lein a sut y cafodd ei thwyllo i gyhoeddi lluniau bron noeth ohoni ei hunam y tro cyntaf pan oedd hi'n 18 oed.

Chwaraewyr tim pel-droed Cymru yn dathluFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae proffil pêl-droed merched yng Nghymru wedi tyfu'n sylweddol ers i dîm Cymru gyrraedd Euro 2025

Yn ei chyfweliad ar Radio Cymru dywedodd Ms Davies, a oedd hefyd yn chwarae hoci a phêl-rwyd pan oedd hi'n iau, bod agweddau tuag at chwaraeon menywod wedi newid ers iddi hi fod yn yr ysgol.

Meddai: "Ma' fe'n rili amazing i weld nawr bod lot o ferched chwaraeon yn cael eu dathlu - pêl-droed, ond hefyd pethau eraill fel pêl-rwyd ar S4C nawr.

"O'n i ddim efo pobl fel yna - merched fel yna - i edrych lan i pryd o'n i'n mynd i'r ysgol felly o'n i'n teimlo fel 'oh my gosh dim ond byd i fechgyn yw hwn'.

"So ma' fe'n rili grêt i weld bod e wedi symud ymlaen."

  • Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol am 18:00 dydd Sul, 8 Mehefin neu ar BBC Sounds.

Pynciau cysylltiedig