Cyngor i drafod dyfodol dirprwy arweinydd wedi ffrae addysg Gymraeg

Bydd cyfarfod i drafod mesur o ddiffyg hyder yn Paul Miller ar 2 Mehefin
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal er mwyn trafod mesur o ddiffyg hyder yn nirprwy arweinydd Cyngor Sir Penfro, yn dilyn ffrae chwerw am addysg Gymraeg.
Fe fydd y cyfarfod i drafod y mesur diffyg hyder yn Paul Miller yn cael ei gynnal ddydd Llun nesaf.
Cafodd y cais am gyfarfod arbennig ei gyflwyno gan arweinydd y grŵp annibynnol, Huw Murphy, gyda chefnogaeth pedwar cyd-aelod o'r un grŵp.
Mae'r cais am gyfarfod bellach wedi ei dderbyn.
Mewn llythyr at lywydd y Cyngor, Dr Simon Hancock, mae'r Cynghorydd Murphy wedi honni bod y dirprwy arweinydd wedi defnyddio "iaith annerbyniol" wrth drafod Cynllun Strategol y Gymraeg mewn addysg.
Mewn cyfarfod o'r cabinet, dywedodd y Cynghorydd Miller ei fod yn 'nabod rhai rhieni oedd yn anfon eu plant i Ysgol Caer Elen am Hwlffordd oherwydd bod hi'n ysgol "dda" a doedden nhw "ddim yn poeni dim bod eu plant yn cael addysg Gymraeg".

Yn ôl Huw Murphy, mae sefyllfa'r Cynghorydd Miller yn "anghynaladwy" fel dirprwy arweinydd ac aelod o'r cabinet
Wedi ffrae am y sylwadau hynny dywedodd Mr Miller wrth y BBC: "Dydw i ddim yn derbyn am eiliad y dylen ni wneud unrhyw beth i atal unrhyw un rhag gwneud y dewis y maen nhw am ei wneud - boed hynny'n addysg cyfrwng Cymraeg neu'n addysg cyfrwng Saesneg."
Dywedodd fod cydraddoldeb rhwng y ddwy iaith yn "absoliwt", a gwadodd fod y cabinet yn "wrth-Gymraeg".
Ychwanegodd bod twf enfawr wedi bod mewn addysg cyfrwng Cymraeg o dan y weinyddiaeth bresennol.
Ond mae'r Cynghorydd Murphy yn honni bod y dirprwy arweinydd wedi "anwybyddu" cyngor y pwyllgor craffu addysg, uwch swyddogion addysg, Comisiynydd y Gymraeg a Mark Drakeford - yr ysgrifennydd cabinet sydd yn gyfrifol am y Gymraeg.
Yn ei gais at y llywydd, mae'n honni bod sefyllfa'r Cynghorydd Miller yn "anghynaladwy" fel dirprwy arweinydd ac aelod o'r cabinet.
Bydd y cyfarfod ddydd Llun, 2 Mehefin yn dechrau am 13:00 ac yn cael ei gynnal dros y we.