Medal aur i'r Gymraes Emma Finucane ar y trac seiclo

Mae Emma Finucane wedi ennill fedal aur ym Mhencampwriaethau Trac y Byd yn Ballerup, Denmarc
- Cyhoeddwyd
Mae'r bencampwraig seiclo Emma Finucane, o Gaerfyrddin, wedi ennill y ras wib unigol ym Mhencampwriaeth Trac y Byd i gipio ei hail fedal aur yn y gystadleuaeth ar ôl ei llwyddiant y llynedd.
Mae wedi bod yn flwyddyn arbennig i'r seiclwr 21 oed, a oedd yn rhan o'r triawd a enillodd fedal aur yn y ras wib i dimau a dwy fedal efydd yn y Gemau Olympaidd ym Mharis ym mis Awst.
Roedd Finucane yn rhy gryf i’r seiclwr o’r Iseldiroedd Hetty van de Wouw a Mina Sato o Japan a gurodd Sophie Capewell i gipio’r efydd yn y ras nos Wener.

Emma yn dathlu gyda'i theulu ar ôl y ras
“Mae’n anodd iawn ceisio amddiffyn teitl a delio â phwysau a disgwyliadau ond rydw i’n wirioneddol falch o’r person rydw i wedi dod yn gwneud hynny,” meddai Finucane, a enillodd ei theitl ras wib cyntaf yng Nglasgow y llynedd.
"Roeddwn i wir ei eisiau. Does dim byd yn hawdd. Mae gorffen gyda'r aur yn wallgof, mae'n deimlad anhygoel. Yn fy mhen roeddwn i eisiau mynd i ryfel.
"Dyna'r math o ofod pen sydd gennych i ddechrau sbrintio. Dydw i ddim yn berson ymosodol naturiol ond allan ar y trac rwy'n wahanol."
Daeth buddugoliaeth Finucane wrth i Brydain gasglu pum medal ar nos Wener lwyddiannus yn Ballerup, Denmarc.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2024
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024