Ethan Ampadu yn symud i Leeds o Chelsea am £7m
- Cyhoeddwyd
Mae Leeds United wedi arwyddo chwaraewr Cymru, Ethan Ampadu, o Chelsea ar gytundeb pedair blynedd.
Credir bod Leeds wedi talu ffi o tua £7m am y chwaraewr 22 oed, ond gall hynny gynyddu yn dibynnu ar ei berfformiad.
Fe wnaeth Ampadu, sydd â 44 o gapiau rhyngwladol, arwyddo i Chelsea o Gaerwysg yn 2017, ond ni lwyddodd i dorri trwodd i'r tîm cyntaf.
Dros y pedwar tymor diwethaf mae wedi bod ar fenthyg yn Sheffield United, RB Leipzig yn Yr Almaen, a Venezia a Spezia yn Yr Eidal.
Bydd Ampadu felly yn gobeithio sefydlu ei hun yn nhîm Leeds yn y Bencampwriaeth, wedi i'r clwb ddisgyn o'r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2023